Cyngor Adolygu – Cofio Gweithredol
Ydy darganfod ffordd o adolygu sydd yn gweithio i ti yn anodd? Dyma gyfle i edrych ar ddull sydd wedi bod yn llwyddiannus i sawl un – Cofio Gweithredol (Active Learning). Darllena ein blog isod i weld os gall hyn fod yn fuddiol i ti.
Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti trwy gyfnod yr arholiadau – cer yma i weld.
Pa un ai wyt ti’n sefyll dy arholiad cyntaf, neu wedi bod drwy arholiadau yn barod, mae llawer o fyfyrwyr yn dal i bendroni am y ffordd orau i adolygu sydd yn gweithio iddyn nhw. Mae pawb yn wahanol, ac nid yw pawb yn dysgu yn yr un ffordd. Efallai bod rhywbeth sydd yn llwyddiannus i un person fod yn amhosib i berson arall. Os nad yw’r dull dysgu sydd yn cael ei rannu yma yn gweithio i ti, yna edrycha ar rai o’r syniadau eraill ar wefan CBAC.
Beth ydy cofio gweithredol?
Mae yna lawer o dystiolaeth yn awgrymu mai Cofio Gweithredol yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o adolygu. Mae’n broses o brofi’r hyn rwyt ti’n gwybod ac yn deall am y cynnwys rwyt ti’n dysgu. Ffordd fuddiol o wneud hyn ydy dilyn y rheol 3 A:
- Adolygu – Cer dros y cynnwys byddi di’n profi dy hun arno
- Adalw – Gweld faint o’r cynnwys yma fedri di gofio heb edrych ar dy nodiadau na chanllawiau adolygu. Profa dy hun i weld faint rwyt ti’n gallu’i gofio a deall yn iawn
- Ailadrodd – Ailadrodd y broses yma drosodd a drosodd. Y mwyaf rwyt ti’n ei wneud, y mwyaf rwyt ti’n cofio’r wybodaeth yn weithredol
Mae cofio gweithredol yn wahanol i ddysgu goddefol (passive learning), sydd yn golygu darllen dros y wybodaeth a’i gofio. Ffyrdd poblogaidd i ddysgu’n oddefol ydy ail-ddarllen, aroleuo (highlight) neu danlinellu, gwneud nodiadau a chrynhoi’r cynnwys.
Grym cwestiynau
Ffordd dda o ddefnyddio cofio gweithredol wrth astudio ydy ateb cwestiynau i brofi’r hyn rwyt ti’n gallu cofio a deall.
Yn dilyn gwers, neu ar ôl edrych drwy dy nodiadau, ysgrifenna ychydig o gwestiynau sydd yn ymwneud â’r cynnwys. Yna ateba’r rhain i weld faint rwyt ti’n gallu cofio. Fedri di ail ddefnyddio’r cwestiynau yma drosodd a drosodd i brofi pa mor dda rwyt ti’n adolygu.
Ffordd arall i ymarfer hyn ydy drwy ateb cwestiynau ar hen bapurau arholiad. Gallet ti ofyn i’r athrawon yn yr ysgol am gopi o hen bapurau, neu mae posib chwilio am hen bapurau a chynlluniau marcio ar wefan bwrdd arholiadau CBAC.
Gallech chi hefyd gychwyn grŵp astudio gyda’ch ffrindiau neu gyd-ddisgyblion i ofyn ac ateb cwestiynau gyda’ch gilydd. Gall hyn droi astudio yn beth cymdeithasol ac mae’n help dysgu gan eraill hefyd.
Tech buddiol
Gall dy ffôn di fod yn declyn defnyddiol wrth i ti astudio hefyd. Mae yna apiau gwych sydd yn gallu helpu gyda Chofio Gweithredol.
- Quizlet – rhaglen a gwefan am ddim (gydag opsiwn i uwchraddio rhaid talu amdano) sydd yn caniatáu i ti greu nodiadau i’w defnyddio fel cardiau fflach ddigidol. Mae sawl opsiwn fydd yn help i ti wrth ddysgu cynnwys a phrofi dy gof a dealltwriaeth gyda gemau yn yr app.
- Anki – rhaglen cardiau fflach. Mae’r rhaglen yma yn defnyddio algorithm fel ei fod yn dangos y pethau rwyt ti’n marcio fel anodd yn fwy aml na’r pethau rwyt ti’n gallu cofio’n haws. Gellir defnyddio Anki am ddim ar Android ond mae cost iddo ar iOS. Gallet ti ddefnyddio’r fersiwn am ddim ar liniadur neu PC neu fenthyg ffôn aelod o’r teulu.
Cyngor pellach
Dysgwyr gweledol: Os wyt ti’n dysgu’n well wrth weld pethau, mae mapiau meddwl yn ffordd wych i brofi dy ddealltwriaeth o bwnc. Mae angen i ti gysylltu darnau o wybodaeth sydd yn gwneud synnwyr. Gallet ti ddefnyddio Cofio Gweithredol gyda mapiau meddwl wrth greu nhw heb nodiadau. Ceisia gofio popeth gallet ti a’i roi yn y map meddwl. Ar ôl gorffen, gwiria gyda dy nodiadau i weld beth rwyt ti wedi anghofio a rhoi tro arall arni.
Dysgwyr clywedol: Os wyt ti’n dysgu’n well wrth glywed pethau, gall dysgu gwybodaeth i rywun arall fod yn ffordd effeithiol o adolygu. Gallet ti ddefnyddio Cofio Gweithredol wrth wneud hyn hefyd; sicrha nad wyt ti’n defnyddio nodiadau wrth ddysgu. Smalia bod y person rwyt ti’n dysgu yn gwybod dim am y pwnc, fel bod angen egluro pethau cymhleth iddyn nhw. Mae hyn yn ffordd i brofi’r hyn rwyt ti’n ddeall am y pwnc dy hun. Os nad oes gen ti neb i’w dysgu, defnyddia hen dedi fel cynulleidfa, neu recordia dy hun yn dysgu dosbarth dychmygol.
Am gyngor adolygu pellach, cer draw i’r blog yma ar Meic neu’r adnoddau adolygu yma gan CBAC wedi’u hyrwyddo gan y wefan Lefel Nesa. Mae Lefel Nesa yn le i gael awgrymiadau, cyngor a gwybodaeth i dy arwain drwy dymor arholiadau ac asesu 2022 ac ymlaen i’r lefel nesa yn dy fywyd.
Cysyllta â Meic
Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.