x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Osgoi Dyled: Sut i Reoli Arian Fel Myfyriwr

Mae bywyd myfyriwr yn llawn profiadau anhygoel, ond mae’n gallu bod yn anodd iawn ymdopi’n ariannol. Gyda chostau’r cwrs, rhent, bwyd a bywyd cymdeithasol i gyd yn costio, mae’n hawdd bod mewn dyled cyn i ti raddio.

Ond, gydag ychydig o reolaeth a chynllunio, mae’n bosib osgoi dyled a diogelu dy ddyfodol yn ariannol. Dyma gyngor i helpu ti i reoli dy arian a pheidio cael i ddyled.

Cyllidebu

 Y cam cyntaf i lwyddiant ariannol yw creu cyllideb. Cadwa olwg ar yr arian sy’n dod fewn (gan gynnwys unrhyw waith rhan amser neu fenthyciad myfyriwr) a’r arian sy’n mynd allan.

Rhaid bod yn realistig am dy arferion gwario a cheisio cadw i gyllideb mor agos â phosib. Mae sawl app a gwefan cyllidebu ar gael i helpu ti.

Keys in an open door, leading to a tidy bedroom

Blaenoriaethu gwario

Sicrha dy fod di’ n blaenoriaethu costau hanfodol fel ffioedd cwrs, rhent, biliau a bwyd. Ar ôl cadw arian am y pethau yma, gallet ti benderfynu faint i wario ar bethau eraill sydd ddim yn hanfodol, fel adloniant a chymdeithasu.

Coginio mwy, bwyta allan llai

Wrth fwyta allan yn aml gall arian ddiflannu yn sydyn iawn. Ceisia goginio mwy o fwyd adref i arbed arian. Mae paratoi prydau (meal prep) hefyd yn ffordd dda i arbed amser ac arian os wyt ti’n brysur yn y brifysgol.

Gallet ti arbed hyd yn oed mwy os wyt ti’n coginio prydau gyda’r bobl rwyt ti’n byw â nhw.

Os oes well gen ti goginio a bwyta ar ben dy hun, paratoi’r bwyd am yr wythnos fel nad yw’r bwyd yn mynd i wastraff.

Pink piggy bank with lots of pennies surrounding it

Siopa’n glyfar

Wrth siopa, sicrha dy fod di’n siopa’n glyfar. Cymhara prisiau, chwilia am fargeinion, a phrynu brandiau generig ble’n bosib.

Gall siopa mewn archfarchnadoedd rhatach fel Aldi a Lidl arbed arian o gymharu â siopa mewn archfarchnadoedd drytach fel M&S neu Waitrose. Bydda’n ofalus i beidio dibynnu gormod ar siopau llai fel Tesco Express hefyd, mae costau’r siopau yma yn llawer uwch nag yn y siop fawr.

Ceisia beidio mynd i siopa os wyt ti’n teimlo’n llwglyd. Rwyt ti’n fwy tebygol o fod yn fyrbwyll a phrynu mwy o fwyd nag yr wyt ti ei angen.

Cael swydd ran-amser

Gall swydd rhan amser fod yn ffordd dda o ennill arian ychwanegol ac osgoi dyled. Hyd yn oed os mai dim ond ychydig oriau’r wythnos ydyw, gall wneud gwahaniaeth mawr i dy sefyllfa ariannol.

Chwilia am swyddi gallet ti ffitio o gwmpas dy astudiaethau. Mae rhai prifysgolion yn cynnig cyflogaeth gyda thâl i fyfyrwyr, fel dod yn llysgennad myfyrwyr neu weithio ym mar yr undeb myfyrwyr. Neu fel arall, chwilia o gwmpas y dref neu indeed am waith rhan amser, ond cofia beidio anwybyddu dy astudiaethau.

Teenage girls smiling as they're sat in a circle playing card games

Meddylia am dy fywyd cymdeithasol

Mae cymdeithasu yn rhan fawr o fywyd myfyriwr, ond nid oes rhaid iddo dorri’r banc.

Beth am ddarganfod gweithgareddau am ddim neu rad i wneud gyda ffrindiau? Neu gallet ti gynnal nosweithiau ffilm neu gemau yn hytrach nag mynd allan. Mae prynu ychydig o ddiodydd yn llawer rhatach nag mynd allan i’r bariau a’r clybiau.

Os wyt ti eisiau mynd allan, ymchwilia’r llefydd gorau i fynd i fyfyrwyr. Mae posib arbed arian ar ddiodydd a phris mynediad os ydynt yn cynnig gostyngiadau myfyrwyr neu nosweithiau myfyrwyr.

Osgoi costau diangen

Cadwa olwg craff ar dy arferion gwario ac adnabod unrhyw gostau diangen. Mae cael gwared ar gostau diangen yn gallu rhoi lot o arian ychwanegol i ti.

Wyt ti angen y tanysgrifiad Game Pass neu Spotify Premium? Wyt ti’n gallu rhannu tanysgrifiad Netflix gyda’r tŷ yn hytrach na phawb yn cael tanysgrifiad eu hunain?

Os wyt ti eisiau rhywbeth newydd, gofynna i dy hun os wyt ti eisiau neu angen y peth yna.

Manteisia ar ostyngiadau i fyfyrwyr

Mae llawer o fusnesau yn cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr. Manteisia ar hyn ble’n bosib gan gofio dy gerdyn gostyngiadau myfyriwr.

Using a credit card in a a terminal

Cyfynga dy ddefnydd o gardiau credyd a gorddrafft i dalu am

Gall y temtasiwn i ddefnyddio cardiau credyd i dalu am bethau fod yn gryf, ond gall hyn arwain at ddyled. Os wyt ti’n defnyddio cerdyn credyd, tala dy falens yn llawn bob mis i osgoi taliadau llog.

Oes oes rhaid defnyddio’r gorddrafft, sicrha dy fod di’n cadw llygaid ar faint rwyt ti’n ei ddefnyddio. Ceisia ddarganfod gorddrafft sydd ddim yn codi ffi llog.

Cael help

Efallai bod y cyfrif banc yn sych, ac rwyt ti’n poeni sut i ymdopi gyda chostau prifysgol. Cofia fod help ar gael i ti.

Bydd gan y brifysgol adran gyllid gall helpu os wyt ti’n stryglo i fforddio byw. Cysyllta i weld pa gymorth gallant ei gynnig.

Sgwrsia gydag un o’n cynghorwyr llinell gymorth am ddim. Rydym yma i wrando heb farnu a helpu ti i ddarganfod datrysiadau i dy broblemau. Dwyt ti ddim ar ben dy hun.

Gall cynghorwyr ariannol y brifysgol helpu os yw’n anodd fforddio byw. Paid stryglo yn ddistaw – gofyn am gymorth.