x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Stryglo i Fynd i’r Ysgol neu Wedi Stopio Mynd?

Mae’r ysgol yn rhan fawr o’n bywydau ni, ac fel y mwyafrif o bethau mewn bywyd, mae yna bethau da a drwg, uchafbwyntiau ac anfanteision, a llawer yn y canol! Os wyt ti’n stryglo i fynd i’r ysgol, neu wedi stopio mynd, yna mae’r blog yma i ti.

Pam mod i angen mynd i’r ysgol?

Bwriad yr ysgol yw ceisio rhoi addysg dda i ti, i helpu ti i gael y wybodaeth a’r sgiliau sydd ei angen arnat i oroesi yn y byd yma wrth i ti dyfu’n oedolyn. Ysgolion yw’r lle i gyfarfod ffrindiau, rhoi tro ar weithgareddau gwahanol, a chael hwyl (gobeithio!) Ond i rai plant a phobl ifanc, dyw bod yn yr ysgol ddim yn hwyl bob tro. Gall mynd i’r ysgol bob dydd, drwy’r flwyddyn fod yn her!

Yng Nghymru, mae’n ofyn cyfreithiol i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 5 ac 16 oed fod yn bresennol yn yr ysgol, nes diwedd blwyddyn 11. Addysg orfodol yw hyn. Nid yn unig yw presenoldeb ysgol yn syniad da, ond mae’n gyfraith hefyd.

Mae ffyrdd gwahanol i ti gael addysg. Mae’r mwyafrif ohonom yn mynd i’r ysgol, ond mae rhai teuluoedd yn dewis addysgu eu plant adref. Mae hyn yn golygu dysgu adref yn hytrach na’r dosbarth.

Mae’r cyngor lleol yn gorfod sicrhau bod pawb yn cael yr addysg sydd ei angen arnynt. Dyma pam eu bod yn cadw golwg ar bresenoldeb ysgol. Os wyt ti’n colli’r ysgol yn aml, yna efallai bydd yn rhaid iddynt gamu i mewn. Efallai byddant yn cysylltu â’r Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA) i geisio deall pam dy fod di’n colli’r ysgol. Mae’r GLlA yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr addysg sydd ei angen arnynt. Os wyt ti’n colli’r ysgol yn rhy aml, weithiau bydd dy rieni yn gorfod talu dirwy.

Tri disgybl yn gweithio’n ddistaw ar fwrdd mewn dosbarth. Llun i'r blog stryglo mynd i'r ysgol

Pam fod yr ysgol yn anodd weithiau?

Efallai dy fod di’n stryglo i gadw fyny gyda’r disgyblion eraill, neu ddim yn deall pynciau penodol, neu yn teimlo bod y gwaith cartref yn ormod. Gall stryglo gyda gwaith ysgol achosi teimlad o rwystredigaeth, fel nad wyt ti’n ddigon da. Gall hyn gael effaith ar dy hyder a’i gwneud yn anodd mwynhau dysgu.

Efallai bod rhai pynciau’n ddiflas, neu ti ddim yn hoffi athro penodol. Gall hyn ei gwneud yn anodd canolbwyntio yn y dosbarth a bod dysgu’n teimlo fel gwaith anodd. Os nad wyt ti’n gallu cymryd rhan yn y gwersi yna mae’n anodd gwrando, talu sylw a chofio gwybodaeth.

Pan fyddi di’n cael dy fwlio yn yr ysgol mae’n gallu gwneud i ti i deimlo’n drist ac yn ofn. Os nad wyt ti’n teimlo’n ddiogel yna mae’n anodd canolbwyntio ar wersi neu waith cartref. Gall bwlio gael effaith enfawr ar dy les meddwl ac emosiynol, yn ei gwneud yn anodd canolbwyntio a ffynnu yn yr ysgol.

Efallai dy fod di’n cael dy wahaniaethu ymysg dy ffrindiau, yn stryglo gwneud ffrindiau, neu fod problemau yn dy berthynas gyda ffrindiau. Gall y pethau yma wneud i’r ysgol deimlo’n le unig ac ynysig. Os nad wyt ti’n teimlo cysylltiad gyda ffrindiau, mae’n gallu bod yn anoddach mwynhau’r ysgol a chyfrannu yn y dosbarth.

Gall materion teuluol achosi straen a phoeni, ac efallai na fyddi di’n gallu canolbwyntio’n iawn yn yr ysgol. Os yw pethau’n anodd adref, rhieni yn mynd drwy gyfnod anodd efallai, yna mae posib y gall pethau fod yn anodd yn yr ysgol hefyd.

Dau ddisgybl o flaen y dosbarth yn defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol. Llun i'r blog stryglo mynd i'r ysgol

Beth fedri di ei wneud os wyt ti’n stryglo mynd i’r ysgol?

Mae’n bwysig i ti gofio nad wyt ti ar ben dy hun os wyt ti’n teimlo straen neu anfodlonrwydd yn yr ysgol. Mae llawer o bobl ifanc eraill yn profi heriau tebyg. Efallai dy fod di’n teimlo mai cadw draw o’r ysgol yw’r peth gorau i ti, ond yr unig beth mae hyn yn ei wneud ydy dy ohirio rhag cael i wraidd y broblem a gallu dechrau’r gwaith o wella pethau.

Er mwyn ceisio mwynhau’r ysgol yn well a chynyddu’r tebygrwydd y byddi di’n mynd, gallet ti:

  • Ceisio creu perthnasau cryf gyda ffrindiau y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol
  • Darganfod clybiau neu weithgareddau rwyt ti’n mwynhau ac yn gallu teimlo dy fod di’n perthyn
  • Croesawu’r cyfle i ddysgu pethau newydd a chynyddu gwybodaeth
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau’r ysgol, chwaraeon ac unrhyw weithgareddau eraill rwyt ti’n mwynhau

Gall siarad gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt wneud gwahaniaeth mawr. Gallet ti siarad ag oedolyn yn yr ysgol, fel athro, pennaeth blwyddyn, neu’r nyrs ysgol. Gallant gynnig cymorth, gwrando ar dy bryderon, a helpu ti i ddarganfod datrysiadau i dy broblemau. Gallant hefyd gynnig arweiniad ac adnoddau i helpu ti i lwyddo yn yr ysgol.

Gallet ti hefyd gysylltu gyda Meic. Mae Meic yn llinell gymorth gyfrinachol i bobl ifanc. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim am unrhyw beth sydd yn dy boeni, gan gynnwys problemau yn yr ysgol. Gall Meic hefyd gysylltu â’r ysgol ar dy ran os wyt ti angen help i gael cymorth.

Cofia, siwrne yw’r ysgol. Bydd yna bethau da a phethau drwg yn digwydd ar hyd y ffordd. Ond, gyda’r cymorth cywir, gallet ti wneud y gorau o dy brofiad yn yr ysgol.