Syniadau i Setlo’n Ôl i’r Drefn Arferol
Mae’r amser wedi dod i fynd yn ôl i realiti. Bod hynny’n dychwelyd i’r ysgol, cychwyn swydd newydd, neu addasu i drefn newydd. Mae ceisio cael trefn ar ôl cyfnod i ffwrdd yn gallu bod yn dipyn o sioc i’r system.
Felly dyma restr cyngor ymarferol i helpu ail-gychwyn a throsglwyddo’n ôl i’r drefn arferol. O ymdopi gyda’r llwyth gwaith i roi amser i hobïau, rydym yma i helpu. Amser i gael trefn.
Cychwyn yn araf
Nid oes rhaid rhuthro yn ôl i bethau – cychwyn yn raddol a pheidio ceisio gwneud popeth ar unwaith. Cymera amser i drefnu dy hun a chreu cynllun ar gyfer y cyfnod yma. Cynydda dy lwyth gwaith yn araf ar ôl i ti ddechrau dod i arfer.
Un syniad gall fod yn hwyl a gwneud ti’n fwy cynhyrchiol yw gweithio gyda ffrindiau, cyfoedion, neu gyd-weithwyr. Gall pawb helpu ei gilydd i gadw ar y llwybr cywir.
Cofia bod angen cymryd seibiannau byr yn ystod y dydd i gadw ffocws ac osgoi gorflino.
Blaenoriaeth
Gall cael cydbwysedd rhwng hobïau / gweithgareddau ag ysgol / coleg / prifysgol / gwaith fod yn anodd iawn weithiau.
Rho amser i feddwl beth yw’r pethau pwysicaf i ti, a blaenoriaetha dy weithgareddau. Os oes gormod yn digwydd yna oes posib gollwng rhai pethau? Meddylia am bethau fel faint o fwynhad mae’n ei roi, y gost, yr amser mae’n ei gymryd, a’r manteision i ti.
Fedri di wastad ail-gychwyn y pethau yma’n hwyrach ymlaen.
Cynllunio a rhannu
Ceisia rannu dy gyfrifoldebau i ysgafnhau’r llwyth gwaith, a phaid ofni dweud na i wahoddiadau neu bethau newydd os wyt ti’n teimlo bod pethau’n ormod.
Gosod nodau realistig a defnyddia adnoddau rheoli amser i helpu cadw’n drefnus – neilltua amser ar gyfer gweithgareddau, astudio, gweithio ac ymlacio. Mae sawl adnodd am ddim i wneud hyn ar dy ffôn, tabled, gliniadur, neu gyfrifiadur, ond mae beiro a phapur yn gweithio cystal.
Cydbwyso cyfrifoldebau
Mae yna lawer o bwysau o ddydd i ddydd yn ychwanegol i waith ac addysg, a gall wynebu’r rhain bob dydd ei gwneud yn anodd cadw trefn.
Er esiampl, os wyt ti’n rhiant neu ofalwr ifanc, gall ceisio cydbwyso bywyd teulu a chyfrifoldebau fod yn arbennig o anodd.
Beth am geisio cynnwys dy deulu yn y gwaith tŷ a rhannu cyfrifoldebau gofalu os yw’n bosibl? Gallet ti ofyn am gymorth os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n ymdopi ar y funud.
Mae’n bwysig cyfathrebu’n agored er mwyn rheoli disgwyliadau ac osgoi gwrthdaro.
Cofia cadw digon o amser ar gyfer gweithgareddau hwyl gyda’r teulu hefyd, er mwyn creu atgofion a chryfhau perthnasau, a chofia gadw amser i ti dy hun.
Hunanofal
Mae blaenoriaethu hunanofal yn bwysig iawn ar gyfer lles corfforol a meddyliol. Bod hynny’n ymarfer corff, gwylio sioe, darllen llyfr, neu gael cawod, mae amser i dy hun yn hanfodol.
Cofia sicrhau dy fod di’n bwyta ac yn gorffwys digon i gynnal lefelau egni. Nid yw’n bosib arllwys o gwpan gwag, felly mae gofalu am anghenion sylfaenol yn bwysig iawn.
Siarada
Mae cael trefn ar ôl cyfnod i ffwrdd yn gallu bod yn anodd.
Cofia, mae’n iawn i ti wneud camgymeriadau ac nid oes rhaid bod yn berffaith ym mhopeth. Bydda’n hyblyg ac addasa i newidiadau annisgwyl. Dathla dy gyflawniadau i roi hwb i dy hun.
Os yw pethau’n anodd a ti’n teimlo medri di ddim ymdopi, gofyn am gymorth ffrindiau, teulu, neu wasanaeth fel Meic, fydd yn gallu helpu pan mae pethau’n teimlo’n ormod.