Hiraeth yn y Brifysgol – Sut i Ymdopi
Mae teimlo hiraeth fel myfyriwr sydd wedi symud o adref am y tro cyntaf yn beth cyffredin iawn i sawl un. Gall fod yn anodd addasu i le diarth, gwneud ffrindiau newydd, a rheoli dy annibyniaeth.
Ond mae yna bethau gallet ti eu gwneud i ymdopi gyda’r hiraeth a mwynhau dy brofiad prifysgol. Efallai gall y cyngor yma helpu os wyt ti’n hiraethu am adref.
Cadw cysylltiad
Siarada gyda ffrindiau a theulu yn aml. Gallet ti ffonio, gyrru neges, sgwrs fideo, neu ysgrifennu llythyr. Mae cyfryngau cymdeithasol hefyd yn ffordd dda i gadw mewn cyswllt ond sicrha nad wyt ti’n dibynnu’n llwyr ar hyn. Mae yna dueddiad o bostio’r pethau da yn unig ar gyfryngau cymdeithasol, a gall hyn olygu dy fod di’n colli allan ar rai pethau.
Cymryd rhan
Bydd cael allan a gwneud pethau sy’n tynnu sylw yn gallu helpu ti i fyw yn y foment a mwynhau dy amser yn y brifysgol.
Bydd cymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau, a chlybiau chwaraeon yn helpu ti i gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau. Gall hefyd roi teimlad o berthyn a phwrpas i ti. Mae cael hwyl yn helpu gyda hiraeth, felly ceisia gwneud popeth sy’n agored i ti yn y brifysgol.
Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd i gyfarfod pobl newydd a gwneud gwahaniaeth yn dy gymuned.
Creu gofod cyfforddus
Hyd yn oed os mai dim ond am flwyddyn wyt ti yn rhywle, mae’n gyfnod reit hir. Tro dy ofod yn un cartrefol. Addurna gyda phethau sydd yn atgoffa o ffrindiau a theulu, fel lluniau. Defnyddia bethau fel Blu Tack clir yn lle rhoi pin yn y wal fel nad yw’n cael effaith ar dy flaendal.
Dod i adnabod dy dref neu ddinas newydd
Mae llawer o bethau newydd i weld a gwneud pan fyddi di’n symud o adref i fynd i’r brifysgol. Rho amser i archwilio dy ardal newydd a darganfod yr hyn sydd yno. Gall ddod i adnabod dy amgylchedd newydd helpu ti i deimlo’n fwy cyfforddus fel ei fod yn teimlo’n fwy cartrefol.
Gofala am dy hun
Bwyta’n dda, ymarfer corff yn aml, a chysgu digon. Gall gofalu am dy iechyd corfforol helpu ti i deimlo’n well yn feddyliol ac yn emosiynol fel y gallet ti ymdopi’n well gyda phyliau o hiraeth.
Dylid creu trefn gyfforddus fydd yn helpu ti i deimlo’n ddiogel. Efallai bod hyn yn gwrando ar dy hoff gerddoriaeth, gwylio ffilm, neu gymryd bath.
Mae ysgrifennu ddyddiadur hefyd yn ffordd dda i fynegi teimladau a rhyddhau’r emosiynau.
Ymarfer meddylgarwch. Mae hyn yn gallu helpu ti i fod yn y foment ac yn ymwybodol o’th deimladau a meddyliau.
Rho amser iddo
Mae addasu i amgylchedd newydd yn rhywbeth sy’n gallu cymryd amser weithiau. Bydda’n amyneddgar a phaid disgwyl teimlo’n hollol gartrefol yn syth.
Mae teimlo’n anghyfforddus yn golygu dy fod di’n profi pethau newydd ac yn tyfu. Efallai bod hyn yn frawychus, ond ni fyddi di’n teimlo fel hyn am byth.
Siarada efo rhywun
Os wyt ti’n teimlo hiraeth am adref, mae’n bwysig siarad. Beth am gysylltu â ffrind, aelod o’r teulu, neu gynghorwr fydd yn gallu cynnig cymorth a chyngor.
Yn y brifysgol, gall tiwtoriaid neu ddarlithwyr roi arweiniad a chynnig cymorth sydd ar gael yn benodol i’r brifysgol.
Gallet ti hefyd siarad gyda chynghorwr Meic am gymorth cyfrinachol, am ddim, heb farnu, o 8 y bore tan hanner nos bob dydd. Sgwrsia ar y ffôn, neges WhatsApp, tecst, neu sgwrs ar-lein.