x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Arholiad Wedi Mynd Yn Ddrwg? Sut i Deimlo’n Well Ar Ôl Prawf Anodd

Rwyt ti newydd orffen arholiad a phethau ddim wedi mynd yn grêt. Efallai bod dy feddwl di wedi mynd yn hollol wag, neu fod y cwestiynau’n teimlo’n hollol ddiarth i ti. Beth bynnag ddigwyddodd, ti’n teimlo’n isel wrth gerdded allan.

Anadl ddofn! Mae’n digwydd i’r gorau ohonom. Mae arholiadau yn achosi straen, ac weithiau, er yr holl baratoi, mae pethau’n gallu mynd o chwith.

Ond dyma un darn o wybodaeth i ti: nid yw un arholiad yn dy ddiffinio di. Nid golygfa o ryw ffilm fawr yw hon, ble mae dy ddyfodol cyfan yn dibynnu ar un prawf. Rwyt ti wedi gweithio’n galed, wedi adolygu, ac mae’r ymdrech yma’n haeddu cydnabyddiaeth.

Young people in exam hall with girl holding her head in hands

Dyma sut i ddod yn ôl o brofiad arholiad drwg

  • Cydnabod dy deimladau. Mae’n iawn i ti deimlo’n siomedig neu’n rhwystredig. Paid cadw dy deimladau i mewn – siarada gyda ffrind, aelod teulu, neu athro am dy deimladau
  • Newid dy ffocws. Nid yw’n bosib newid y gorffennol, ond mae posib rheoli’r hyn sydd yn digwydd nesaf. Paid â gorfeddwl yr arholiad. Canolbwyntia ar yr heriau sydd i ddod a sut i baratoi’n well
  • Cofia, nid ti yw’r unig un. Mae pawb yn profi straen, ac weithiau, er yr holl drio, dyw pethau ddim yn aros yn y cof. Gall rhannu dy brofiad gydag eraill fod yn ffordd dda i deimlo cefnogaeth ac anogaeth
  • Ymarfer hunanofal. Gwna rhywbeth rwyt ti’n mwynhau – bath ymlaciol, llyfr da, neu ddiwrnod o hwyl gyda ffrindiau. Rwyt ti’n haeddu seibiant!
  • Canolbwyntia ar arferion iach. Bwyta bwyd maethlon, cael digon o gwsg, ac ymarfer y corff yn rheolaidd. Mae gofalu am dy les corfforol a meddyliol yn hanfodol i fedru perfformio at dy allu gorau
  • Gweld llwyddiant. Dychmyga dy hun yn llwyddo yn yr arholiad nesaf. Mae meddwl yn bositif, a siarad gyda dy hun yn bositif, yn gallu bod yn llesol iawn i roi hwb i’r hyder
Teenager holding a mug of tea in their hands

Y gwir y tu ôl i’r arholiadau rwyt ti’n ‘ffaelu’

Weithiau mae’r arholiadau ti’n ‘ffaelu’ yn gallu bod yn brofiad dysgu gwerthfawr. Gofynna i ti dy hun, beth aeth o’i le? Sut fedri di wella dy dechneg adolygu y tro nesaf? Defnyddia hyn fel cyfle i adnabod ffyrdd i dyfu a dychwelyd yn gryfach fyth.

Cofia, dim ond un darn o’r pos yw arholiadau. Nid un radd sydd yn mesur dy werth a dy botensial. Rwyt ti’n alluog, yn ddeallus, a gyda chymaint i’w gynnig. I rai, nid arholiadau yw’r ffordd y gallant arddangos hyn, ac mae hynny’n iawn.

Felly pen i fyny! Bydd heriau a chyfleoedd eraill eto lle gallet ti ddisgleirio. Dysga o’r profiad yma a pharhau i symud ymlaen. Cer amdani!

Cymorth pellach

Os hoffet ti gymorth pellach gyda arholiadau, siarada gydag un o gynghorwyr cyfeillgar Meic i rannu unrhyw beth sydd ar dy feddwl.

Mae gan Lefel Nesa amrywiaeth o adnoddau am ddim gwych i bobl ifanc sydd yn sefyll arholiadau neu sy’n poeni am y camau nesaf i addysg neu yrfa.