x
Cuddio'r dudalen

6 Ffordd i Leihau Straen Arholiadau

Mae arholiadau ymhob man ar hyn o bryd a gall fod yn gyfnod anodd iawn i rai. Mae Meic yma i helpu wrth gyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol dros yr wythnosau nesaf i helpu ti i ymdopi a pharatoi. Os ydy pethau’n profi’n rhy anodd yna gallet ti gysylltu â Meic ar y manylion ar waelod yr erthygl hon.

(This article is also available in English – To read this content in English click here)


Tydi straen ddim yn rhywbeth neis, nid yw’n ddefnyddiol nac yn dda iawn i dy iechyd chwaith. Ond yn anffodus mae’n beth mae pawb yn ei deimlo weithiau, yn enwedig yn ystod yr arholiadau cythreulus!

Bydda’n ymwybodol o dy lefelau straen a sicrhau dy fod di’n chwilio am gefnogaeth os ydynt yn codi’n rhy uchel, gan athro, aelod teulu, ffrind neu rywun proffesiynol. Ond mae Meic yma i helpu wrth rannu technegau i gael gwared ar straen a gobeithio bydd hyn yn helpu ti i deimlo’n well unwaith eto.

1. Anwesu rhywbeth ciwt

Wir ar! Mae anwesu rhywbeth bach ciwt yn rhyddhau endorffinau yn dy gorff fydd yn help i ymlacio. Dyna pam bod cynyddiad ym mhoblogrwydd caffis cathod a pham bod Prifysgolion wedi bod yn sefydlu ystafelloedd cŵn a moch bach.

Mae ymchwil yn awgrymu bod edrych ar luniau o bethau ciwt yn gallu gwella lefelau canolbwyntio, felly hyd yn oed os nad fedri di fynd i ystafell cŵn bach go iawn, yna chwilia am #catsofinstagram neu #instapuppy ar Instagram i fodloni’r ysfa a threulio ychydig funudau yn mwmian “ooooooo ciwwwwwwt” ar y sgrin.

Gorwedd i ymlacio 6 ffordd i leihau straen arholiadau
Llun gan Joshua Fuller on Unsplash

2. Gorwedd

Mae napio yn gwneud mwy nag lleihau straen: mae hefyd yn helpu gyda datrys problemau a chofio pethau, sydd yn fuddiol iawn wrth adolygu.

Anodd bydd dod o hyd i wely yn ystod y dydd mae’n debyg, ond mae nifer cynyddol o lefydd yn mabwysiadu’r syniad o ‘beditation‘: myfyrio wrth orwedd (fydd yn debygol o arwain at ficro-nap nes i rywun dy brocio). Mae’r ymarfer yn ymwneud â thalu sylw i dy feddyliau a theimladau tra mewn cyflwr o ymlacio. Mae gwneud hyn yn rhoi pellter rhyngot ti a’th bryderon, yn rhyddhau’r gafael sydd arnat ti.

3. Gwrando ar dy gorff

Yn symud ymlaen o’r pwynt uchod, gwranda ar dy gorff. Os wyt ti’n teimlo fel bod clwm yn dy stumog neu bwysau ar dy frest yna mae angen cydnabod hynny. Paid anwybyddu’r peth, gwyra i mewn i’r teimlad yma. Dweud “Dwi’n teimlo’n nerfus, dan bwysau/dan straen/yn poeni, ond mae hynny’n iawn.” Paid ymladd y teimlad yma, ceisia ei dderbyn, a bydd pethau yn dechrau pylu. Os ydy’r straen yn teimlo’n ddrwg iawn, canolbwyntia ar anadlu am ychydig funudau.

Lawr lwytha app ymwybyddiaeth ofalgar fel Headspace neu Stop, Breathe & Think sydd yn dysgu technegau ymwybyddiaeth ac anadlu bydd yn help i ti ymlacio.

Mae adolygu ac eistedd arholiadau yn llosgi llawer o galorïau felly mae’n bwysig bwyta. Bydd dy stumog yn rhoi gwybod pan fyddi di eisiau bwyd, yr unig beth sydd angen ei wneud ydy gwrando arno. Os wyt ti’n teimlo’n stiff: Ymestyn. Os wyt ti’n teimlo’n flinedig: Cysga – Paid agor tun arall o Red Bull.

4. Cymryd Saib

Nid clymu dy hun i’r ddesg yw’r ffordd orau i adolygu bob tro. Os wyt ti’n ail-ddarllen yr un frawddeg drosodd a throsodd: cymera saib. Newidia’r olygfa. Cer am dro. Mae cymryd seibiant o rywbeth yn caniatáu i ti gael persbectif ffres pan fyddi di’n dod yn ôl ato.

Os bydd y teimlad yma yn dod pan fyddi di’n eistedd yr arholiad ei hun, noda unrhyw nodiadau ar ymyl y papur ac yna tro’r dudalen. Cer yn ôl at y cwestiwn yna wedyn.

5. Rhoi persbectif ar bethau

Paid rhoi gormod o bwysau arnat ti dy hun. Tra bod arholiadau’n bwysig, ar y cyfan, nid dyma’r ateb i bopeth. Mae posib eu hail eistedd os oes angen. Mae pawb yn wahanol, ac nid yw ymennydd pawb yn gweddu sefyllfa arholiadau bob tro. Os yw arholiadau’n anodd i ti, nid yw’n golygu bod rhywbeth o’i le, ac nid yw’n arwydd o dy ddeallusrwydd.

Cofia bod yna sawl person llwyddiannus iawn sydd ddim wedi gorffen yr ysgol neu wedi bod i Brifysgol.

Gwranda ar Everybody’s Free To Wear Sunscreen gan Baz Luhrmann i gael ysbrydoliaeth ac ysgogiad (Baz ysgrifennodd, cyfarwyddodd a chynhyrchodd Moulin Rouge!, The Great Gatsby a Romeo + Juliet).

6. Siarada am y peth

Hanner y baich yw ei rannu, ac nid ti yw’r unig un fydd yn teimlo straen arholiadau. Beth am fynegi dy hun wrth siarad, ysgrifennu, cerddoriaeth, celf, ymarfer corff… unrhyw beth fel nad wyt ti’n cadw popeth i mewn?

Mae yna nifer o fforymau a chymunedau ar-lein i fyfyrwyr fynegi eu hunain yn ddiogel a chynnig cefnogaeth i fyfyrwyr eraill, fel The Student Room.

Os nad wyt ti’n siŵr pwy i ymddiried ynddynt, yna mae Meic yma i helpu bob tro. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar-lein.


Dyma erthyglau eraill sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod yr ymgyrch arholiadau Meic. Bydd mwy yn cael eu hychwanegu fel mae’r ymgyrch yn parhau: