x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Blwyddyn Bwlch: Sut i Fanteisio Orau

Gall cymryd blwyddyn bwlch cyn cychwyn yn y brifysgol fod yn ffordd wych i gael profiadau newydd, datblygu dy sgiliau, a gwneud penderfyniadau gwybodus am y dyfodol.

Er nad yw at ddant pawb, gall fod yn ffordd dda i gael brêc bach o addysg, gweld safbwyntiau gwahanol, a pharatoi dy hun ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sydd i ddod. Dyma rai manteision blwyddyn bwlch a’r pethau sydd angen eu hystyried os wyt ti am wneud hynny.

Young adult wearing a staff lanyard in a childcare setting. He is talking to a young toodler.

Gweithio

Os oes gen ti ddiddordeb mewn interniaeth, prentisiaeth, gweithio’n rhan amser neu lawn amser, mae yna nifer fawr o gyfleoedd lle gellir datblygu sgiliau a dysgu am wahanol ddiwydiannau. Gall y fath yma o brofiad fod yn fuddiol iawn wrth geisio am swyddi gwahanol neu addysg bellach. Bydd profiad gwaith yn rhoi syniad i ti o yrfa benodol cyn i ti roi gormod o amser i rywbeth nad wyt ti’n hoff ohono.

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych arall i fanteisio o dy flwyddyn bwlch. Wrth roi ‘n ôl i’r gymuned gallet ti ddatblygu sgiliau gwerthfawr, cwrdd â phobl newydd, a gwneud cyfraniad positif i’r byd. Mae cyfleoedd gwirfoddoli di-ri ar gael, o weithio gyda phlant i amddiffyn yr amgylchedd. Gall edrych yn wych ar dy CV a chynnig llwybrau eraill i archwilio dy ddiddordebau y tu allan i waith cyflogedig.

Woman wearing a sunhat and a large hiking backpack. She is sat on a stone wall, looking out over a large body of water and a luscious, rocky and green mountain.

Teithio

Mantais ddeniadol blwyddyn bwlch yw’r cyfle i deithio ac archwilio diwylliannau newydd. Bod hynny’n bacpacio Ewrop, gwirfoddoli mewn gwlad sy’n datblygu, neu ddarganfod dirgelion cudd Cymru, gall teithio ehangu gorwelion a rhoi profiadau bythgofiadwy. Gall teithio helpu i ddatblygu sgiliau pwysig fel annibyniaeth, hyblygrwydd, a datrys problemau.

Mae teithio cyn mynd i’r brifysgol yn ddewis poblogaidd gan fod y mwyafrif yn awyddus i gael swydd yn eu maes dewisol yn dilyn gorffen yn y Brifysgol.

Hobïau

Gall blwyddyn bwlch fod yn gyfnod da i archwilio diddordebau a hobïau. Dyma amser perffaith i archwilio’r pethau sy’n dy ddiddori, pethau nad wyt ti wedi cael amser i’w gwneud cynt. Beth am roi tro ar rywbeth newydd fel creu cerddoriaeth, celf neu chwaraeon newydd. Gall hyn helpu i ddarganfod y pethau mae gen ti wir ddiddordeb ynddynt a chaniatáu i ti wneud penderfyniadau gwybodus am dy ddyfodol.

Older teenage boy working at a desk wearing a pair of headphones. His laptop is open.

Iechyd meddwl

Gall blwyddyn bwlch fod yn ffordd dda i leihau straen a gwella dy iechyd meddwl. Gall roi amser i ti ymlacio, adnewyddu a meddwl am dy fywyd. Mae cymryd brêc o bwysau addysg yn gyfle i ti archwilio safbwyntiau newydd a dychwelyd i dy astudiaethau wedi dy adfywio ac yn llawn cymhelliant (os mai dyma wyt ti’n dewis gwneud).

Nodau

I fanteisio orau o dy flwyddyn bwlch, mae’n bwysig gosod nodau a chreu cynllun. Penderfyna beth rwyt ti am gyflawni yn yr amser  yma a chreu llinell amser i helpu ti i aros ar y trywydd cywir. Ceisia rwydweithio â phobl yn y maes mae gen ti ddiddordeb ynddo a meithrin perthnasoedd a all fod o fudd i ti yn y dyfodol.

Gall meddwl am gynllunio blwyddyn bwlch godi ofn ar rai. Os nad wyt ti’n siŵr beth i’w wneud yn ystod dy flwyddyn bwlch, efallai gall cynghorwr Meic helpu! Sgwrsia â ni am yr hyn rwyt ti eisiau gwneud,  dy

ddiddordebau a phryderon. Ar agor rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.