x
Cuddio'r dudalen

Ydy’r Hyn Ti’n Weld Ar Instagram Yn Wir?

Wyt ti’n aml yn teimlo cenfigen fawr wrth sgrolio trwy Instagram? Wedi swyno gyda’r bywydau perffaith, croen clir, dillad anhygoel, partneriaid cariadus, gwyliau bendigedig a bywydau hapus dros ben. Digon i wneud i unrhyw berson deimlo’n eithaf diflas am fywyd ei hun wrth gymharu.

To read this article in English, click here

Mae’n anodd peidio cymharu dy fywyd i fywyd rhywun arall. Wrth i ti sefyll o flaen y drych, yn gwasgu sbot, ar ôl ffraeo gyda rhieni, wedi diflasu’n llwyr heb ddim i’w wneud ac unlle i fynd. Gall byw dy fywyd drwy lens ddychmygol Instagram fod yn ddihangfa, ond mae’n bwysig sylweddoli a deall nad gwirionedd yw’r bywydau yma ran amlaf, a gall fod yn niweidiol os nad wyt ti’n deall hyn.

Bywyd drwy’r lens (wedi’i ffiltro)


Atgoffa dy hun – “Nid bywyd go iawn yw Instagram!”

Mae’n annhebygol bod y bobl rwyt ti’n edmygu yn byw’r bywyd perffaith yna go iawn. Mae dylanwadwyr Instagram yn cael incwm o’u cyfrifon. Pan fydd ganddynt ddigon o ddilynwyr maent yn cael pethau am ddim ac yn cael eu talu i hyrwyddo pethau, ac felly mae’n rhaid iddynt gadw’r celwydd yma o fywyd perffaith.

Wyt ti wedi clywed am ferched VSCO? Y sgrynshis, fflasgiau hydro, gwelltyn gellir ailddefnyddio ac achub y crwbanod. Wedi etifeddu’r enw o’r app golygu sydd yn cael ei ddefnyddio i greu delweddau perffaith. Mae’r merched ifanc yma yn defnyddio rhaglenni i olygu eu bywydau, yn dileu’r pethau sydd yn eu gwneud yn unigryw i ddod yn gopi carbon o’i gilydd. Sksksk!

A dim ond un teclyn golygu ydy VSCO; mae nifer ohonynt ar gael. Mae gan gyfryngau cymdeithasol osodiadau ffilter eu hunain, mae yna osodiadau ffilter yn dy ffôn symudol hefyd. Mae’n debyg ei bod yn haws dangos fersiwn wedi’i ffiltro yn hytrach nag fersiwn go iawn ohonot ti dy hun erbyn hyn!

Chwalu’r celwyddau


Mae sawl cyfrif sydd yn ceisio chwalu’r ddelwedd yma o fywydau perffaith Instagram. Pobl fel y ffotograffydd Kim Britt, sydd yn defnyddio ei chyfrif @embracing_reality i ddangos y gwahaniaeth rhwng Cyfryngau Cymdeithasol a Realiti i’r 35 mil sydd yn dilyn. Mae’n dangos sut mae onglau camera a’r ffordd rwyt ti’n sefyll yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Delwedd: embracing_reality ar Instagram

Cafodd y blogiwr teithio Martina Saravia (@tupisaravia) ei dal yn golygu’r un cymylau i mewn i’w lluniau drosodd a throsodd a’u rhannu gyda 305 mil o ddilynwyr.

Delwedd: @MattNavarra ar Twitter

Edrycha ar y ddelwedd yma ar gyfrif Twitter @lenaksj yn dangos pa mor hawdd yw creu delweddau deniadol o arddangosfa blodau syml yng nghanol siop celf a chrefft. Gallet ti honni fod y llun yma wedi ei dynnu yn unrhyw le a phobl dim callach o’r gwirionedd.

Llwyddodd y cynhyrchydd fideo @GeorgeMason i dwyllo 92 mil o’i ddilynwyr i gredu ei fod ar daith o amgylch Ewrop. Hyn oll yn eistedd gartref yn defnyddio sgiliau Photoshop. Ac roedd pobl yn barod i lyncu’r cwbl (heblaw am nifer fach oedd wedi dyfalu).

Delwedd: @GeorgeMason Instagram

Yn fwy diweddar llwyddodd y dylanwadwr @natalia_taylor i berswadio ei 366 mil o ddilynwyr ei bod ym Mali wrth iddi dynnu lluniau mewn Ikea. Roedd y mwyafrif yn credu’r twyll yma, er iddo ddigwydd ynghanol y pandemig Covid-19.

Bydda’n realistig – paid â chael dy dwyllo!


Mae gweld diwrnodau drwg pobl ar Instagram yn beth prin iawn, y cyfnodau emosiynol ‘go iawn’. Ond, wyt ti eisiau gwylio rhywun yn byw ‘bywyd normal’ fel ti? Y tasgau diflas o ddydd i ddydd. Gwisgo jogyrs cyfforddus a dy hoff hwdi gyda’r staen mawr arno. Yn teimlo’n ofnadwy ac yn crio. Yn chwerthin mor galed nes i ti snotio. Sgwrsio gyda ffrindiau am ddim. Binjo cyfres ar ôl cyfres ar Netflix. Eistedd ynghanol llanast yr ystafell wely yn bwyta jync. Ydy, mae bywyd go iawn yn gallu bod yn ddiflas, mae’n gallu bod yn grêt, mae’n gallu bod yn ofnadwy, ond fel arfer mae’n normal, ac mae hynny’n iawn.

Ni ddylid defnyddio cyfryngau cymdeithasol i chwilio am gymeradwyaeth gan eraill. Nid pwrpas bywyd yw cael y nifer fwyaf o ‘likes; gall rhywun fynd yn gaeth i’r teimlad o gael ‘likes’ yn sydyn iawn. Mae Instagram yn realiti ffug ac mae’n rhaid bod yn ymwybodol o hynny. Os ddim, gall fod yn niweidiol iawn. Gall gwneud i ti deimlo fel nad wyt ti’n ddigon da. Os wyt ti’n cymharu dy hun i’r bywydau anghyraeddadwy, ffug ar-lein, wedi’u ffiltro a’u golygu, yna mae’n gallu achosi problemau delwedd corff, hunan-barch isel, pryder ac iselder.

Ond er bod cyfryngau cymdeithasol yn gallu cael effaith negyddol, mae yna ochr positif hefyd. Mae’n cysylltu, yn cefnogi, yn adlonni ac yn hwyl. Os wyt ti’n gallu ei adnabod am yr hyn ydyw, a chael agwedd iach o gydbwysedd tuag ato, yna nid yw’n ddrwg i ti.

Gwybodaeth bellach

Chwilio am help


Os wyt ti’n teimlo fel bod cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith negyddol arnat ti yna beth am gymryd saib bach weithiau. Os wyt ti’n teimlo fel bod dy hunan-barch yn isel yna cer i edrych ar y cyngor yma gan y GIG neu Meddwl.org ar sut i gredu ynot ti dy hun a gwella dy hunan-barch.

Mae Meic yma i siarad o hyd. Os wyt ti’n teimlo’n isel yna galwa, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor.