x
Cuddio'r dudalen

Canlyniadau Arholiadau – Sut i Ymdopi?

Mae arholiadau yn gyfnod o boeni a straen i bawb ac yma ym Meic rydym wedi bod yn rhedeg cyfres o flogiau yn ymwneud ag arholiadau dros y pedair wythnos diwethaf. Mae’r blogiau cynt i helpu rhai sydd yn dal i eistedd arholiadau ond isod rydym yn paratoi ar gyfer canlyniadau. Beth sy’n digwydd os ydynt yn waeth nag yr oeddet ti wedi’i obeithio? Darllena ymlaen.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)


Diwrnod canlyniadau, diwrnod pwysig, diwrnod ti wedi bod yn paratoi amdano ers wythnosau! Ond nid canlyniadau yw’r peth pwysicaf yn y byd. Mae yna lu o opsiynau sy’n agored i ti, beth bynnag yw dy ganlyniadau. Yma ym Meic, rydym wedi hel ychydig o gyngor am beth i’w wneud nesaf, ond os wyt ti eisiau siarad am hyn gyda rhywun neu eisiau cymorth efo unrhyw beth, yna cysyllta gyda’n cynghorwyr cyfeillgar ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu IM.

1. Paid â phoeni gormod!

Os wyt ti’n teimlo’n bryderus, yn sâl neu’n flin yna cymera olwg ar rai o’r tudalennau tawelu’r meddwl daethom ar eu traws a chymryd munud i ymlacio.

Nid yw’n ddiwedd y byd. Mae yna lawer o bobl lwyddiannus iawn sydd ddim wedi cael y canlyniadau disgwyliwyd. Beth am gael dy ysbrydoli gan bobl fel Anastasia Catris o Gaerdydd. Ffaelodd ei chelf Lefel-A ond mae wedi llwyddo i ddod yn ddarlunydd ac ysgrifenydd llwyddiannus sydd wedi gweithio efo DC a Marvel i enwi dim ond rhai, ac wedi cyhoeddi llyfr o straeon byr ei hun Crique Du Mort a sawl llyfr lliwio meddwlgarwch.

Anastasia Catris canlyniadau arholiadau

Ceisia ystyried yn ofalus yr hyn rwyt ti wirioneddol eisiau gwneud. Mae derbyn canlyniadau arholiad yn gallu bod yn gyfnod mewn fywyd i edrych ar y posibiliadau eraill sydd yn agored i ti. Gall hyn fod yn drobwynt cyffrous a phositif i ti.

COFIA – Mae posib ailsefyll arholiadau os wyt ti’n dymuno.

2. Gofyn am gyngor Cynghorydd Gyrfa

Hyd yn oed os nad yw’r canlyniadau yn hyn yr oeddet ti wedi’i ddisgwyl, neu eisiau, fe ddylai’r ysgol neu goleg helpu. Gofynna i gael gweld Cynghorydd Gyrfa’r ysgol ar ddiwrnod canlyniadau i drafod beth i’w wneud nesaf.

Edrycha ar dudalen Ble Nesaf? ar wefan Gyrfa Cymru.

3. Cysyllta colegau neu brifysgolion eraill

Fe ddylet ti gysylltu gyda dy goleg neu Brifysgol ddewisol hyd yn oed os nad oedd dy ganlyniadau di’n ddigon da, efallai byddi di dal yn gallu cael lle. Gallet ti gysylltu gyda cholegau neu Brifysgolion eraill i geisio cael lle ar gwrs arall. Os wyt ti eisiau mynd i’r Brifysgol yna ceisia fynd drwy broses clirio UCAS.

4. Ystyried opsiynau eraill

Dim ond y coleg neu brifysgol sydd o ddiddordeb i ti? Neu oes yna opsiwn arall?

Mae yna opsiynau eraill yn agored i ti bob tro, fel cymryd blwyddyn fwlch a mynd i deithio, ail-sefyll yr arholiadau, prentisiaeth, cyflogaeth neu wirfoddoli.

5. Bydda’n Bositif

Mae cael canlyniadau gwaeth nag yr oeddet ti wedi’i ddisgwyl yn gallu teimlo fel y peth gwaethaf yn y byd ar hyn o bryd, ond yr hyn ti’n ei wneud nesaf sydd yn bwysig. Mewn ychydig flynyddoedd efallai byddi di’n hapus gyda dy ganlyniadau hyd yn oed. Edrycha ar y camau uchod i ystyried beth i’w wneud nesaf.

6. Cysyllta

Oes wyt ti wir yn cael trafferth yn derbyn dy ganlyniadau ac yn meddwl beth i’w wneud nesaf yna efallai byddai’n syniad chwilio am help.

Gallet ti gysylltu gyda ni yma ym Meic os wyt ti eisiau siarad drwy bethau gyda chynghorydd cyfeillgar. Gallem helpu ti i ddatrys pethau drosot ti dy hun a dy osod ar y llwybr cywir.

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar-lein.

Mae Gyrfa Cymru yn le gwych i gychwyn am unrhyw gyngor. Bydd gan dy ysgol Gynghorydd Gyrfa gallet ti siarad â nhw, ffonia, neu gallet ti fynd draw i dy ganolfan Gyrfa Cymru leol am gyngor gyrfaoedd.


Dyma erthyglau eraill sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod yr ymgyrch arholiadau Meic. Bydd mwy yn cael eu hychwanegu fel mae’r ymgyrch yn parhau: