x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Beth i Wneud os Wyt Ti’n Casáu Dy Gwrs Prifysgol?

Os wyt ti wedi cychwyn gradd yn y brifysgol ond yna’n darganfod nad wyt ti’n hoffi’r cwrs, gall amharu ar gynlluniau a rhoi teimlad anesmwyth.

Wyt ti yn y sefyllfa yma yn y prifysgol? Mae’n debyg bod gen ti lot o gwestiynau ac amheuon. Efallai dy fod di’n meddwl: ‘Ddylwn i gadw ati?’, ‘efallai bydd pethau’n gwella mewn amser’, a ‘bydd fy rhieni yn flin os dwi’n rhoi’r gorau iddi’.

Yn aml mae llawer o bwysau i lynu gyda dy gwrs, yn enwedig ar ôl rhannu dy gynlluniau gyda ffrindiau a theulu a dod i adnabod dy gyd-fyfyrwyr a darlithwyr.

Mae’n normal i deimlo fel bod cwrs ddim yr hyn roeddet ti wedi’i ddisgwyl. Sut wyt ti’n gwybod os wyt ti am hoffi rhywbeth os nad wyt ti wedi rhoi cynnig arni gynt? Os wyt ti’n teimlo fel hyn, nid dy fai di yw, mae’n brofiad cyffredin i lawer o fyfyrwyr prifysgol.

Os wyt ti’n anhapus gyda’r cwrs, nid ti fydd yr unig un, ac mae yna lawer o gamau gallet ti eu cymryd i geisio datrys y sefyllfa.

Two male students collaborate on notes in a lecture hall while others listen to the instructor at the front of the room.

Deall y rhesymau

Cyn i ti wneud unrhyw beth, mae’n bwysig i ti ddeall pam dy fod di’n anhapus â’r cwrs. Deunydd y pwnc, y llwyth gwaith, yr arddull dysgu, neu rywbeth arall? Wyt ti’n colli adref, yn stryglo i ffitio i mewn, neu ydy cydbwyso gwaith ac astudio yn anodd? Unwaith i ti ddeall gwraidd y broblem, mae posib cymryd camau i ddatrys hyn.

Siarada â’r tiwtor

Mae’r tiwtor yno i helpu. Gallant roi arweiniad, cyngor a chefnogaeth am y pwnc.

Paid ofni bod yn agored a rhannu pryderon. Efallai y gallant gynnig awgrymiadau neu adnoddau fydd yn dy helpu i ddod yn ôl ar y trywydd cywir.

A person sits at a desk working on a laptop, holding a molecular model. The desk has various items including notebooks, and a bulletin board with papers and photos is in the background.
Bywyd Prifysgol

Defnyddia’r gefnogaeth academaidd

Mae prifysgolion yn aml yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth academaidd, fel cyngor gyrfa, tiwtora, ysgrifennu a chwnsela.

Gall yr adnoddau hyn helpu i feddwl am dy gamau nesaf ac addasu i fywyd prifysgol. Maent yno i helpu ti i lwyddo yn dy astudiaethau a goresgyn unrhyw heriau, fel peidio mwynhau dy gwrs.

Edrycha ar dy opsiynau

Oes modiwlau eraill o fewn y cwrs fydda’n diddori ti fwy? Os nad wyt ti’n siŵr beth rwyt ti eisiau gwneud ar ôl graddio, ymchwilia i wahanol lwybrau gyrfa i weld os yw’r cwrs yn helpu ti i gyflawni hyn. 

Os wyt ti wir yn anhapus gyda’r cwrs, edrycha ar bynciau eraill yn y brifysgol, neu hyd yn oed ystyried trosglwyddo i brifysgol wahanol. Siarada gyda dy gynghorwr academaidd am dy opsiynau.

Four young people smiling and talking in an open room.  
Bywyd Prifysgol

Ymuno â chymdeithasau neu glybiau myfyrwyr

Mae cwrdd â phobl ar dy gwrs yn ffordd wych o gyfarfod ffrindiau newydd, ond nid dyma’r unig ffordd. Os na fedri di ddod ymlaen â’r bobl ar dy gwrs, paid teimlo bod rhaid i ti orfodi perthynas os nad yw’n dod yn naturiol.

Yn lle hynny gallet ti gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol i gwrdd â phobl newydd sydd â diddordebau tebyg, gwneud ffrindiau, a dod o hyd i ymdeimlad o gymuned sydd ddim gen ti ar y cwrs. Gall hefyd roi saib bach o astudio a helpu ti i ymlacio.

Paid rhoi’r ffidl yn y to

Cofia bod addasu i fywyd prifysgol yn gallu cymryd amser. Paid rhoi’r gorau yn rhy sydyn. Rho amser i dy hun addasu a gweld os yw dy deimladau yn newid.

Cymryd seibiant

Weithiau, yr unig beth mae rhywun ei angen yw brêc bach. Cer am daith dros y penwythnos, treulia amser gyda ffrindiau a theulu, neu ymlacia. Mae ychydig o amser i ffwrdd yn gallu helpu rhywun i gael ychydig o egni yn ôl a theimlo’n bositif unwaith eto.

Young man studying at a cluttered desk with a laptop and open textbook.
Bywyd Prifysgol

Cofia, mae’n iawn i ti newid dy feddwl

Mae’n hollol normal newid dy feddwl am dy gwrs. Gall diddordebau a nodau newid dros amser. Paid â bod ofn edrych ar wahanol opsiynau a dod o hyd i rywbeth sy’n dy gyffroi.

Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd trwy brofiadau tebyg. Bydd cymryd camau rhagweithiol a chwilio am gefnogaeth yn helpu ti i ddarganfod datrysiad sydd yn gweithio i ti.

Chwilia am gymorth

Os yw pethau’n teilo’n ormod neu’n ormod o straen, yna paid ag oedi i chwilio am gymorth. Siarada gyda ffrind, teulu, neu gynghorwr. Yn aml mae yna wasanaeth cwnsela mewn prifysgolion i fyfyrwyr, ond mae yna restr aros weithiau.

Os wyt ti angen siarad â rhywun ar frys, siarada â chynghorwr Meic am ddim. Mae llinell gymorth Meic ar agor o 8am tan hanner nos bob dydd. Gallet ti ffonio, gyrru neges WhatsApp, tecstio, neu sgwrsio â ni ar-lein.