-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Mae’r amodau a’r telerau y rhoddir manylion amdanynt isod yn berthnasol i holl ddefnyddwyr www.meiccymru.org Drwy ddefnyddio’r safle rwyt ti’n cytuno i gael dy rwymo gan yr holl amodau a thelerau a restrir isod, a bydd dy ddefnydd o’r wefan yn gyfystyr â derbyn yr amodau a’r telerau a nodwyd.
Mae Meic yn cadw’r hawl, unrhyw bryd a heb rybudd ymlaen llaw, i dynnu neu ddirwyn i ben cyflenwi unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a gynhwysir ar y wefan hon. Pe bai unrhyw symud o’r fath yn digwydd yna ni fydd Meic yn atebol i ti mewn unrhyw ffordd o gwbl
Os oes gen ti unrhyw amheuaeth ynghylch dilysrwydd gwybodaeth sydd ar gael i ti ar y safle hwn gallai fod yn fuddiol i ti ofyn am eglurhad drwy gysylltu â ni.
Mae Meic wedi cymryd pob gofal wrth baratoi cynnwys y wefan hon, ond, darperir y wefan hon, y wybodaeth a’r deunyddiau ar y wefan, a’r feddalwedd a sicrheir sydd ar gael ar y wefan, “fel y mae” heb unrhyw gynrychiolaeth na chefnogaeth yn cael eu gwneud, a heb unrhyw warant o unrhyw fath, boed hynny’n benodol neu yn cael ei awgrymu, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i, unrhyw warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, ffitrwydd i bwrpas arbennig, o beidio â thorri amodau, cytunedd, diogeledd a chywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, caiff yr holl delerau a gwarantau o’r fath trwy hyn eu heithrio. Ni fydd Meic o dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol am unrhyw golledion a gollir ac sy’n deillio o neu mewn cysylltiad gyda’r defnydd o’r wefan hon gan gynnwys, heb gyfyngiad, colli elw, colli data neu golli ewyllys da (yn yr holl achosion hyn boed hynny yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol) nac am unrhyw golled anuniongyrchol, economaidd, ôl-ddilynol neu arbennig.
Ni warantir bod trosglwyddo unrhyw ddata dros y Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn ceisio gwarchod gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch inni. Felly, trosglwyddir unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch i ni yn ôl eich risg eich hun.
Nid yw Meic yn dweud bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon yn gywir, yn gynhwysfawr, wedi ei dilysu nac yn gyflawn, ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb neu gyflawnder yr wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon nac am unrhyw hyder a roddir gan unrhyw unigolyn yn y wybodaeth.
Ni all Meic roi unrhyw warant y bydd y wefan yn parhau yn ddi-dor neu yn rhydd o wallau, neu y bydd diffygion yn cael eu cywiro neu fod y wefan yn rhydd o firysau neu broblemau cyfrifiadurol maleisus eraill. Ti sy’n gyfrifol am sicrhau bod gen ti feddalwedd berthnasol i wirio firysau ar dy gyfrifiadur. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad na difrod i dy ddata neu dy system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd yn deillio o’r wefan hon.
Ni fydd Meic yn gyfrifol am dorri unrhyw rai o amodau a thelerau’r safle, mewn perthynas â methu darparu, neu oedi wrth ddarparu’r gwasanaethau ar y safle o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiad y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
Mae’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddisgrifir ar y wefan hon ar gael i drigolion y DU yn unig ac ni dderbynnir ceisiadau oddi wrth drigolion heb fod o’r DU, oni bai y nodir fel arall. Llywir yr amodau a’r telerau hyn gan ac fe’u dehonglir yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadlau sy’n deillio o hyn, oni bai y cytunir yn benodol fel arall, yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr
Mae’r deunydd hawlfraint a gynhwysir ar y wefan hon ac unrhyw nodau masnach a brandiau a gynhwysir yn y deunydd hwnnw yn perthyn i Meic neu ei drwyddedyddion. Gellir lawrlwytho dogfennau a chopïo cynnwys o’r wefan cyhyd ac nad yw’r deunydd yn cael ei ddefnyddio i ddibenion masnachol. Gwaherddir defnyddio’r deunydd i unrhyw bwrpas heblaw defnydd personol
Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy’n cael eu creu gan wefannau i nodi defnyddwyr a chofnodi pa ardal o’r wefan yr ymwelwyd â nhw ac am ba mor hir er mwyn cofnodi llifiadau traffig a gwneud ein gwefan yn haws i ti ei ddefnyddio. Os wyt ti’n dewis hynny, gallet osod dy borwr eich gwe i wrthod cwcis. Ond gall hyn dy atal rhag defnyddio ein gwasanaeth.
Mae Meic yn cadw’r hawl i newid yr amodau a’r telerau hyn unrhyw bryd drwy bostio newidiadau ar y wefan. Dy gyfrifoldeb di yw adolygu amodau a thelerau’r wefan yn rheolaidd i sicrhau dy fod yn ymwybodol o’r amodau a’r telerau diweddaraf.
Mae’r penawdau yn yr amodau a’r telerau hyn er hwylustod yn unig ac ni fyddant yn effeithio ar eu dehongli. Os canfyddir bod unrhyw rai o ddarpariaethau’r amodau a thelerau hyn yn annilys neu yn rhai na ellir eu gorfodi yn gyfan gwbl neu yn rhannol ni fydd dilysrwydd darpariaethau eraill yr amodau a’r telerau hyn a gweddill y ddarpariaeth dan sylw yn cael eu heffeithio trwy hyn. Nid yw staff Meic wedi eu hawdurdodi i amrywio’r amodau a’r telerau hyn ond gellir eu hamrywio gan Meic o bryd i’w gilydd.