x
Cuddio'r dudalen

Brawd Ffrind Gyda Covid – Sut Gallaf Helpu?

Nid yw Maryam yn gwybod beth i ddweud wrth ei ffrind sydd yn poeni am ei brawd yn yr ysbyty gyda’r Coronafeirws. Mae wedi gofyn am help Coda’r Meic. Dyma ein cyngor ni.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.


Helo Meic,

Mae brawd mawr fy ffrind yn yr ysbyty gyda’r Coronafeirws a dwi ddim yn gwybod beth i ddweud i helpu. Mae meddwl amdano’n marw yn mynd trwy’r meddwl, ac felly nid yw’n teimlo’n iawn i ddweud, “Gobeithio bydd yn well yn  fuan”. Dwi’n gwybod bod ei theulu yn andros o drist am beidio gallu bod yno  gydag ef yn yr ysbyty. Beth ydw i’n gallu dweud neu wneud i helpu fy ffrind?

Maryam (*enw wedi’i newid i amddiffyn y person)

Cyngor Meic

Mae’n amlwg bod hyn yn anodd iawn i ti. Mae’n gwbl ddealladwy nad wyt ti’n gwybod beth i ddweud. Efallai bod dy deimladau di mor gymysglyd fel ei bod yn anodd dod o hyd i’r geiriau cywir, neu unrhyw eiriau o gwbl. Efallai dy fod di’n poeni am ddweud y peth anghywir neu am ypsetio dy ffrind fwy.

Ran amlaf, bydd ffrind yn cael cysur o wybod dy fod di yno a ddim yn sylwi na’n poeni nad wyt ti’n gallu meddwl am y geiriau cywir. Mae yna lawer o bobl fydd ddim yn cadw cysylltiad yn y sefyllfa yma, am eu bod yn teimlo’n annifyr gyda’r emosiynau sydd ynghlwm. Bydd y ffaith dy fod di eisiau helpu yn cael ei werthfawrogi. Hyd yn oed os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n gwneud dim, mae bod yno yn dweud dy fod di’n poeni.

Gad iddynt siarad

Pen gyda llinellau yn dod o'r geg ar gyfer erthygl helpu ffrind

Efallai gallet ti ofyn i dy ffrind os yw eisiau siarad am ei theimladau. Bydd hyn yn rhoi’r opsiwn iddi siarad, ond os nad yw’n teimlo fel gwneud gallai ddewis peidio hefyd. Gwranda ar beth sydd ganddi i ddweud, a derbyn y ffaith efallai bydd un ohonoch yn crio neu’n teimlo’n flin. Mae’r rhain yn ymatebion naturiol o dan yr amgylchiadau. Bydda’n onest â hi, dweud dy fod di’n teimlo’n anghyfforddus; efallai ei bod hi’n teimlo’n anghyfforddus hefyd. Mae’n hollol iawn i ti gyfaddef nad wyt ti’n gwybod beth i ddweud.

Gallet ti ddangos iddi sut rwyt ti’n teimlo wrth ddweud rhywbeth fel “Liciwn i petai hyn ddim yn digwydd i ti” neu “mae’n debyg bod hyn yn anodd iawn i ti rannu, dwi yma i gefnogi os wyt ti angen”. Weithiau nid oes rhaid i ti ddweud dim, mae bod yno yn ddigon – hyd yn oed os mai o bell yn unig allet ti wneud hynny ar hyn o bryd.

Ei thrin yn normal, o bellter hyd yn oed

Clustffonau mewn siâp calon ar gyfer erthygl helpu ffrind

Ceisia drin dy ffrind mor normal â phosib. Os yw angen siarad am ei theimladau, bydda yna iddi drwy neges testun, galwad ffôn neu alwad fideo, ond siarada am bethau eraill hefyd. Efallai bydd dy ffrind yn croesawu rhywbeth i dynnu sylw. Gallet ti awgrymu gwrando ar gerddoriaeth â’ch gilydd ar-lein ar Spotify neu wylio ffilm ar YouTube neu Netflix. Awgryma chwarae gêm ar-lein fel Minecraft (sydd wedi rhyddhau fersiwn addysgiadol i’w lawr lwytho tan 30 Mehefin 2020 wrth logi mewn gyda dy fanylion Hwb). Defnyddiwch eich creadigrwydd a dysgu sut i godio â’ch gilydd, neu ymlaciwch a chael sgwrs fel grŵp.

Mae Meic yma i helpu hefyd os wyt ti neu dy ffrind eisiau siarad. Gall ein cynghorwyr eich helpu i dderbyn eich teimladau a chael y cymorth rydych chi ei angen.

Cym ofal

Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Manylion Meic ar gyfer coda'r meic cyfarfod gyda ffrindiau

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.