x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Ddim yn Mynd i’r Brifysgol? Ymdopi Gyda FOMO

Mae nifer yn dewis mynd i’r brifysgol ar ôl coleg neu’r chweched. Ond nid yw’r llwybr yma yn addas i bawb. Os wyt ti wedi penderfynu peidio mynd i’r brifysgol, mae’n ddewis mawr sydd yn gallu gwneud i ti deimlo emosiynau amrywiol.

Un teimlad cyffredin yw teimlo dy fod di’n cael dy adael ar ôl. Wrth i dy ffrindiau gychwyn ar eu hantur prifysgol, efallai dy fod di’n poeni am golli cysylltiad a cholli allan ar brofiadau sydd yn gallu newid bywyd.

Gad i ni siarad am sut i ymdopi gyda’r teimladau yma a pam bod dy lwybr di’r un mor bwysig.

Colli Ffrindiau

Mae’n normal i ti deimlo ychydig yn bryderus am y dyfodol, yn enwedig mewn cyfnod yn dy fywyd pan fydd cymaint yn newid i ti a dy gylch cymdeithasol. Efallai dy fod di’n poeni am golli cysylltiad gyda ffrindiau wrth i’w bywydau newid.

Nid yw pellter yn gorfod golygu datgysylltiad. Gwnewch ymdrech ymwybodol i gadw cysylltiad gyda galwadau, sgyrsiau fideo, neu ymweliadau rheolaidd. Mae pethau bach fel gyrru neges sydyn neu rannu meme yn gallu help cadw perthynas gyda ffrind.

Boy sat on the floor leaning against the sofa. He has his head in his hands and is looking down at his mobile phone.

Colli Allan

Mae’r Brifysgol yn gallu bod yn gyfnod o dyfiant personol a hwyl. Mae’n iawn os wyt ti’n teimlo ychydig yn genfigennus ond cofia bydd dy siwrne di’r un mor unigryw a gwobrwyol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn rwyt ti’n ei golli, ceisia werthfawrogi’r cyfleoedd a’r profiadau sydd yn dod wrth ddilyn dy lwybr.

Os wyt ti wedi penderfynu peidio mynd i’r brifysgol, efallai bydd gen ti lawer o amser rhydd. Defnyddia’r cyfle hwn am ychydig o hunan ddarganfyddiad. Mae gen ti fwy o amser i archwilio dy ddiddordebau heb orfod teimlo pwysau’r brifysgol. Trïa hobïau newydd, teithio, neu wirfoddoli.

Gall peidio bod yn gaeth i lwybr gyrfaol neu leoliad penodol fod yn gyfle i deimlo rhyddhad. Bydda’n agored i’r rhyddid yma a defnyddio hyn i dy fantais.

Teimlo’n unig

Efallai byddi di’n teimlo’n unig ar ôl i dy ffrindiau adael am y brifysgol, yn enwedig os wyt ti’n byw mewn ardal wledig. Ond, nid y brifysgol yw’r unig ffordd i wneud ffrindiau newydd fel oedolyn ifanc.

Ymuna gyda chlwb neu grŵp lleol sydd yn cyfarfod i wneud pethau mae gen ti ddiddordeb ynddynt. Efallai bod cymunedau ar-lein hefyd, lle gallet ti gysylltu gyda phobl sydd yn rhannu dy brofiadau, dyheadau, ac angerdd.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych arall i gyfarfod pobl o’r un meddylfryd a gwneud gwahaniaeth wrth ennill profiad gwerthfawr. Gall hyn helpu ti i archwilio diddordebau a darganfod y pethau rwyt ti’n hoffi a ddim yn hoffi.

Two girls sat outdoors on stone steps. They are smiling and looking down at a shared booklet.

Cymharu

Mae’n naturiol i ti deimlo ychydig o FOMO (Fear of Missing Out) wrth i dy ffrindiau rannu eu profiadau yn y brifysgol ar gyfryngau cymdeithasol. Cofia bod pobl yn fwy tebygol o rannu’r pethau da, ac mae llawer mwy yn digwydd y tu ôl i’r sianeli yma sydd ddim yn cael ei rannu.

Cyfynga dy ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol a chymryd saib bach o’r sianeli sydd yn gwneud i ti deimlo fel nad wyt ti’n ddigon da, neu rwyt ti’n teimlo fel dy fod di’n colli allan. Cysyllta gyda ffrindiau yn uniongyrchol trwy tecst, galwad fideo, neu ffôn i weld sut mae pethau’n mynd ac i rannu dy ddiweddariadau bywyd di. Mae cysylltu’n uniongyrchol yn teimlo’n fwy personol ac yn gallu helpu chi i aros yn agos er y pellter.

Cymhariaeth yw lleidr llawenydd. Mae’n bwysig i ti ganolbwyntio ar dy brofiadau di a pheidio cymharu dy fywyd i bobl eraill. Cofia, nid oes “ffordd gywir” i wneud unrhyw beth – mae pawb yn cerdded llwybr ei hun.

Cerdded llwybr dy hun

Rho amser i ddathlu dy gyflawniadau. Cydnabod dy lwyddiannau a chyflawniadau, ta waeth pa mor fach ydynt. Gall hyn roi hwb i dy hyder a helpu ti i aros yn frwdfrydig.

Y peth pwysicaf yw dy fod di’n dilyn dy galon. Bod hynny’n mynd i’r brifysgol neu ddim, mae dy lwybr di’r un mor ddilys. Paid gadael i bwysau cymdeithasol neu ofn colli allan wneud y penderfyniadau i ti.

Nid ti yw’r unig un. Mae llawer o bobl wedi dewis llwybr gwahanol ac wedi bod yn llwyddiannus ac yn hapus. Derbyn dy siwrne ac ymddiried ynot ti dy hun.

Angen rhywun i siarad â nhw wrth i ti lywio’r newid newydd yma yn dy fywyd? Mae Meic yma i ti i gynnig cyngor ac arweiniad cyfrinachol am ddim.