x
Cuddio'r dudalen

Bywyd Yn Dilyn Arholiadau – Stori Alice

Wyt ti wedi bod yn cadw golwg ar ein cyfres arholiadau dros yr wythnosau diwethaf? Cychwynnodd gyda fersiwn newydd o’n fideo ‘Dyma Fy Stori Arholiadau’, yn rhannu stori person ifanc oedd yn poeni am ei arholiadau a beth i wneud nesaf. Efallai nad wyt ti’n ymwybodol mai rhywun oedd ar brofiad gwaith gyda ni oedd wedi creu’r fideo yma yn wreiddiol.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)


Roedd Alice Harrett o Landaf yn 16 oed ar y pryd ac yn fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf. Bellach mae’n 23 oed ac yn byw ac yn gweithio ym Mrwsel, Gwlad Belg. Cawsom gyfle i siarad gyda Alice unwaith eto i ddarganfod beth ddigwyddodd iddi ar ôl y straen a’r poeni’r adeg hynny. Gobeithio bydd hyn yn dangos i ti bod yna fywyd ar ôl arholiadau!

Alice ar gyfer erthygl Bywyd Yn Dilyn Arholiadau

Sut daeth y cyfle i greu’r fideo?

Cefais gyfle i wneud wythnos o brofiad gwaith yn ProMo-Cymru (y bobl sydd yn rhedeg Meic), fe fwynheais yn fawr iawn! Awgrymwyd y gallwn greu fideo ar bwnc oedd yn bwysig i mi. Roeddwn wedi gorffen fy arholiadau ac felly’n meddwl byddai fideo oedd yn trafod trechu straen arholiadau yn gallu helpu myfyrwyr eraill oedd yn mynd drwy’r un profiad. Roedd Meic yn wasanaeth eithaf newydd ar y pryd, felly roeddwn yn falch iawn o gael cymryd rhan yn creu’r fideo yma.

Wyt ti’n cofio sut oeddet ti’n teimlo yn ystod dy arholiadau?

Roeddwn yn teimlo pryder a straen am yr holl bynciau roedd rhaid astudio wrth weithio tuag at y TGAU a Lefel A. Roedd rhaid cofio cymaint o bethau, ac roedd yn anodd gwybod ble i gychwyn weithiau! Roedd yn teimlo fel bod yna llawer o bwysau i berfformio i’r gorau, ar ben y poeni am beth i wneud nesaf a beth i wneud yn fy mywyd.

Wrth edrych yn ôl, wyt ti’n teimlo dy fod di’n poeni fwy nag oedd angen?

Dwi’n credu mod i’n poeni llawer mwy nag yr oedd angen. Tra bod straen a phryder am arholiadau yn hollol naturiol, mae’n hawdd cadw pethau i mewn a gadael iddynt dyfu’n fwy o broblem nag yr oes angen. Os gallwn siarad gyda fi’n hun yn 16 oed byddwn yn dweud bod gwaith caled yn talu yn y pen draw, ond mae’n bwysig cymryd seibiant hefyd. Fe wnes i yn iawn yn y diwedd. Hyd yn oed pan nad yw pethau yn dilyn y cynllun gwreiddiol, efallai bod yna reswm am hynny. Efallai bydd hyn yn rhoi’r hwb sydd ei angen i’th ysgogi i wneud yn well!

Wyt ti’n credu bod yna lawer o bwysau yn cael ei roi ar bobl ifanc pan ddaw at arholiadau?

Ydw! Mae iechyd meddwl yn bwnc pwysig iawn ar hyn o bryd. Mae arholiadau yn straen, ac yna mae gen ti fwy o bwysau wrth geisio meddwl beth i’w wneud gyda dy fywyd a dod o hyd i waith.

Y peth anoddaf i mi oedd dysgu i beidio cymharu fy hun gydag eraill yn ystod arholiadau. Mae’n rhaid i ti weithio i gyflymdra dy hun a gosod safonau dy hun.

Beth wnes di ar ôl eistedd dy arholiadau?

Es i ymlaen i’r brifysgol i astudio Ieithoedd a Llenyddiaeth Fodern. Rwy’n gweithio mewn cyfryngau a chyfathrebu ym Mrwsel ar hyn o bryd. Roeddwn ychydig yn nerfus yn symud i wlad arall i gychwyn, ond mae gwthio fi’n hun y tu allan i’m nghylch cysur wedi bod yn brofiad positif i mi ar y cyfan. Dwi’n gobeithio parhau i weithio ym Mrwsel yn y dyfodol.

Roedd gen ti lawer o gyngor yn y fideo i rai sydd yn eistedd arholiadau. Gan dy fod di wedi bod drwy bopeth bellach, ac wedi dod drwyddi’n iawn, oes yna gyngor hoffet ti ei ychwanegu?

Paid teimlo’n llai am dy fod di’n poeni neu’n teimlo pwysau arholiadau. Mae’n gwbl ddealladwy. Y peth pwysig ydy darganfod ffyrdd i leihau’r straen yma. Efallai gallet ti wneud rhywbeth sydd yn gwneud i ti deimlo’n fwy cynhyrchiol a threfnus, fel creu amserlen adolygu, neu wrth gymryd ychydig o amser i wneud rhywbeth i ymlacio.

Byddwn hefyd yn awgrymu i ti beidio cymharu’r hyn ti’n ei wneud gydag eraill. Gall pobl eraill gorliwio’r hyn maent wedi’i wneud o ddifrif. Ond, mae pawb yn gweithio’n wahanol, a dim ond ti sydd yn gallu penderfynu dy gôl bersonol.

Yn olaf, os wyt ti’n parhau i gael trafferth, mae gwasanaethau fel Meic yno i wrando o hyd!

Galwa Meic

Os wyt ti’n poeni am dy iechyd meddwl, neu yn teimlo straen neu bryder, ac eisiau gwybod ble gallet ti chwilio am gefnogaeth yna cysyllta â Meic. Gallem helpu ti i gael at y cymorth sydd ei angen. Am gyngor a gwybodaeth bellach siarada gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar-lein.

Dyma erthyglau eraill sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod yr ymgyrch arholiadau Meic. Bydd mwy yn cael eu hychwanegu fel mae’r ymgyrch yn parhau: