x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Eisiau Gwneud Ffrindiau Newydd

Eisiau cyngor am sut i gael ffrindiau newydd a gwneud bywyd ychydig yn fwy diddorol? Gofynnir sut i wneud newidiadau a bod yn fwy cymdeithasol yn Coda’r Meic yr wythnos hon. Dyma’n cyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here.

Helo Meic,

Rwyf wedi bod yn teimlo mor ddiflas ac unig yn ddiweddar. Rwyf angen cyngor ar sut i wneud ffrindiau a chael bywyd cymdeithasol gwell. Oes gennych chi gyngor i’w roi?

Cyngor Meic

Mae’n ddrwg gen i glywed dy fod di’n teimlo mor ddiflas ac unig ar hyn o bryd. Mae’n siŵr bod hynny’n anodd i ti. Efallai byddai’n help gwybod nad ti yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Mae bywyd mor gyflym y dyddiau hyn fel nad yw’n hawdd cyfarfod pobl a chadw ffrindiau bob tro. Mae’n beth da dy fod di wedi ymestyn allan am gyngor ar sut i newid y sefyllfa yma. Gobeithiaf fod y wybodaeth yma yn rhoi ychydig o syniadau i ti am sut i wneud ffrindiau a gwella dy fywyd cymdeithasol.

Grŵp o draed ar gyfer erthygl gwneud ffrindiau

Ymuna â grŵp

Mae’r syniad o gyfarfod a gwneud ffrindiau yn gallu teimlo’n eithaf brawychus, ond unwaith i ti gychwyn bydd pethau’n dod yn haws! Beth am ystyried ymuno â grŵp? Gwna restr o’r pethau rwyt ti’n ei fwynhau neu defnyddia’r cyfle yma i roi tro ar hobi rwyt ti eisoes wedi rhoi cynnig arni. Byddi di’n dod i adnabod pobl wrth wneud pethau. Mae yna lawer o grwpiau a dosbarthiadau wedi’i selio ar weithgareddau gallet ti roi cynnig arnynt. Dyma ychydig o syniadau i’w hystyried:

  • Clybiau chwaraeon (beicio, athletau, pêl droed, tenis, ioga, rygbi ayb)
  • Dosbarthiadau drama neu ddawns
  • Clybiau llyfrau
  • Clybiau ieuenctid (Gwobrau Dug Caeredin ayb)
  • Grwpiau cerdded/teithio
  • Dosbarthiadau coginio

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych arall o gyfarfod ffrindiau newydd. Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn teimlo’n hapusach pan fyddant yn helpu pobl eraill neu gymunedau. Edrycha ar yr erthygl Meic Gwirfoddoli – Beth Sy’n Dda Amdano?

Gyda diddordeb? Yna edrycha ar wefan Gwirfoddoli Cymru am wybodaeth hwirfoddoli a’r cyfleoedd sydd yn agored i ti.

Camu allan o sefyllfa gyfforddus

Mae dod i adnabod pobl a gwneud ffrindiau newydd yn golygu camu allan o dy sefyllfa gyfforddus. Efallai bydd pethau’n teimlo’n anodd ac yn anghyfforddus i gychwyn ond ceisia gychwyn sgwrs gyda’r bobl ti’n eu cyfarfod, o ddydd i ddydd ac yn unrhyw un o’r syniadau amlinellwyd uchod. Gallet ti ymarfer gwenu a chyflwyno dy hun yn y drych gartref (mae pobl yn fwy tebygol o deimlo’n agos atat os wyt ti’n gwenu ac yn cadw cyswllt llygad). Gallet ti feddwl am beth i’w ddweud o flaen llaw.

Bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau â’ch gilydd yn helpu, bydd gennych chi rywbeth yn gyffredin yn awtomatig. Yna bydd posib symud ymlaen i ddarganfod y pethau sy’n gyffredin rhyngoch, fel eich hoff gerddoriaeth. Bydd hyn yn dod yn haws wrth i ti ei wneud fwy, a byddi di’n dod yn fwy hyderus.

Yn dymuno pob lwc, cyfeillgarwch a llawer o hwyl i ti!

Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.