x
Cuddio'r dudalen

Beth i’w Ddisgwyl ar Ddiwrnod Canlyniadau TGAU a Beth Nesaf?

Wyt ti’n derbyn dy ganlyniadau TGAU’r wythnos hon? Nerfus am y broses neu am y canlyniadau? Paid poeni. Dyma fanylion beth fydd yn digwydd a dy opsiynau, beth bynnag dy ganlyniadau.

Beth fydd yn digwydd?

Fel arfer, mae’r ysgol yn rhoi amser i ti fynd i godi canlyniadau.

Os wyt ti angen cefnogaeth, cer gyda ffrind neu aelod o’r teulu. Gallant ddisgwyl y tu allan wrth i ti fynd i godi dy ganlyniadau. Byddi di’n derbyn amlen a ti sy’n dewis pryd i’w agor. Gallet ti ei agor yno gyda dy ffrindiau, neu ei agor yn y car, neu fynd adref a’i agor yn breifat – ti sy’n dewis beth wyt ti eisiau gwneud.

Cofia fynd â ffôn gyda thi i ffonio adref (mae’n debyg byddant ar binnau eisiau clywed gen ti). Gallet ti dynnu llun gyda ffrindiau fel atgof hefyd.

Dyn yn pwyso ar arwyddion yn pwyntio i wahanol gyfarwyddiadau a marciau cwestiwn o'i gwmpas ar gyfer blog TGAU - Delwedd Vector

Wedi cael yr hyn oeddet ti ei angen?

Mae’r system graddio yng Nghymru yn rhoi gradd o A* i G (yn wahanol i Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon). Byddi di’n gwybod pa raddau sydd ei angen i wneud yr hyn rwyt ti wedi dewis gwneud. Efallai dy fod di am astudio Lefel A, cymwysterau galwedigaethol, prentisiaethau, gwaith neu rywbeth arall.

Ond, efallai bydd dy sefyllfa yn newid ar ôl derbyn dy ganlyniadau, unai am dy fod di eisiau neu angen gwneud hynny. Mae gan Gyrfa Cymru wybodaeth am yr holl opsiynau sonnir amdanynt uchod ar y tudalennau Opsiynau yn 16 oed.

Efallai nad yw pethau’n mynd cystal ag yr oeddet ti wedi’i obeithio. Paid gadael i hyn dy atal rhag cysylltu â’r ysgol neu goleg dewisol. Efallai byddant yn fodlon dy dderbyn o hyd, neu yn gallu cynnig opsiynau gwahanol. Os ddim, yna cysyllta ag ysgolion a cholegau eraill. Efallai bod ganddynt lefel mynediad is ac yn hapus i ti fynd yno.

Beth os wyt ti wedi gwneud yn well na’r disgwyl, ac wedi penderfynu dy fod di eisiau mynd i’r chweched wedi’r cwbl? Siarada gyda’r ysgol neu goleg i weld pa opsiynau sydd gen ti. Nid yw’n rhy hwyr.

 Dau berson yn eistedd ger desg yn sefyll arholiad ar gyfer blog TGAU - Delwedd Vector

Apelio ac ailsefyll

Os wyt ti’n credu bod y graddau yn anghywir, siarada gyda’r ysgol neu’r coleg. Byddant yn siarad gyda thi am y canlyniadau ac yn gallu gwneud cais am ‘Wasanaethau ar ôl y Canlyniadau’ ar dy ran. Gall hyn fod yn fynediad i’r papurau arholiad, adolygu’r marcio, neu ail-wirio bod y marciau wedi eu cyfri’n gywir.

Os yw hyn yn aflwyddiannus, a bod yr ysgol yn dal i gredu bod y canlyniadau yn annheg, yna gallant apelio. Mwy am y broses yma ar wefan cbac.

Os wyt ti’n benderfynol ar yrfa benodol, yna efallai bydd angen ailsefyll rhai arholiadau. Bydd arholiadau ailsefyll Mathemateg, Saesneg, a Chymraeg yn digwydd diwedd Hydref/dechrau Tachwedd. Byddant yn digwydd eto fis Ionawr. Siarada gyda’r ysgol/coleg.

Bachgen ifanc yn siarad trwy megaffon, darlun vector

Siarad â rhywun

Bydd rhywun yn yr ysgol ar y dydd gallet ti drafod dy opsiynau â nhw. Os wyt ti’n ansicr am rywbeth neu angen cyngor, yna gofynna i gael siarad â rhywun. Os wyt ti angen cyngor proffesiynol, yna dylet ti fedru cael help gan dy Gynghorydd Gyrfa. Gofynna i gael siarad â’r Cynghorydd Gyrfa yn yr ysgol neu goleg, neu cysyllta â Gyrfa Cymru.

Os wyt ti’n chwilio am glust cyfeillgar i wrando a chynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth, yna gall Meic helpu. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar ar gael ar ein llinell cymorth rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Ffonia, tecstia neu sgwrsia ar-lein – manylion cyswllt isod.