x
Cuddio'r dudalen

Beth Nesaf? 10 Peth i Wneud ar ôl Arholiadau

Mae tymor arholiadau wedi dod i ben! Llongyfarchiadau i ti am oroesi’r holl oriau o baratoi am yr arholiadau a’r straen. Dyma dy gyfle i ymlacio a threulio amser gyda ffrindiau a theulu heb deimlo’n euog am gymryd saib o’r adolygu!

This article is also availaible in English – click here

Nawr bod gen ti ychydig o amser rhydd, efallai nad wyt ti’n sicr beth i wneud gyda’r amser yma. Efallai dy fod di wedi diflasu neu’n poeni am y camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau. Dyma ganllaw am wneud y gorau o dy amser ar ôl yr arholiadau.

Merch ifanc yn eistedd ar y grisiau yn gwrando ar gerddoriaeth ar gyfer blog pethau i wneud ar ôl arholiadau

1. Ymlacio

Dim mwy o danlinellu nodiadau adolygu, creu cardiau fflach neu lenwi hen bapurau yn wyllt. Heb straen arholiadau gallet ti nawr ymlacio ac anadlu. Dyma gyfle i longyfarch dy hun am yr holl waith caled, a chaniatáu i dy gorff a dy feddwl ymlacio.

Cae, coeden ac awyr las ar gyfer blog pethau i wneud ar ôl arholiadau

2. Cer allan

Rwyt ti’n rhydd o’r ddesg o’r diwedd! Ceisia fwynhau ychydig o’r tywydd brafiach a chynhesach (🤞 🙏🏽). Cer am dro i’r parc neu draeth, mynd am bicnic, neu gynnig cerdded ci’r cymydog.

Braich a llaw yn gafael mewn sglefwrdd ar gyfer blog pethau i wneud ar ôl arholiadau

3. Ymarfer hunanofal

Mae hunanofal yn ymwneud â gofalu am dy hun. Nid oes rhaid treulio oriau yn y bath, yn lleithio’r croen, ac yn bwyta 5 y dydd (er gall hynny helpu). Gall hunanofal feddwl gwneud rhywbeth rwyt ti’n ei fwynhau, fel chwarae gemau fideo, sglefyrddio neu grefftau.

Grŵp o ffrindiau yn cael hwyl yn siarad ar y traeth ar gyfer blog pethau i wneud ar ôl arholiadau

4. Cyfarfod gyda ffrindiau

Dyw’r ffaith bod yr arholiadau wedi dod i ben, ac rwyt ti wedi gorffen yn yr ysgol, chweched dosbarth neu goleg, yn golygu nad wyt ti’n gallu gweld dy ffrindiau. Gyrra neges a gofyn i gael cyfarfod neu chwilia am ffyrdd i wneud ffrindiau newydd.

Teulu yn gwenu wrth dynnu selffi ar y traeth yn eistedd ar dywel ar y tywod ar gyfer blog pethau i wneud ar ôl arholiadau

5. Amser teulu

Efallai mai dim ond amser swper oeddet ti’n gweld dy deulu yn ystod yr arholiadau. Ymdrecha i dreulio mwy o amser gyda’r bobl rwyt ti’n byw â nhw. Gallech chi gynllunio i fynd allan â’ch gilydd neu ddangos gwerthfawrogiad wrth helpu o gwmpas y tŷ. Cysyllta gyda theulu sydd yn byw yn bellach i ffwrdd a’u diweddaru ar yr hyn sydd yn digwydd yn dy fywyd.

Merch ifanc gyda gwallt hir coch yn eistedd ar ben cas gyda bodiau i fyny ar gyfer blog pethau i wneud ar ôl arholiadau

6. Mynd ar wyliau

Gall mynd ar wyliau gyda ffrindiau fod yn ffordd wych i ymlacio a dathlu. Ond, cofia fod yn ddoeth, yn ddiogel ac i aros mewn grŵp. Os wyt ti’n mynd ar wyliau, sicrha dy fod di’n:

  • Gwirio bod y bobl rwyt ti’n teithio â nhw yn iawn
  • Mynd i lefydd fel pâr neu grŵp
  • Bod yn ymwybodol o’r hyn sydd o gwmpas, yn enwedig yn hwyr yn y nos
  • Aros yn bell o ochrau adeiladau a chlogwyni
  • Cadw eiddo yn ddiogel, yn enwedig pasbort ac ID, arian, ffôn a manylion yswiriant teithio
  • Dilyn cyfarwyddiadau diogelwch os wyt ti’n gwneud rhywbeth anturus

Mae Ymgyrch Tom: Byddwch yn Ddoeth, Byddwch yn Ddiogel ac Arhoswch Mewn Grŵp wedi ei lansio ar Hwb yn ddiweddar. Ei fwriad yw addysgu pobl ifanc ar sut i gadw’n ddiogel ac i osgoi sefyllfaoedd peryglus wrth fynd dramor gyda ffrindiau am y tro cyntaf. Mae’n rhannu stori Tom Channon o Gaerdydd a fu farw’n drasig yn 2018 pan aeth ar wyliau gyda ffrindiau yn dilyn arholiadau Lefel A. Bydd yr ymgyrch yn cael ei gyflwyno i fyfyrwyr 16-18 oed mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Clicia yma i wylio fideo o rieni Tom yn siarad am eu mab a’r ymgyrch.

Olion traed ar y tywod

7. Cychwyn meddwl am y camau nesaf

Efallai dy fod di’n dechrau meddwl beth nesaf ar ôl TGAU, coleg a Lefel A, neu’r brifysgol. Mae’n dda paratoi am wahanol ganlyniadau pan ddaw. Meddylia am yr hyn hoffet ti ei wneud nesaf a beth allet ti ei wneud os nad yw pethau’n mynd cystal ag yr oeddet ti wedi’i obeithio. Efallai bydd yn fuddiol i ti feddwl am y dyfodol ac os hoffet ti gael ychydig o brofiad gwirfoddoli neu swydd.

CV mewn gwyn wedi ei ysgrifennu ar gefndir glas

8. Creu CV

Mae posib gyrru CV i lefydd byddet ti’n hoffi gweithio neu i helpu cael profiad gwaith. Mae’n ddogfen sydd yn dangos dy sgiliau, profiad ac addysg. Bydd creu CV pan mae gen ti amser rhydd yn arbed llawer o straen yn hwyrach ymlaen pan fyddi di ei angen. Mae posib ei ddiweddaru gyda dy raddau ar ôl i ti dderbyn canlyniadau’r arholiadau.

Dwylo yn cario bwced gyda offer glanhau

9. Trefnu dy ofod

Mae glanhau dy ystafell a threfnu dy bethau yn gallu helpu dy roi mewn ffrâm meddwl dda. Gall hyn fod yn amser da i drefnu hen lyfrau ysgol a nodiadau. Creu lle i’r camau nesaf yn dy siwrne. Ond, paid bod yn fyrbwyll yn taflu nodiadau neu adnoddau astudio eto – efallai y bydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol neu byddi di ei angen i ail-eistedd arholiad.

Ffôn gyda tri llinell du yn cynrychioli cysylltu â Meic - ar gefndir porffor

10. Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.

Gwybodaeth Berthnasol

Canlyniadau TGAU – Beth Sy’n Digwydd a Beth Nesaf?

Canlyniadau Lefel A – Beth Nesaf?

Canlyniadau Arholiadau – Sut i Ymdopi?