x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Bwlio Am Fod yn Hoyw gan fy Nghyn Gariad

Mae archwilio dy rywioldeb yn gallu bod yn anodd iawn fel y mae, heb orfod dioddef bwlio oherwydd hynny. Cysylltodd Jade â Meic pan drodd ei chyn gariad yn gas pan ddywedodd wrtho ei bod yn hoyw. Dyma’n cyngor ni.


Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

(This article is also available in English  – To read this content in English – click here )


Helo Meic,

Mae’n rhaid i mi rannu rhywbeth. Tuag wythnos yn ôl dechreuais fynd allan gyda bachgen yn y dosbarth uwch, ond yna sylweddolais fod i’n hoyw. Felly dywedais wrtho, gan feddwl y byddai’n deall. Ond nid dyma ddigwyddodd, a dechreuodd fy mwlio. Ar y bws heddiw tynnodd fy nghlustdlws gan rwygo fy nghlust. Ni ddywedodd sori.

Jade  (*enw wedi’i newid i’w hamddiffyn)

Cyngor Meic

Helo Jade,

Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am y bwlio gan dy cyn gariad. Mae hyn yn hollol annerbyniol. Dychmygaf hefyd bod y ffaith na ddywedodd sori am ei ymddygiad wedi brifo hefyd. Gobeithio bod y glust yn gwella a dy fod di wedi chwilio am sylw meddygol os oedd y rhwyg yn un drwg iawn.

Ni ddylet ti ddioddef

Mae gen ti hawl i orffen perthynas heb ofni bwlio, cam driniaeth na thrais. Wyt ti wedi dweud wrth rywun am hyn, fel rhiant neu rywun yn yr ysgol?

Os wyt ti am fynd â phethau ymhellach yna gallet ti adrodd y bachgen i aelod o staff yn yr ysgol, fel eu bod nhw’n ymwybodol o’i ymddygiad tuag atat ti. Gallet ti hefyd ddweud wrth yr heddlu am yr hyn mae wedi’i wneud, gan fod rhwygo dy glust fel yna yn ymosodiad corfforol. Os wyt ti’n penderfynu adrodd hyn i’r heddlu, yna dylet ti ffonio 101- y rhif ffôn pan nad yw’n argyfwng.

Os nad wyt ti wedi siarad gyda neb am hyn eto, yna efallai dylet ti feddwl am siarad drwy’r opsiynau gyda rhywun cyn dod i benderfyniad. Os nad oes neb gallet ti siarad â nhw yna gallet ti ffonio Meic. Gallem helpu ti i edrych ar yr opsiynau i geisio rhoi diwedd ar y bwlio, gan gynnwys y pethau trafodwyd uchod.

Gwefusau enfys - erthygl Coda'r Meic Bwlio Am Fod yn Hoyw gan fy Nghyn Gariad

Archwilio dy rywioldeb

Mae’n swnio fel dy fod di yn y broses o archwilio dy rywioldeb, darganfod dy fod di’n hoyw, ac mae gen ti hawl i wneud hynny heb ofni bwlio nac gwahaniaethu. Unwaith eto, os wyt ti eisiau siarad am hyn gyda rhywun, gallet ti gysylltu â Meic, neu, os bydda’n well gen ti, mae yna linellau cymorth LHDT arbennig sydd yn gallu cynnig cefnogaeth fel Llinell gymorth LHDT Cymru neu Switchboard.

Edrycha ar y dudalen Ydw i’n Hoyw, Lesbiad neu Ddeurywiol? ar wefan y GIG sydd â ffeithiau a chyngor os oes gen ti gwestiynau.

Mae’r ffaith dy fod di wedi cysylltu am gymorth yn beth positif iawn. Os wyt ti eisiau gwybodaeth, cyngor neu eiriolaeth bellach, cysyllta drwy neges testun, neges ar-lein neu ar y ffôn. Mae yna lawer o erthyglau defnyddiol am bob math o bynciau ar ein gwefan, gan gynnwys rhai ar fwlio a pherthnasau, felly edrycha yn ein hadran newyddion.

Gobeithiwn fod y wybodaeth yma wedi bod yn ddefnyddiol i ti, a bod y bwlio yn dod i ben.

Cymera ofal

Tîm Llinell Gymorth Meic

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.