x
Cuddio'r dudalen

Gwellhad: Y Gwirionedd – Cerdd

Mae Meic yn derbyn sawl cyswllt gan blant a phobl ifanc yn ymwneud ag iechyd meddwl. Fe yrrodd person ifanc y gerdd yma atom, sydd yn disgrifio gwellhad, a’r llwybr hir ac anodd tuag ato.

To read this article in English, click here

Cyflwynwyd y gerdd hon i Meic yn Saesneg. Mae hwn yn gyfieithiad o’r gwaith gwreiddiol.

Gwelhad: Y Gwirionedd

______________

Y gwir yw bod gwellhad yn anodd, anodd iawn
Rwy’n gwybod hyn gan fy mod i’n ceisio.
Rwy’n deall y gwirionedd mai ffordd hir yw gwellhad, un teithiwyd ar ben fy hun,
Nid rhosod prydferth a phobl yn profi y gallant newid yw gwellhad,
Mae’n rhaid cropian drwy’r llwyni
Ac yna tynnu’r drain o dy groen.
Nid byddin o bobl ydyw, yn helpu ti i adeiladu ffau ciwt gyda goleuadau bach a llyfrau lliwio,
Mae’n dysgu sut i greu gofod diogel i ti, yng nghanol y corwynt hyd yn oed
Mae angen gwasgu dy ddannedd a symud ymlaen yn ddistaw ond yn benderfynol,
Mae’n rhaid edrych ar yr olygfa o ble’r wyt ti
Nid edrych tuag at frig y mynydd a meddwl pa mor bell sydd ar ôl i ddringo,
Weithiau bydd gwellhad yn ymwneud â chael pobl dda a sgyrsiau da o’th gwmpas.
Am ddysgu sut i ymddwyn mewn distawrwydd,
heb deimlo’r angen i lenwi’r gwacter.
Mae gwellhad yn ymwneud â deffro pob dydd a phenderfynu brwydro.
Er pa mor anodd yw hynny.
Mae’n rhaid parhau i frwydro hyd yn oed pan fyddi di’n teimlo bod y nosweithiau’n hir ac na fydd yr haul yn codi eto,
Ac mae’n rhaid parhau i ddewis gwella, pan fydd popeth yn teimlo’n dywyll.
Y gwir yw, mae gwellhad yn anodd,
Yn anodd, anodd iawn,
Ond mae’n werth ei wneud.

 gan Paige’Sydney

Angen help?

Mae materion iechyd meddwl yn eithaf cyffredin, er gallant amrywio ym mha mor ddifrifol ydynt. Mae’n beth da iawn i siarad am dy iechyd meddwl ac mae Meic yma i helpu. Os wyt ti angen siarad yna cysyllta’r llinell gymorth ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos.

Manylion cyswllt Meic ar gyfer erthygl barddoniaeth gwellhad