x
Cuddio'r dudalen

Safleoedd Tawelu’r Meddwl

Mae angen i bawb gymryd seibiant. Beth bynnag sy’n digwydd yn dy fywyd, mae cymryd ychydig o funudau i ymlacio yn un o’r pethau gorau i’w wneud ar gyfer ti dy hun.

(This article is also available in English – To read this content in English click here)


Isod ceir rhai dolennau i dy helpu i wneud hynny. Rydym yn gobeithio bydd y rhain yn ddefnyddiol i ti.

(Ni fydd pob un o’r rhain yn gweithio ar ddyfeisiau symudol)

Anadlu

https://positivityandpaperstars.tumblr.com/post/104486361017/my-friend-sent-me-this-last-time-i-had-a-panic

Sŵn Cefndir

Synau i helpu i ymlacio. Gallant hefyd dy helpu i ganolbwyntio (gwych os wyt ti am wrando ar rywbeth wrth weithio ond yn ffeindio bod geiriau mewn caneuon yn tynnu sylw gormod):

Synau Natur – Chwaraea a chymysga dy synau natur dy hun

65fb7d81efd750c356c739bf84e1a560

Hwyl Lawog – Gwranda ar sŵn y glaw. Sgrolia i waelod eu tudalen i wrando ar gerddoriaeth wedi cymysgu â’r glaw.

Mynd ar goll mewn rhywbeth hudol

teaser-2

Paentio nifwl gyda Fflamau Neon

Chwilia am apiau myfyrio a chysgu ar dy ffôn. Mae Smiling Mind yn rhaglen myfyrdod am ddim gyda sesiynau myfyrio wedi’u teilwro i wahanol grwpiau oedran (yn cychwyn o 3 oed!).

Rhoi cariad. Derbyn cariad

Beth am yrru rhith gwtsh i rywun? Yna efallai byddi di’n cael y teimlad cynnes, braf yna pan fydd rhywun yn gyrru rhith gwtsh yn ôl i ti ar yr union amser cywir.

Beth am yrru neges bositif i ffrind sydd yn cael trafferth ar hyn o bryd? Ysbrydoliaeth ar gael yma.

Gyrra ganmoliaeth i rywun. Defnyddia generadur canmoliaeth ar hap – fel Emergency Compliment i gael canmoliaeth wahanol a doniol i roi gwen ar wyneb rhywun.

Ac am ychydig o hwyl – cer i fownsio cathod!

catbounce