x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Perthynas o Bell – Sut i Ymdopi Tra yn y Brifysgol

Pink background with two white location markers, joined in the middle with a love heart

Gall ceisio cadw perthynas o bell ac ymdopi gyda’r newid bywyd a ddaw o gychwyn yn y Brifysgol fod yn heriol iawn.

Mae’n anodd cadw perthynas gyda’r holl ddarlithoedd, aseiniadau, amser gyda ffrindiau, gweithio, bod yn aelod o gymdeithasau a chael amser i ti dy hun, ond mae’n bosib.

Mae llawer o fyfyrwyr yn gallu cadw perthynas cryf a hapus er y pellter.

Os wyt ti’n ystyried gorffen perthynas am dy fod di’n ofn neu’n ansicr, cymera gam yn ôl a meddwl am dy resymau. Paid gadael i ofn wneud y penderfyniadau. Os wyt ti wir yn credu yn dy berthynas, yna brwydra amdano.

Bydd y blog yma yn edrych ar rai o’r prif bryderon a ddaw gyda pherthynas o bell ac yn y brifysgol. Efallai gall y cyngor yma helpu ti i gadw dy berthynas yn fyw ac yn hapus.

Darlun o ddau ffôn symudol gyda calon ar sgrin y ddau a llinell ddotiog a chalonnau yn cysylltu'r ddau - yn cynrychioli pellter rhwng dau berson

Ofni tyfu ar wahân

Mae’n gwbl naturiol i ti a dy bartner dyfu ar wahân dros gyfnod, ond cyfathrebu sy’n bwysig. Rhannwch eich profiadau, breuddwydion, a heriau i gadw perthynas emosiynol gryf.

Ymdrecha i sicrhau galwadau fideo neu ffôn rheolaidd, a gyrru negeseuon testun i’ch gilydd. Ond, nid oes rhaid i chi fod yn siarad o hyd! Rhowch ofod i’ch gilydd i gael y profiadau gorau.

Er y pellter, mae posib gwneud pethau â’ch gilydd . Beth am ddarganfod gweithgareddau mae’r ddau ohonoch yn ei fwynhau? Gwylio ffilm â’ch gilydd ar-lein,  chwarae gemau ar-lein, neu weithio tuag at gôl ranedig, mae rhannu diddordebau’n gallu cryfhau cysylltiad.

Anogwch a chefnogwch ddyheadau academaidd a phersonol eich gilydd. Dathlwch lwyddiannau a bod yno i’ch gilydd pan fydd pethau’n anodd.

Darlun o'r byd gyda dau bwynt lleoliad ar ddau ben gwahanol y byd i gynrychioli pellter.

Diffyg agosrwydd corfforol

Gall agosrwydd corfforol fod yn rhan bwysig o unrhyw berthynas. Er na allech chi fod â’ch gilydd drwy’r adeg, chwiliwch am bethau creadigol gallech chi ei wneud i gau’r bwlch yma. Ysgrifennu llythyr â llaw, gyrru anrhegion bach, neu drefnu dêt rhithiol.

Trefnwch ymweliadau rheolaidd yn ystod y gwyliau, wythnosau darllen, neu’r penwythnosau. Mae cyfarfod wyneb i wyneb fel hyn yn bwysig iawn i gryfhau’r cysylltiad a chadw’r fflam i fynd.

Cenfigen ac ansicrwydd

Nid yw’n anarferol i rywun deimlo’n ansicr neu’n genfigennus pan fydd eu partner yn cyfarfod pobl newydd ac yn dechrau treulio amser gydag eraill, yn enwedig os nad ydynt yn adnabod y bobl yma neu’n amau eu bwriad. Ond mae’n hynod bwysig i ti gael ffydd yn dy bartner a chyfathrebu’n agored am dy deimladau. Tawelwch meddwl eich gilydd gan ddangos eich bod chi wedi ymrwymo i’r perthynas ac yn barod i weithio â’ch gilydd i gadw’r ffydd.

Siaradwch am eich disgwyliadau, gan gynnwys pa mor aml byddech chi mewn cysylltiad, sut byddech chi’n delio gyda sefyllfaoedd cymdeithasol fel rhywun yn gofyn am rif ffôn neu’n fflyrtio, a sut byddech chi’n delio gyda chenfigen neu ansicrwydd. Mae gosod ffiniau clir yn gallu osgoi camddealltwriaeth a gwrthdaro.

Darlun dau swigen siarad gyda dau galon cariad y tu mewn iddynt.

Straen ac unigrwydd

Gall bywyd yn y brifysgol fod yn llethol, ac mae bod mewn perthynas o bell yn gallu mwyhau teimladau o straen ac unigrwydd. Meddylia am ffyrdd iach i ymdopi, fel ymarfer corff, myfyrio, neu dreulio amser gyda ffrindiau a theulu. Blaenoriaetha hunanofal a rhoi amser i weithgareddau sy’n gwneud ti’n hapus.

Mae angen ymdrech, ymrwymiad, a chyfathrebu agored i gynnal perthynas o bell. Wrth siarad yn agored gallech chi glywed pryderon eich gilydd a chreu cynllun i ymdopi gyda’r pellter.

Os wyt ti’n stryglo gyda pherthynas o bell yna siarada gyda chynghorwr cyfeillgar Meic, fydd byth yn barnu. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim ar y ffôn, neges WhatsApp, tecst, neu sgwrs ar-lein. Agored bob dydd o 8yb tan hanner nos. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di.