-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Prifysgol ydy ble rwyt ti’n mynd i astudio ar gyfer gradd ar ôl i ti gwblhau Lefel A, BTEC, Diplomâu ayb.
Gallet ti gychwyn mewn prifysgol unrhyw oed ar ôl i ti droi’n 18.
Fel arfer, mae’n cymryd 3 mlynedd i gwblhau gradd, ond gall hyn fod yn hirach neu’n fyrrach yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei astudio.
Yn wahanol i’r ysgol, coleg a’r chweched dosbarth, mae’n rhaid talu i astudio yn y brifysgol, ond mae yna fenthyciadau a bwrsari gallet ti edrych arnynt i helpu gyda’r gost.
Os wyt ti eisiau gwybod mwy am fynd i’r brifysgol, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic.
Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth: