x
Cuddio'r dudalen

Pwysau Cyfryngau Cymdeithasol

Mae pawb yn gwirioni gydag ychydig o stelcio Facebook, yn edmygu bywydau glam a chyffrous eraill ar Instagram. Ond sut wyt ti’n teimlo wrth edmygu bywydau pobl nad oes gen ti lawer o gyswllt â nhw mewn bywyd go iawn? Ydy gweld llwyddiannau a chyflawniadau eraill yn gwneud i ti deimlo’n ddi-nod, neu’n cael effaith ar dy dymer?

Y Da a’r Drwg

Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn grêt. Gall fod yn ffordd i rannu a chymdeithasu, ond mae yna bethau sydd ddim yn grêt hefyd. Mae’n gallu rhoi pwysau arnom yn ein bywydau bob dydd gydag anghydbwysedd a delweddau ffug o fywydau pobl eraill. Mae’r sgrin yn cael ei lenwi gyda lluniau o bobl yn gwisgo’r dillad diweddaraf, yn gwneud pethau hwyl a chyffrous gyda llawer o ffrindiau. Bywydau perffaith?

Os ydym mewn hwyliau da yna efallai byddem yn teimlo’n hapus drostynt, yn gadael sylwadau positif neu fawd ‘hoffi’ arno. Ond os ydym yn cael diwrnod drwg gall wneud i ni deimlo “Pam bod bywydau pobl eraill mor berffaith a hapus???” Mae’n hawdd disgyn i mewn i drap o gymharu ein bywyd i fywyd ein ffrindiau Facebook. Gall hyn gael effaith negyddol ar ein tymor a’n hunan-barch.

Nid yw cyfryngau cymdeithasol yn ddrwg i gyd chwaith! Gall fod yn rhywbeth positif sydd yn cysylltu pawb. Gall fod yn fforwm i rai lle gellir cael cefnogaeth ar faterion penodol mewn cyfnod anodd. Felly, sut mae hidlo’r da o’r drwg? Mae gennym ychydig o awgrymiadau fydd yn helpu ti i wynebu’r realiti o’r pethau gwelir ar gyfryngau cymdeithasol.

Awgrymiadau Am Gyfryngau Cymdeithasol Hapus

Delwedd 1 cyfryngau cydmeithasol niweidiol

1. Paid gorwneud pethau

Os wyt ti’n sownd yn y tŷ ar dy ffôn, i-pad neu gyfrifiadur, yn sgrolio drwy fywydau eraill 24 awr y dydd, yna byddi di’n teimlo’n pants! Cer allan a chreu atgofion dy hun! Os wyt ti’n cael mwy o hwyl yn dy fywyd go iawn, yna byddi di’n treulio llai o amser yn cymharu dy fywyd i fywydau pobl eraill.

2. Cymryd popeth gyda phinsiad o halen

Paid llyncu’r gor-glamoreiddio o fywydau ar gyfryngau cymdeithasol. Bydda’n hapus dros y rhai sy’n rhannu’r pethau grêt sy’n digwydd yn eu bywydau. Ond cofia nad wyt ti’n gweld y darlun llawn bob tro. Tra gall fywydau pobl edrych yn hwyl ac yn hapus, nid yw bywyd neb yn rhosod o hyd. Ond maent yn dewis peidio rhannu hynny! Gall cyfrifon cyfryngau cymdeithasol roi ciplun un dimensiwn i fywyd rhywun. Mae pobl yn llai tebygol o rannu llun o’r noson pan oeddent yn stwffio’u hwyneb gyda thwb o Ben & Jerry’s ac yn gwylio sothach ar y teledu, ond dyw hynny ddim yn golygu na ddigwyddodd hyn! Mae defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn llawer mwy tebygol o rannu’r pethau da, lluniau ohonynt a’u ffrindiau yn cael amser gwych (lluniau sydd wedi’u golygu a’u hidlo yn aml). Dyma pam bod eu proffil yn ddiddorol.

3. Nid oes angen llwyth yn ‘hoffi’

Paid poeni os nad wyt ti’n cael 100 yn hoffi fel yr oeddet wedi’i obeithio. Nid yw’n golygu nad yw’r hyn sydd wedi’i bostio’n anniddorol ac nad yw pobl yn hoff ohonot. Stopia roi pwysau arnat ti dy hun. Nid elli’r cymharu ‘hoffi’ ar gyfryngau cymdeithasol i’r peth go iawn. Ceisia ail-gysylltu gyda dy ffrindiau wyneb i wyneb. Siarada am y pethau sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar dros baned neu wrth gerdded yn y parc lleol. Mae cysylltiad person i berson yn llawer gwell nag un ar-lein bob tro.

4. Ffiltro realiti

Mae ffilter yn gallu bod yn wych ac yn hwyl, ond cofia bod pobl yn aml yn defnyddio ffilter cynnil wrth bostio lluniau ar gyfryngau cymdeithasol. Mae pawb eisiau edrych ar ei orau, mae hynny’n naturiol. Ond cofia, wrth syllu yn genfigennus ar lun o rywun gyda llygaid mawr a chroen perffaith, pa mor gyffredin ydy’r defnydd o ffilter. A yw’n bosib edrych mor berffaith mewn realiti? Annhebygol!

5. Byw yn y foment

Mae’n iawn cymryd seibiant o rannu pob eiliad ar gyfryngau cymdeithasol, wir ar! Mae’n iawn cael byw yn y foment weithiau. Gwna bwynt o gadw dy ffôn bob hyn a hyn. Anghofia am y hunluniau; mwynha’r hyn sydd yn digwydd yn y fan a’r lle. Hawlia’r annibyniaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a chadw pethau’n real. Dyw’r ffaith nad yw’n ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol ddim yn golygu nad yw’n digwydd.

Pob lwc

Gobeithiwn y gallet ti ddilyn ychydig, os nad yr holl, awgrymiadau yma. Rydym yn deall pa mor anodd ydy newid y ffordd rwyt ti’n meddwl ac yn gwneud pethau, ond rydym yn credu gall ddilyn yr awgrymiadau uchod wneud i ti deimlo ychydig yn well amdanat ti dy hun yn y pen draw. Pob lwc yn llywio’r byd cymhleth o gyfryngau cymdeithasol a chofia nad yw’r pethau ti’n ei weld ar y sgrin yn dangos y darlun llawn bob tro!

Galwa Mei

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth ar gyfryngau cymdeithasol neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni di, neu rywbeth ti’n ei gwestiynu, yna cysyllta gyda Meic. Gall ein cynghorwyr cyfeillgar helpu.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.