x
Cuddio'r dudalen

Sut i Oroesi Blwyddyn Gyntaf Yn Y Brifysgol

Ymddangosodd yr erthygl hon ar theSprout.co.uk yn wreiddiol

Mae’r flwyddyn hon yn gweld y nifer mwyaf erioed o bobl yn gwneud cais i fynd i’r brifysgol, ac mae’n bosib dy fod di’n un ohonynt. Fel un sydd yn cychwyn yn yr ail flwyddyn, dwi felly’n fwy doeth eleni ac yn teimlo’r angen i addysgu’r rhai yn y flwyddyn gyntaf am yr holl wybodaeth dysgais i! Dwi wedi creu rhestr o bethau i’w ‘gwneud’ ac i ‘beidio gwneud’ yn y gobaith y bydd yn rhoi mewnwelediad i ti am yr hwyl a’r cyffro o fod yn y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol!

Mae gadael gartref yn gallu bod yn brofiad brawychus ac nid yw’n hwyl gorfod pacio dy eiddo i mewn i focsys a bagiau. Mae’n rhaid i ti hefyd feddwl am brynu’r holl bethau nad oeddet ti wedi dychmygu bod yn berchen arnynt gynt, pethau fel set o gyllyll a ffyrc (rhywbeth byddet ti’n dod yn amddiffynnol iawn ohonynt wrth i’r flwyddyn fynd yn ei flaen, yn enwedig os ydynt yn cael eu defnyddio gan rywun nad wyt ti’n hoff iawn ohonynt.) Mae rhieni yn ddefnyddiol iawn ar y pwynt yma: i gychwyn mae ganddynt fwy o arian na ti a hefyd bydd ganddynt brofiad o brynu eitemau cartref, fel hylif golchi llestri (byddet ti ei angen a ‘bleach’ toiled).

Manion Bach

Mae’r mwyafrif o lety prifysgol yn darparu pethau fel mopiau llawr, hŵfyr, bwcedi ayb, ond mae’n syniad da cael tegell neu dostiwr wrth gefn… esboniaf: roedd y tegell oedd wedi’i adael yn ein fflat yn wreiddiol yn arfer troi ei hun ymlaen a berwi ar unrhyw amser. Cerddais i mewn i’r gegin un nos i ddarganfod fy nghyfaill meddw yn syllu ar y tegell ac yn dweud mai “Transformer” ydoedd mewn gwirionedd.

Roedd yr hŵfyr yn y fflat gyferbyn yn arogli o chwyd, felly gair o gyngor: paid hŵfro chwyd nac dŵr! Hunllef go iawn! I ddweud y gwir, paid hŵfro unrhyw fath o hylif!

Fel glas fyfyriwr mae’n debyg na fyddet ti’n dod o hyd i’r hŵfyr os nad yw:

  1. rhieni rhywun yn dod i ymweld
  2. rwyt ti’n byw gyda rhywun sydd â OCD (anhwylder gorfodaeth obsesiynol) neu
  3. mae’r fflat yn drewi cymaint mewn llefydd anhysbys fel nad ellir byw yna mwyach

Ffrindiau (Hen a Newydd)

Peth arall mawr pan fyddi di’n symud o gartref ydy gadael dy hen ffrindiau. Y ffordd llwyddais i ymdopi â hyn oedd printio llwyth o luniau a’u rhoi i fyny yn fy ystafell wely. Mae Facebook yn hanfodol wrth gadw’n gyfoes/stelcio dy ffrindiau o gartref. Mae hefyd yn syniad da os wyt ti’n gallu darganfod pwy fyddi di’n byw gyda nhw dros y flwyddyn gan y gallet ti weld sut maent yn edrych ac efallai gyrru cwpl o e-byst i ddangos cyfeillgarwch cyn i ti symud i mewn. Un gair o gyngor… paid bod yn “ffrindiau” gyda mam neu dad neu aelod agos arall o’r teulu ar Facebook gan ei fod yn rhoi ffordd iddynt stelcio ti hefyd!!

Pan gyrhaeddais fy llety yn y brifysgol, fi oedd yr olaf o’r pump i symud i mewn ond yn ffodus roeddent wedi gadael cwpwrdd sbâr i mi, cyd-ddigwyddiad oedd mai hwn oedd y cwpwrdd mwyaf yn y gegin! Byddwn hefyd yn dy gynghori i ofyn i dy rieni i wneud siopa bwyd mawr i ti gan eu bod nhw’n ymwybodol o’r pethau byddi di eu hangen i fyw (ond aeth mam ychydig dros ben llestri gyda’r bîns, mae gen i dal ychydig ar ôl ers mis Medi!), ond os byddet ti’n mynd i’r siop mae’n debyg mai da-da, alcohol a bysedd pysgod fydd gen ti yn dy gwpwrdd.

Kitchen spongesCoginio a Glanhau

Roedd dysgu coginio yn un o’r pethau mwyaf sydd wedi newid fy mywyd! Gartref mae mam yn coginio a ti’n bwyta, efallai helpu i glirio wedyn? Neu dim byd o gwbl? Yn y brifysgol, nid oes neb yn coginio i ti (yn anffodus, os nad wyt ti mewn llety sydd ag arlwyaeth, os felly, rwyt ti’n lwcus iawn!) ac os nad wyt ti’n coginio yna mae’n debyg byddet ti’n llwgu. Mae’r person dwi’n byw â nhw yn anobeithiol yn gwneud tost; yn ei roi ar dân unwaith, yn llythrennol, gyda fflamau yn tywallt o’r top! I ymateb i’r broblem ddifrifol, roeddem yn neidio dros y gegin yn gwaeddi ‘tân’ er bod pob llety prifysgol yn cynnwys diffoddwr tân a blanced tân…

Yn y diwedd, chwythais y tân allan fel cacen pen-blwydd afiach. A dyma fy mhwynt: efallai glanha’r tostiwr bob hyn a hyn? Achos ein tân oedd darn hen o dost oedd wedi bod yn sownd yno am oes, ond paid poeni, roedd y tostiwr yn iawn!

Fy awgrym nesaf ydy i ti fod yn ymwybodol bod bwyd yn mynd yn ddrwg ac yn llwydo os yw’n cael ei adael am gyfnod. Os wyt ti’n mynd adref ar gyfer wythnos darllen neu wyliau yna dwi’n cynghori i ti wagio dy gwpwrdd cyn i ti fynd a thaflu popeth sydd yn mynd yn ddrwg, ee. bara. Os wyt ti’n dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg ac yn darganfod torth werdd yn eistedd yng nghanol y gegin, yna nid dyma’r croeso gorau. Roedd mor hunllefus ac yn drewi mor ddrwg fel ei fod yn haeddu enw, ond yna anffodus roedd rhaid i ‘Larry the Loaf’ fynd i lawr i’r biniau yn eithaf sydyn! Dwi’n sicr gallen ni fod wedi ei werthu i labordy gwyddoniaeth fel penisilin.

Dyma beth sy'n digwydd os nad ydych yn ddadrewi dy rewgell

Dyma beth sy’n digwydd os nad ydych yn ddadrewi dy rewgell

Roedd gennym ni syniad da iawn: golchi popeth ti wedi defnyddio cyn gynted â phosib. Am yr wythnosau cyntaf roedd yn anodd glynu at y syniad yma a cyn hir bydda’r pentwr yn tyfu mor fawr fel nad oedd platiau, cyllyll nac ffyrc i’w defnyddio a gorfodwyd i ni olchi’r llestri! Ar un adeg rhoddom hysbyseb yn y lifft i gyflogi rhywun i ddod i olchi’r llestri yn gyfnewid am fwyd. Roedd yn llwyddiannus, ond roedd yn eithaf od (yn cyrraedd gyda cholandr am ei ben) felly dim ond ychydig o weithiau y daeth.

Wythnos Y Glas

Dyma wythnos gyntaf gwallgof, ansefydlog, niwrotig dy fywyd prifysgol ac mae’n blino ti’n lân! Ti’n treulio’r mwyafrif o’r dyddiau yn cysgu gan dy fod yn brysur yn gwario dy fenthyciad myfyriwr ar nosweithiau allan. Dyma ble byddi di’n cyfarfod llwyth o bobl newydd, y mwyafrif ohonynt ti ddim yn debygol o siarad â nhw eto felly paid poeni os wyt ti’n dweud rhywbeth hollol wirion, ond ceisia beidio gan fod argraff gyntaf yn cyfrif! Mae cerdded adref gyda chôn traffig ar dy ben a gwthio dy ffrindiau mewn troli yn berffaith dderbyniol ond bydd cwffio a thorri pethau yn gwneud i bobl gofio ti am y rhesymau anghywir. Hefyd, ceisia fod yn ddiogel, mae pobl yn manteisio ar fyfyrwyr newydd gan eu bod i ffwrdd o gartref ac yn fregus. Paid meddwi cymaint fel nad wyt ti’n cofio ble rwyt ti’n byw, ceisia aros gyda’r bobl ti’n adnabod. Dwi’n dweud ceisia, ond mae wythnos y glas yn amser perffaith os wyt ti am ychydig o garu, felly caria gondom er lles dy hun.

Keys in the lockAllweddi

Paid colli dy allweddi! Mae’n waeth nag colli dy ID. Nid yw’r mwyafrif o gwmnïoedd yswiriant yn talu allan os nad wyt ti wedi cloi dy ystafell. Roedd rhai o’m ffrindiau wedi colli teledu a X-box am nad oeddent wedi cau’r drws yn iawn. Roedd fy mhrofiad i ychydig mwy doniol (ond nid ar yr adeg): Anghofiais gloi fy nrws pan es i godi fy nillad golch. Dychwelais i weld bod yr ystafell wely cyfan (gyda’r gwely wedi’i wneud) yn y coridor tu allan, gyda’m mras yn hongian ar bob drws. Achos arall oedd pan roedd fy ystafell wyneb i waered i gyd, y gliniadur ar y toiled, fy ngwely wedi’i droi’r ffordd arall, a nodiadau bach melyn anfoesgar ym mhobman.

A dyma gyrraedd y ‘trais’ Facebook disgwyliedig! Cyn gynted ag y bydd rhywun wedi cael mynediad i dy ystafell hebot ti yno, ac rwyt ti wedi mewngofnodi i Facebook, yna gallent gloi eu hunain i mewn a newid popeth bach ar dy broffil, o’r llun proffil i’r dyn tewaf yn y byd, i dy ddyddiad geni fel bod pawb yn dymuno pen-blwydd hapus i ti a tithau methu deall pam!

Mae’r flwyddyn gyntaf yn y brifysgol wedi bod yn flwyddyn gorau fy mywyd a dwi’n gobeithio bydd un ti’r un peth! Byddet ti’n cyfarfod pobl newydd, yn cael annibyniaeth ac yn aeddfedu cymaint! Pob lwc ar gychwyn dy daith fwyaf erioed!