x
Cuddio'r dudalen

Canlyniadau Lefel A – Beth Nesaf?

Mae pennod olaf dy stori ysgol wedi cyrraedd gyda chanlyniadau Lefel A yn cael eu cyhoeddi’r wythnos hon. Gall y cyfnod yma fod yn anodd iawn ar y gorau, ond mae llawer iawn o bethau wedi digwydd eleni gyda Covid-19.

To read this article in English, click here

Mae blynyddoedd a blynyddoedd o waith ysgol wedi dod i ben o’r diwedd wrth i ti dderbyn dy ganlyniadau Lefel A. Er na chefais di’r cyfle i eistedd arholiadau eleni, mae’n rhaid dibynnu ar raddau wedi’u cyfrifo gan dy athrawon. Efallai dy fod di’n hapus iawn gyda’r canlyniadau, neu yn teimlo’n bryderus am na chefais di’r canlyniadau angenrheidiol. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae Meic yma i helpu. Byddem yn edrych ar opsiynau Prifysgol os yw’r canlyniadau yn wahanol i’r disgwyl (da neu ddrwg), yn trafod sefyll arholiadau eto, edrych ar opsiynau gwahanol a ble i gael cymorth.

Het graddio du ar bapur brown ar gyfer erthygl Lefel A

Mynd i’r Brifysgol?

Bydd dy brifysgol ddewisol yn derbyn dy ganlyniadau gan UCAS, felly nid oes rhaid rhoi gwybod iddynt. Os wyt ti wedi cael cynnig amodol ac yn cael y graddau sydd eu hangen yna mae dy le di’n ddiogel. Nid fydd canlyniadau yn cael effaith ar gynnig diamodol. Os nad wyt ti wedi cael y graddau angenrheidiol mae posib gwneud cais drwy’r broses Clirio i geisio cael lle ar gwrs neu Brifysgol arall. Ceisia wneud hyn cyn gynted â phosib. Bydd hwn yn flwyddyn prysur iawn gan nad yw pobl yn gallu teithio ar flwyddyn bwlch oherwydd y pandemig.

Os wyt ti wedi gwneud yn well nag yr oeddet ti wedi’i ddisgwyl, ac eisiau gwneud cais am gwrs neu Brifysgol nad oeddet ti wedi’i ystyried cynt gan nad oeddet ti’n dychmygu gwneud cystal, yna defnyddia wasanaeth Addasiad UCAS i edrych ar opsiynau eraill. Bydd hwn yn cau ar Fedi’r 1af.

Os wyt ti wir angen astudio gradd benodol ar gyfer gyrfa benodol, yna efallai hoffet ti ystyried ail sefyll (neu sefyll am y tro cyntaf yn yr achos yma) arholiadau. Cysyllta â’r ysgol/coleg i edrych ar dy opsiynau.

Prentis benywaidd yn sefyll ger drill yn gwrando ar hyfforddwr ar gyfer erthygl canlyniadau Lefel A

Opsiynau eraill

Nid yw pawb eisiau mynd i’r Brifysgol. Neu efallai dy fod di wedi newid dy feddwl am fynd oherwydd dy raddau neu am resymau eraill. Mae sawl opsiwn yn agored i ti, fel prentisiaeth, interniaethau, cyflogaeth neu gychwyn busnes. Edrycha ar wefan Cymru’n Gweithio am wybodaeth bellach. Gallet ti wneud apwyntiad i siarad gyda chynghorydd Gyrfa Cymru. Efallai nad yw’n bosib cyfarfod wyneb i wyneb ond mae posib cysylltu o hyd i drafod dy opsiynau.

Merch ifanc gyda thop gwyn yn symyfyrio gyda llygaid cau a dwylo efo'i gilydd ar gyfer erthygl  canlyniadau Lefel A

Paid digalonni

Efallai nad yw pethau wedi digwydd yn y ffordd roeddet ti wedi’i obeithio, ond paid gadael i hyn dy drechu. Penderfyna symud ymlaen o hyn ac edrych tuag at y dyfodol gyda meddylfryd positif. Paid digalonni, bydda’n weithgar a gwneud penderfyniadau ar dy gamau nesaf. Nid yw’n ddiwedd byd, ti sydd yn rheoli beth fydd yn digwydd nesaf. Edrycha ar rai o’r tudalennau yma i helpu ti i ymlacio.

Galwa Meic

Os wyt ti wir yn cael trafferth derbyn pethau, ac eisiau siarad am bethau a thrafod dy opsiynau gyda rhywun, yna cysyllta gyda llinell gymorth Meic ar y ffôn, neges testun, neu DM. Gallem helpu ti i ddeall pethau a dy osod ar y llwybr cywir unwaith eto.

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu ar y we.