x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic

Cartŵn o fecroffon piws gyda dau fraich yn dod o'i ochrau a llygaid a gwen ar ei ben.

Mae Coda’r Meic yn ofod diogel ac yn ffordd arall i gael gwybodaeth gan gynghorwr Meic, yn debyg i ‘Agony Aunt’.

Rwyt ti’n cyflwyno cwestiwn trwy’r ffurflen Coda’r Meic, a bydd un o’n cynghorwyr yn ymateb gyda chyngor a chymorth. Efallai bydd dy gwestiwn ac ateb y cynghorwr yn cael ei droi’n flog Coda’r Meic ar ein gwefan. Ni fyddem yn rhannu dy enw go iawn na wybodaeth bersonol.

Wrth gyhoeddi ar y blog, gall helpu pobl ifanc eraill sydd yn profi rhywbeth tebyg. 

Nid wyt ti’n cael ateb trwy Coda’r Meic yn syth, a gall gymryd ychydig o ddyddiau cyn i ti gael ateb. Os wyt ti angen cyngor a chymorth yn syth mae angen ffonio, tecstio neu sgwrsio ar-lein.

Manylion cyswllt llinell gymorth meic ar gefndir piws. 

Rhif ffôn - 080880 23456
Testun - 84001
Sgwrs ar-lein - www.meic.cymru

Slogan - rhywun ar dy ochr di

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma ein blogiau Coda’r Meic: