x
Cuddio'r dudalen

Dyslecsia a’r Cymorth Sydd ar Gael i Ti

Os wyt ti’n cael trafferth darllen, ysgrifennu neu sillafu, yna efallai bod gen ti ddyslecsia. Mae hwn yn gyflwr cyffredin sydd yn effeithio ar un ymhob 10 person yn y DU. Ond beth yn union ydy dyslecsia, a sut effaith mae’n ei gael arnat ti?

Beth yw dyslecsia?

Mae dyslecsia yn her dysgu eithaf cyffredin sy’n gwneud darllen, ysgrifennu a sillafu yn anodd. Ond y peth pwysicaf i gofio yw: nid yw’n dweud pa mor glyfar wyt ti. Mae’n ymwneud â’r ffordd mae’r ymennydd yn prosesu gwybodaeth.

Os oes gen ti ddyslecsia, yna efallai byddi di’n:

1. Ei chael yn anodd darllen: mae geiriau’n ymddangos fel eu bod yn symud o gwmpas ar y dudalen neu wedi cymysgu, ac mae hyn yn ei wneud yn anodd darllen

2. Stryglo gyda sillafu: mae cofio sut i sillafu geiriau penodol yn gallu bod yn anodd

3. Ei chael yn anodd ysgrifennu: mae rhoi syniadau ar bapur yn cymryd mwy o ymdrech ac mae’n anodd trefnu syniadau

4. Cael trafferth rheoli amser:  mae tasgau ysgrifennu a darllen yn cymryd ychydig yn hirach, ac mae hyn yn ei wneud yn anodd cadw at gynlluniau ac amserlen, yn cael effaith ar bethau fel gwaith cartref neu arholiadau

5. Ymdrechu i gofio pethau: efallai bod angen defnyddio triciau arbennig i gofio cyfres o wybodaeth, fel rhifau ffôn  neu gyfarwyddiadau.

6. Meddwl y tu allan i’r bocs: mae datrys problemau mewn ffyrdd unigryw yn golygu dy fod di’n gweld y byd mewn ffordd arbennig

7. Gryf iawn: mae llawer o bobl sydd â dyslecsia wedi meddwl am ffyrdd i ymdopi gyda’r heriau yma heb gymorth iawn, a gall hynny fod yn anodd

Efallai bod dyslecsia yn gwneud pethau’n anoddach weithiau, ond mae’n rhoi cryfderau unigryw i ti hefyd, sydd yn gallu gwneud i ti ddisgleirio.

Bachgen Asiaidd yn darllen llyfr yn feddylgar ar gyfer blog dyslecsia

Sut ydw i’n gwybod os oes gen i ddyslecsia?

Os yw rhai o’r symptomau uchod yn gyfarwydd i ti, efallai bod gen ti ddyslecsia.

Mae angen i ti fynd drwy Asesiad Diagnostig i gadarnhau hyn yn swyddogol. Bydd hyn yn cael ei wneud gan rywun sydd wedi’i hyfforddi mewn asesu dyslecsia. Efallai bydd rhaid i ti dalu am asesiad, ac mae’n gallu cymryd amser.

Ond fedri di gael cymorth heb ddiagnosis swyddogol.

Dyn gwallt byr yn sefyll dros ferch ifanc gyda llaw bryderus ar ei chefn. Merch yn ceisio ysgrifennu gyda olwg poenus ar ei hwyneb. Ar gyfer blog dyslecsia.

Pa fath o gymorth sydd ar gael?

Os wyt ti yn yr ysgol, coleg neu’r chweched dosbarth, mae posib cyfarfod gyda chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY). Efallai byddant yn rhoi profion sgrinio i ti, neu restr wirio i ddarganfod cryfderau a gwendidau, yna gallant ddarganfod y ffyrdd gorau i helpu. Ni fyddant yn rhoi diagnosis o ddyslecsia, ond efallai byddant yn awgrymu offer sydd yn gallu helpu ti i ddarllen, defnyddio cyfrifiadur neu liniadur, cael rhywun i gymryd nodiadau, neu amser ychwanegol ar gyfer arholiadau. Gallet ti siarad gyda CADY ar ben dy hun, gyda rhiant neu ofalwr, neu gydag athro. Gall cynghorydd Meic hefyd dy helpu i gysylltu gyda CADY i sicrhau dy fod di’n cael y gefnogaeth rwyt ti ei angen.

Yn y brifysgol, fe ddylai’r swyddfa anabledd gynnig cymorth ac argymell offer i helpu gyda dy astudiaethau. Mae posib gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl i helpu gyda chostau’r offer yma.

Yn y gwaith, mae’n rhaid i dy gyflogwr wneud newidiadau rhesymol i’r gweithle i gefnogi pobl gyda dyslecsia, yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb. Efallai bydd hyn yn cynnwys cael amser ychwanegol i wneud tasgau penodol.

Pob lwc!

Os wyt ti angen siarad mwy am hyn neu unrhyw beth arall sydd yn dy boeni di, cysyllta gyda ni yma yn Meic. Mae ein cynghorwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ac am ddim bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Rhywun ar dy ochr di.