x
Cuddio'r dudalen

Hunanddelwedd a Hunan-barch

Cartŵn o gwmwl glas gydag wyneb ansicr a haul melyn y tu ôl iddo'n gwenu.

Hunanddelwedd ydy’r ffordd rwyt ti’n meddwl am dy hun a’r ffordd ti’n edrych. Mae hunan-barch da yn golygu dy fod di’n hyderus yn dy hun ac yn deall dy werth.

Mae gwahanol bethau yn gallu newid y ffordd rwyt ti’n teimlo am dy hun. Weithiau, efallai bod gen ti hunan-barch isel. Ar adegau eraill, efallai dy fod di’n teimlo’n dda am dy hun. 

Mae pethau fel tymer, iechyd meddwl, a phethau sydd yn digwydd yn dy fywyd yn gallu cael effaith ar dy hunan-barch. Ond, mae yna bethau gallet ti ei wneud i geisio gwella dy hunanddelwedd.

Os wyt ti angen cymorth yn ymwneud â hunanddelwedd a hunan-barch, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar hunanddelwedd a hunan-barch: