Cyngor Ar Sut i Osod Targedau Cyraeddadwy
Wyt ti’n teimlo ar goll a ddim yn siŵr i ba gyfeiriad mae dy fywyd yn mynd? Mae nifer o bobl ifanc yn cael trafferth gosod a chyflawni eu targedau. Paid â phoeni, dyma awgrymiadau ar sut i osod targedau cyraeddadwy a gwireddu dy freuddwydion.
Pam bod gosod targedau yn bwysig?
Mae gosod targedau yn dy alluogi i ddiffinio dy lwybr, aros yn weithgar a chyflawni’r hyn sy’n bwysig i ti. Boed o’n radd prifysgol, y swydd ddelfrydol neu ffordd iachach o fyw, mae targedau yn helpu ti ganolbwyntio a gwneud cynnydd. Gyda nodau clir, fedri di leihau pethau sydd am dynnu dy sylw a chanolbwyntio ar gyfleoedd sy’n cyd-fynd gyda dy ddyheadau.
Mae gosod targedau yn gallu codi hyder a chynyddu dy hunan-werth. Mae cyflawni carreg filltir, dim ots pa mor fach, yn gwneud i ti deimlo’n falch o dy hun. Pan fyddi di’n cyrraedd dy dargedau, bydd hyn yn dy gymell ac yn dy yrru ymlaen i bethau mwy.
Mae diffinio amcanion clir yn creu ymdeimlad o reolaeth a grym. Drwy berchnogi dy dargedau a gweithio tuag atynt, ti’n teimlo mewn rheolaeth o dy benderfyniadau. Mae teimlo mewn rheolaeth yn gallu gwneud lles mawr i dy iechyd meddwl.
Fformiwla targedau CAMPUS
Mae gen ti darged mewn golwg, ond sut wyt ti’n sicrhau dy fod am lwyddo? Dyma ble mae targedau CAMPUS yn ddefnyddiol. Mae CAMPUS yn acronym sy’n sefyll am Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol. Mae’n fframwaith syml ond gall fod yn effeithiol iawn i helpu ti gyrraedd dy dargedau.
Gad i ni dorri lawr beth yw ystyr fframwaith CAMPUS:
- Cyraeddadwy: Gosod targedau realistig sy’n heriol ond ddim yn dy lethu. Torri targedau mawr yn gamau llai.
- Amserol: Gosod ffiniau amser i bob tasg, ond bydda’n realistig gyda dy amserlen. Bydd hyn yn helpu ti ganolbwyntio ac aros ar dasg.
- Mesuradwy: Gosod targedau mesuradwy i fesur dy gynnydd. Er enghraifft, yn lle dweud “darllen mwy o lyfrau” anela at “ddarllen 12 o lyfrau’r flwyddyn yma”
- Penodol: Diffinio’n glir be ti eisiau ei gyflawni. Yn hytrach na rhywbeth amwys fel “bod yn iach” anela at rywbeth penodol fel “rhedeg 5k mewn tri mis”
- Uchelgeisiol: Paid digalonni os ydy rhywbeth yn teimlo’n amhosib. Meddylia am y tymor hir, a beth fedri di wneud yn y cyfamser i fynd yn agosach at y nod.
- Synhwyrol: Drwy fod yn synhwyrol ti’n osgoi llethu dy hyn efo disgwyliadau afrealistig a ti’n fwy tebygol o lwyddo.
Gwireddu breuddwydion
Pan ti wedi gosod dy dargedau CAMPUS, mae’n amser eu rhoi ar waith. Gall adeiladu arferion da ac amserlen helpu ti aros ar y trywydd iawn.
Y cam cyntaf yw cael gweledigaeth gadarn o be ti eisiau ei gyflawni. Gall bwrdd gweledigaeth (vision board) fod yn ddull pwerus o weld dy dargedau a rhoi hwb i dy gymhelliant.
Nesaf, torra’r targedau mawr i lawr yn rhai llai, gyda chamau cyraeddadwy. Bydd hyn yn gwneud y siwrne yn haws a helpu ti aros ar y trywydd iawn. Dathla bob buddugoliaeth ar hyd y ffordd, dim ots pa mor ddi-nod maent yn ymddangos.
I allu cadw cofnod o dy ymdrechion, ystyria ddefnyddio dyddlyfr neu ap i fesur dy gynnydd. Bydd hyn yn helpu ti adnabod ardaloedd ble ti angen addasu dy strategaeth neu gynyddu dy ymdrechion.
Beth os aiff rhywbeth o’i le?
Cofia, mae camau nol yn rhan o’r siwrne hefyd. Paid â gadael iddynt dy ddigalonni. Meddylia amdanynt fel cyfleoedd i ddysgu a thyfu. Drwy aros yn gadarnhaol, penderfynol a hyblyg fedri di oresgyn unrhyw rwystrau a gwireddu dy freuddwydion.
Os wyt ti’n teimlo’n rhwystredig ac eisiau help i weithio allan y camau nesaf yn dy fywyd, cysyllta gydag un o gynghorwyr Meic. Ffonia, gyrra neges Whatsapp neu neges testun neu sgwrsia ar-lein gyda Meic o 8yb i hanner nos bob dydd. Mae’n wasanaeth dwyieithog am ddim, dienw a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.