x
Cuddio'r dudalen

Adref o’r Brifysgol am y Nadolig

Mae’r Nadolig yn amser pan fydd pawb dros y wlad yn teithio adref i fod gyda theulu. Ar ôl treulio tri mis yn byw’n annibynnol i ffwrdd o gartref, sut beth fydd aros yn dy hen ystafell gyda’r hen reolau? Sut mae llywio’r daith gartref? Mae gan Meic ychydig o awgrymiadau gall helpu.

To read this content in English – click here

Mae teithio adref o’r brifysgol, yn enwedig yn dy flwyddyn gyntaf, yn gallu bod yn gyffrous ac yn frawychus. Rwyt ti wedi hiraethu am dy deulu ac yn awyddus i’w gweld, ond rwyt ti wedi cael 3 mis o fyw’n annibynnol ac yn cael gwneud fel yr hoffet, pan yr hoffet! Efallai bod dy deulu wedi dod i arfer i’r ffaith nad wyt ti yno. Mae posib bod newidiadau wedi bod ers i ti fynd i ffwrdd. Efallai dy fod di hefyd wedi newid, yn dy hun a’r ffordd ti’n edrych. Gall fod yn syniad da siarad gyda dy rieni am y pethau gall fod yn sioc o bosib! Yna mae gen ti’r ochr ymarferol – prynu tocynnau teithio, faint o bethau i bacio, pa lyfrau a gwaith i fynd adref gyda thi.

Cinio Nadolig i erthygl Adref o'r Brifysgol am y Nadolig

Cyngor da

Rydym wedi darganfod cwpl o flogiau gyda chyngor am fynd adref dros y Nadolig gydag awgrymiadau defnyddiol a doniol.

Mae ‘Best and Worst things about going home for the holidays’ gan Uniplaces yn edrych ar y manteision a’r anfanteision mewn ffordd ddigrif gyda gifs, fel y fantais o gael bwyd yn yr oergell, a’r anfantais o gael rhywun yn monitro dy holl symudiadau.

Mae ‘The Student Guide To Going Home For Christmas’ gan GoThinkBig yn edrych ar y pwnc mewn ffordd ymarferol, gyda chyngor am deithio, newidiadau, gwaith cyflogedig, cyfathrebu a gwaith coleg.

“Rwyt ti wedi newid”

Mae’r brifysgol, i rai pobl, yn gallu bod yn ddiwylliant cwbl wahanol i adref a’r gymuned. Mae ffitio yn ôl i mewn i dy hen fyd yn gallu bod yn anodd. Efallai bydd dy ffrindiau a dy deulu yn ei chael yn anodd derbyn y person ‘newydd’ yma. Efallai dy fod di’n edrych yn wahanol, neu’n ymddwyn yn wahanol, ond gallet ti eu cysuro drwy ddweud mai’r un person wyt ti a dy fod di’n eu caru. Mae hefyd yn helpu os wyt ti’n ymwybodol o’r gwahaniaethau, ac yn gallu derbyn nad oes llawer gallet ti ei wneud am y peth. Ceisia edrych ar y peth yn bositif a chofleidio’r gwahaniaethau yma.

Gwrando ar fyfyrwyr eraill

Os wyt ti’n ei chael yn anodd bod yn ôl gartref, mae yna flogiau myfyrwyr a fforymau ble gallet ti rannu dy deimladau. Gallet ti hefyd gysylltu â Meic unrhyw dro rhwng 8am a hanner nos, hyd yn oed ar ddiwrnod Nadolig!

Mwynhau’r gorffwyso

Mae’n bosibl byddet ti’n gallu ymlacio tra adref. Ddim yn gorfod meddwl am siopa am fwyd, coginio, golchi dillad a thwtio. Defnyddia’r amser yma i ymlacio go iawn, i fod yn barod am y tymor newydd fis Ionawr.

Mae’n syniad da i ti neilltuo amser i wneud gwaith coleg. Ond ymlacia a dathla holl hwyl yr ŵyl gyntaf efallai. Byddet ti’n dychwelyd i’r brifysgol yn gwybod bod pethau dan reolaeth, a bydd hyn yn brofiad llawer mwy positif.

Yn fwy na dim, ceisia fwynhau dy amser adref cymaint â phosib a chael gwyliau Nadolig gwych!