x
Cuddio'r dudalen

Arholiadau a dy Iechyd Meddwl

Mae llawer o bobl yn teimlo straen a phryder pan ddaw at sefyll arholiadau. Rydym wedi chwilio’n ôl yn archif Meic i ail rannu’r blog yma gan All My Strength fel rhan o’n hymgyrch arholiadau.

Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti trwy gyfnod yr arholiadau – cer yma i weld.

Mae teimladau o banig a straen yn aml yn codi ei ben yng nghyfnod arholiadau. Mae’n bwysig iawn cadw amser i sicrhau ein bod ni, a’r bobl o’n cwmpas, yn iawn. Mae arholiadau yn bwysig, ond mae ein hiechyd meddwl yn bwysicach fyth.

Pwysigrwydd siarad

Mae siarad yn ffordd bwysig i helpu gyda straen. Cymera saib o’r astudio am gyfnod i siarad gyda ffrindiau am dy deimladau. Mae rhannu gyda phobl sydd yn yr un sefyllfa â thi yn ffordd dda i gael gwared ar deimladau o rwystredigaeth. Gallech chi helpu eich gilydd wrth rannu’r ffyrdd rydych chi’n ymlacio ac yn lleihau’r straen. Sicrha bod ffrindiau yn deall y gallant siarad â thi os yw straen a’r nerfau’n dod yn ormod. Dangosa dy fod di’n gefnogol ohonynt!

Nid pryder yw straen arholiadau

Pan fydd pawb yn teimlo straen a blinder mawr, mae’n hawdd anghofio am y rhai sydd yn dioddef pryder cronig. Mae’n deimlad hollol wahanol i’r ffordd mae’r mwyafrif yn teimlo dros gyfnod byr arholiadau. Gall hwn fod yn gyfnod peryglus gydag arwyddion o salwch meddwl yn cael eu methu. Mae’n bwysig peidio cymharu straen arholiadau i bryder fel salwch meddwl. Nid yw’r ddau’r un peth. Os wyt ti’n dioddef o straen arholiadau, mae’r teimladau yma’n normal. Bydd pethau’n datrys eu hunain yn y pen draw.

Teimladau o rwystredigaeth

Dylai salwch meddwl barhau i fod yn flaenoriaeth i weithwyr iechyd meddwl a gweithwyr cefnogol, ac mae angen ei gydnabod ar wahân i straen arholiadau. Dychmyga pa mor rhwystredig y byddai i rywun sydd â chyflwr iechyd meddwl difrifol i orfod rhannu’r rhestr aros hir i weld doctor neu gynghorwr gyda rhywun ble mae’r straen yn debygol o ddiflannu ar ôl diwedd yr arholiadau.

Yn yr un modd, dychmyga pa mor rhwystredig a bychanol yw dweud wrth berson ifanc sydd â phryder mai straen arholiadau sydd ar fai am yr holl feddyliau negyddol afreolus sydd ganddynt. Mae rhai pobl mewn risg ac mae’n beryglus amharu ar eu rhwydwaith cefnogol.

Gwna amser i siarad. Cofia mai peth dros dro yw straen arholiadau, ond cofia roi sylw at dy iechyd meddwl yn y cyfnod yma!

Lefel Nesa

Cer draw i wefan Lefel Nesa i gael canllawiau arholiadau ac asesu, cyngor gyrfaoedd ac awgrymiadau lles ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae Gyrfa Cymru, E-sgol, Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu llawer o adnoddau ychwanegol i helpu dysgwyr sydd yn cymryd arholiadau ac asesiadau eleni.

Cysyllta â Meic

Mae arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd ar unrhyw un. Weithiau efallai byddet ti’n hoffi siarad am bethau gyda rhywun fel nad yw pethau yn dod yn ormod o bwysau. Mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn gwrando ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol ac am ddim. Cysyllta ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we.