x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Taclo Euogrwydd Cymryd Brêc O’r Adolygu

Pan mae gen ti arholiadau ar y gweill, gall fod yn anodd iawn canolbwyntio ar unrhyw beth arall. Bwriad y blog yma yw dangos sut i gael cydbwysedd cywir rhwng adolygu ac ymlacio a pam bod hynny’n bwysig.

Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti trwy gyfnod yr arholiadau – cer yma i weld.

Yn aml mae yna lawer o bwysau i lwyddo gan athrawon, rhieni/gofalwyr, a ti dy hun. Rwyt ti’n deall yn iawn fod angen i ti adolygu. Mae’n ffordd wych i baratoi at arholiadau, ond tra bod rhai yn ei chael yn anodd cychwyn, i eraill mae’n anodd stopio!

Cydbwysedd

Wrth roi pwysau ar dy hun i wneud cymaint o adolygu ag y medri di, efallai nad wyt ti’n cymryd digon o amser i ffwrdd. Efallai dy fod di’n teimlo’n euog os wyt ti’n cymryd brêc sydd wir ei angen, ac yn dechrau poeni am yr holl waith sydd ar ôl.

Ond, mae’n hynod bwysig i ti roi amser i orffwys, ymlacio ac adlewyrchu pan, fel nad wyt ti’n suddo dan y pwysau. Gall hynny arwain at fwy o straen, poeni a thymer isel. Gall hyn fod yn anodd ymdopi ag ef yn ystod yr arholiadau, yn ogystal ag arwain at sesiynau adolygu llai effeithiol.

Rhaid cael cydbwysedd rhwng amser gweithio ac amser ymlacio i oroesi cyfnod yr arholiadau. Mae’r blog yma yn rhannu cyngor pwysig i ti lwyddo cael y cydbwysedd cywir i gadw’r meddwl yn hapus ac yn iach.

LLun vector steil dŵdl - merch yng nghanol cloc gyda symbolau gwahanol o'i chwmpas  (fel cyllell a fforc, cyfrifiadur, paned, ffôn symudol) yn lle rhifau'r cloc - ar gyfer blog Taclo Euogrwydd Cael Brêc O’r Adolygu

1. Ansawdd nid amlder

Beth yw pwynt treulio oriau’n adolygu heb frêc pan mae’r meddwl yn crwydro ar ôl cyfnod. Ceisia adolygu mewn talpiau llai, a chymryd brêc yn rheolaidd yn lle hynny. Mae’r Dechneg Pomodoro yn ddull llwyddiannus, sef gweithio am 25 munud ac yna 5 munud o frêc. Efallai dy fod di’n adolygu am lai o amser, ond mae cymryd saib yn ei wneud yn fwy effeithiol.

LLun vector steil dŵdl - merch o flaen gliniadur gyda'r breichiau i fyny yn dathlu

2. Dathlu cynnydd

Mae’n hawdd canolbwyntio ar faint sydd ar ôl i’w wneud, yn hytrach nag dathlu yr hyn rwyt ti wedi llwyddo. Nid oes angen i ti boeni os wyt ti’n anghofio ychydig o fanylion astudiaeth achos, neu’n ateb ychydig o gwestiynau ymarfer yn anghywir. Gwneud cynnydd yw pwrpas adolygu, ta waeth pa mor fach yw hyn, yn hytrach nag anelu i fod yn berffaith.

LLun vector steil dŵdl - bachgen yn myfyrio yn y cymylau gyda symbol calon un ochr a llyfr yr ochr arall

3. Adlewyrchu ac Adolygu

Efallai mai adolygu yw prif ffocws y cyfnod arholiadau, ond mae gwneud nodiadau a llenwi hen bapurau arholiad drwy’r dydd, bob dydd, yn sicr o gael effaith negyddol arnat ti. Mae adolygu yn fwy nag cloi dy hun yn dy ystafell ac ymgolli yn y llyfrau. Nid yw’r meddwl na’r corff yn gallu gweithio’n effeithiol heb ymlacio, gorffwys ac adlewyrchu.

LLun vector steil dŵdl - dau ferch yn sefyllian gyda phaned mewn cwpan cario allan - ar gyfer blog Taclo Euogrwydd Cael Brêc O’r Adolygu

4. Amser am hwyl

Paid gadael i’r ffaith dy fod di’n meddwl y dylet ti fod yn adolygu dy stopio rhag gwneud y pethau rwyt ti’n hoffi a threulio amser gyda’r bobl sydd yn gwneud i ti deimlo’n dda. Rho amser i adolygu wrth gwrs, ond rho amser i’r pethau eraill hefyd. Mae edrych ymlaen at bethau, rhwng yr adolygu, yn gallu ysgogi a helpu ti i gael y cydbwysedd gwaith-bywyd perffaith yn ystod cyfnod arholiadau.

LLun vector steil dŵdl - ymennydd oren gyda choesau a breichiau yn cario pwysau trwm - ar gyfer blog Taclo Euogrwydd Cael Brêc O’r Adolygu

5. Gwrando ar dy hun

Mae pawb yn cael diwrnodau pan fydd adolygu yn teimlo’n anobeithiol, ac mae hynny’n iawn. Gwranda ar yr hyn mae dy gorff a dy feddwl yn ceisio dweud wrthyt ti. Rho dro ar wneud rhywbeth rwyt ti’n mwynhau. Bydd yn helpu ti i adfer yr egni sydd ei angen i adolygu rhyw dro eto.

LLun vector steil dŵdl - merch yn sglefyrddio gyda deryn du yn hedfan uwch ei phen - ar gyfer blog Taclo Euogrwydd Cael Brêc O’r Adolygu

6. Dim euogrwydd

Os wyt ti’n mynd allan am y dydd, a ddim yn gallu adolygu, paid mynd i banig. Mae arholiadau yn bwysig, ond mae angen byw o hyd. Rwyt ti’n haeddu mwynhau amser yn gwneud pethau gwahanol. Nid yw’n fuddiol teimlo’n euog am gymryd amser o’r adolygu. Ni fydd yn gwneud i ti adolygu’n well y tro nesaf rwyt ti’n mynd ati, ond bydd yn rhoi ti mewn meddylfryd negyddol. Mae’n haws dweud nag gwneud, ond ceisia beidio teimlo’n euog am gymryd brêc o’r adolygu, hyd yn oed os yw’n frêc hir.

LLun vector steil dŵdl - bachgen yn eistedd ger bwrdd, papur a phensel o'i flaen, paned yn ei law ac yn gwrando ar gerddoriaeth - ar gyfer blog Taclo Euogrwydd Cael Brêc O’r Adolygu

7. Dim ond gwneud dy orau fedri di

Cofia, dyw’r ffaith nad wyt ti’n adolygu drwy’r dydd, bob dydd, ddim yn golygu dy fod di’n fethiant. Mae gormod o adolygu heb frêc yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol. Gwna dy orau yn yr arholiadau, sicrha dy fod di mewn meddylfryd da. Bydd hynny’n digwydd wrth gymryd amser i fywiogi’r corff a’r meddwl, yn hytrach nag gorfodi dy hun i adolygu o hyd. Mae ymlacio yn ysgogi!

Logo Lefel Nesa

Lefel Nesa

Cer draw i wefan Lefel Nesa. canllawiau arholiadau ac asesu, cyngor gyrfaoedd ac awgrymiadau lles ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae Gyrfa Cymru, E-sgol, Cymwysterau Cymru, CBAC a Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu llawer o adnoddau ychwanegol i helpu dysgwyr sydd yn cymryd arholiadau ac asesiadau eleni.

Cysyllta â Meic

Mae arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn anodd ar unrhyw un. Weithiau efallai byddet ti’n hoffi siarad am bethau gyda rhywun fel nad yw pethau yn dod yn ormod o bwysau. Mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn gwrando ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol ac am ddim. Cysyllta ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we.