x
Cuddio'r dudalen

Gwirfoddoli – Beth Sy’n Dda Amdano?

Wyt ti wedi ystyried gwirfoddoli ond ddim yn siŵr iawn ble i gychwyn? Mae Meic wedi rhoi canllaw gwirfoddoli at ei gilydd i bobl ifanc. Manylion pellach am wirfoddoli, beth mae pobl yn ei wneud a beth wyt ti’n ei gael allan ohono.

This article is also availaible in English – click here

Beth ydy gwirfoddoli?

Gwirfoddoli ydy rhoi ychydig o dy amser a defnyddio dy sgiliau i helpu pobl eraill, er budd yr ardal leol neu’r gymuned. Nid yw gwirfoddolwyr yn derbyn arian am eu hamser fel arfer ond maent yn cael eu gwobrwyo mewn ffyrdd gwahanol. Ond dyw gwneud brechdan i Nain neu sgwpio pŵp ci’r teulu ddim yn cyfrif fel gwirfoddoli! Mae gwirfoddoli yn ymrwymiad i elusen neu sefydliad arall. Rwyt ti’n gwirfoddoli dy wasanaethau am ddim i’w helpu i gyflawni’r hyn maent ei angen i wella’r byd rydym yn byw ynddi.

Dwi’n rhy ifanc i wirfoddoli

Anghywir! Mae gwirfoddoli yn rhywbeth gall unrhyw un a phawb ei wneud. Efallai bod yna rai gweithgareddau nad allet ti ei wneud os wyt ti’n iau nag 16 oed (neu 18 weithiau), ond mae yna lwyth o bethau eraill. Yn 12 oed gallet ti wirfoddoli i gymryd rhan mewn prosiect cymunedol neu godi arian i elusen gyda’r ysgol neu’r teulu, ond nid ar ben dy hun. Yn 16 oed efallai gallet ti edrych ar wirfoddoli dy hun a chynnig amser i elusen sydd yn bwysig i ti.

awyr blymio i erthygl gwirfoddoli

Beth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud?

Mae gwirfoddolwyr yn cytuno rhestr o bethau byddant yn ei wneud gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr eraill neu staff sy’n cael eu talu. Mae’r pethau ti’n ei wneud fel gwirfoddolwr yn ddibynnol ar ble rwyt ti’n gwirfoddoli. Gallet ti wirfoddoli yn… cymera anadl ddofn… cerdded cŵn, dysgu celf, codi sbwriel, pobi cacennau, ysgwyd bwcedi, ysgrifennu erthyglau, gwneud ffrindiau, palu’r ardd, arbenigo mewn TG, creu posteri, dyfeisio gemau, codi arian, awyr blymio, gwneud i rywun chwerthin, stiwardio, gofalu am asynnod, gwneud te, tywys ymwelwyr, helpu mewn siop elusen, gwneud adloniant, shafio pennau, cyfarfod a chyfarch, warden gwyliau, cyfri arian, codi ymwybyddiaeth, rhoi caredigrwydd, darlledu ar y radio, ymgyrchu am hawliau… ac dim ond ychydig o syniadau yw’r rhain. Mae yna rai cyfleoedd am ychydig ddyddiau, rhai dros gyfnod hirach. Mae pob cyfle yn wahanol ac mae yna lwyth o ddewis, felly’n sicr mae yna rywbeth ar gael sy’n berffaith i ti!

Beth ydw i’n ei gael o hyn?

Er y gallai swnio’n eithaf cliché, gallet ti gael beth bynnag yr wyt ti eisiau allan o’r cyfle cywir i ti.

  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau newydd
  • Ffrindiau newydd gyda diddordebau tebyg
  • Rhoi hwb i gychwyn dy yrfa
  • Teimlad o falchder
  • Hwyl!
  • Teimlo’n dda am wneud gwahaniaeth i fywydau eraill
  • Creu argraff ar gyflogwyr y dyfodol
  • Gwell dealltwriaeth o fywyd y tu allan i dy brofiadau
  • Archwilio ac ehangu dy ddiddordebau
  • Cynyddu hyder, hunanwerth a hunan-barch
  • Cymwysterau, gwobrau neu dystysgrifau
  • Mwynhad

Fel gwirfoddolwr mae’n bosib bod gen ti hawl i gostau teithio ac weithiau arian cinio. Mae yna rai cyfleoedd fydd yn caniatáu i ti gyfnewid nifer o oriau gwirfoddoli am rywbeth byddet ti’n ei fwynhau. Er esiampl, os wyt ti’n gwneud 5 awr o wirfoddoli gallet ti “gyfnewid” hynny am 5 awr o weithgareddau hamdden gan rai sy’n cefnogi’r cynllun. Mae’r buddion yma yn ychwanegol i’r buddion eraill gallet ti ei gael o wirfoddoli. Mae cyfleoedd fel hyn ar gael trwy gynlluniau penodol fel Just Add Spice.

Beth yw barn bobl ifanc eraill am wirfoddoli?

Mae gwirfoddoli yn gallu bod yn anhygoel, paid cymryd ein gair ni yn unig am hyn! Gwranda ar farn pobl ifanc eraill sydd yn rhannu’r pethau maen nhw wedi’i gael o wirfoddoli a sut effaith mae hyn wedi’i gael ar eu bywydau.

Stori Morgan

O’r helbul i’r hyfryd. Mae Morgan yn siarad am y newidiadau y gwnaeth i’w fywyd er mwyn osgoi mynd i’r carchar a sut newidiodd ei fywyd wrth wirfoddoli.

Stori Courtney

Beth sydd yn gwneud i ti dicio? Stori ysbrydoledig a mewnwelediad i frwydr y person ifanc yma yn ei daith i ddod yn berson yr hoffai fod.

Stori Darren

Dechreuodd Darren ddatblygu problemau iechyd meddwl yn 17 oed. Cychwynnodd wirfoddoli gydag elusen genedlaethol ac yn y fideo yma mae’n esbonio’r pethau mae wedi’i brofi a’i gyflawni.

Ble gallaf gael manylion pellach?

Nid yw’n beth doeth i gerdded yn ddall i mewn i wirfoddoli, neu gall pethau fynd o’i le. Mae angen i ti a dy ddarparwr fod yn ymwybodol o’r pethau sy’n rhesymol ac yn gyfreithiol i ti ei wneud. Mae yna restr o sefydliadau isod sydd yn gallu dangos cyfleoedd a rhoi gwybodaeth am wirfoddoli. Fel arbenigwyr yn y maes, mae posib dibynnu arnynt i gadw ti’n ddiogel, i ddilyn y gyfraith a chyflawni dy fwriad.

Mae gan y WCVA ddolen i gynghorau gwirfoddol pob sir. Mae hwn yn ffordd wych i gael mynediad i wybodaeth leol am gyfleoedd gwirfoddol yn dy ardal.


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am wirfoddoli, gall Meic gyfeirio ti at y lle cywir i gael yr help sydd ei angen arnat. Os oes rhywbeth arall yn dy boeni yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.