x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic – Ydy Pobl Yn Edrych Arnaf?

Mae hunanhyder Thea yn isel iawn, mae’n meddwl bod pawb yn edrych arni ac yn ofni mynd allan. Gofynnodd am ein cyngor yn Coda’r Meic.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

This article is also available in English – Click here

Helo Meic,

Fel arfer rwy’n teimlo’n ofnus iawn yn mynd allan yn gyhoeddus ac yn teimlo fel bod pobl yn edrych arna i, neu fy nillad, ac yn meddwl neu’n dweud pethau cas amdanaf. Rwy’n ofni rhag i rywun ddweud rhywbeth un dydd, beth ddylwn i’w wneud?

Thea

Cyngor Meic

Helo Theo,

Diolch am gysylltu â Meic. Mae’n ddrwg iawn gen i dy fod di’n ofni mynd allan yn gyhoeddus am dy fod yn teimlo bod pobl yn edrych ac yn dweud pethau cas. Mae’n debyg bod hyn yn anodd iawn i ymdopi ag ef bob dydd.

merch yng nghanol torf o bobl yn crynu, chwysu ac yn ofni ar gyfer blog Ydy Pobl Yn Edrych Arnaf?

Ansicrwydd

Mae teimlo yn ansicr am ein hunain yn emosiwn normal sydd yn digwydd i bawb. Mae’n beth anodd i ymdopi ag ef gan ei fod yn gwneud i ni deimlo mor fregus, ac mae teimlad o ofn a pheidio gallu wynebu pobl yn anodd.

Y peth cyntaf sydd yn rhaid cofio ydy nad ti yw’r unig un sydd yn teimlo fel hyn. Mae pawb yn mynd trwy gyfnodau o beidio teimlo’n hyderus am ein hunain. Mi fyddet ti’n synnu faint o bobl sydd yn teimlo fel ti bob dydd.

Y peth pwysicaf i’w gofio ydy mai dim ond dy feddyliau di yw’r rhain, a’r ffordd rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun. Pan fyddem yn teimlo’n hunanymwybodol, mae’n anodd wynebu pobl, gan ei fod yn teimlo’n haws i beidio mynd allan, ond mae’n bwysig iawn dy fod di’n ceisio parhau i fynd allan.

Dyma ychydig o bethau gallet ti roi tro arnynt:

Gwerthfawrogi gwahaniaethau

Un peth gallet ti roi tro arni y tro nesaf rwyt ti’n mynd allan ydy nodi pa mor wahanol mae pawb yn edrych. Mae pawb yn unigryw. Mae pobl yn dod mewn sawl siâp, maint, gwedd a steil gwahanol. Mae’n bwysig bod pawb yn wahanol gan mai dyma sydd yn gwneud ni yn ni. Byddai’r byd yma yn le od iawn petai bawb yn edrych ac yn gwisgo yn union yr un peth!

Bachgen yn dal dwy fawd i fynu gyda gwen ar gyfer blog Ydy Pobl Yn Edrych Arnaf?

Rhestru’r positif

Ysgrifenna’r holl bethau positif am dy edrychiad. Mae dy steil yn adlewyrchiad o dy bersonoliaeth. Ceisia gofio nad oes dim o’i le mewn gwisgo’r ffordd rwyt ti eisiau edrych. Rwyt ti yn ti am reswm, ac mae dy deulu a dy ffrindiau yn dy garu di am fod yn ti.

Mae gan wefan The Children’s Society awgrymiadau gwych ar gyfer delwedd bositif o’r corff.

Paid cymharu

Ceisia beidio cymharu dy hun gyda phobl eraill neu ddelweddau ar-lein o bobl sydd yn cael ei olygu yn ddigidol fel arfer.

Siarada â rhywun

Ceisia gyfaddef i rywun sydd yn agos i ti am y ffordd rwyt ti’n teimlo. Mae’n bwysig ceisio siarad a rhannu teimladau gyda pherson gallet ymddiried ynddynt. Gallant gynnig y cysur sydd ei angen i helpu cynyddu dy hyder. Os yw cychwyn sgwrs yn anodd i ti, cer draw i weld awgrymiadau yn ein blog. Os wyt ti’n teimlo fel nad wyt ti’n gallu siarad â neb ac angen mwy o gefnogaeth, cysyllta â Meic yn gyfrinachol ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein. Gallem dy helpu i gael y gefnogaeth rwyt ti ei angen.

Cer draw i ddarllen mwy am ddelwedd y corff a pa effaith gall hyn yn ei gael ar iechyd meddwl ar wefan YoungMinds.