Effaith Cyfryngau Cymdeithasol ar Bobl Ifanc
Mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau, ond mae’n bwysig i ti fod yn ymwybodol o’r ochrau drwg o bosib. Tyrd i ni siarad am y ffordd mae’n gallu cael effaith arnom ni a’n iechyd meddwl.
Celwydd perffeithrwydd
Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu gwneud i fywydau pawb ymddangos yn berffaith. Yn postio lluniau anhygoel, yn cael hwyl gyda ffrindiau, ac yn byw’r freuddwyd.
Ond cofia, delwedd wedi ei greu yn ofalus yw hwn. Mae’r mwyafrif yn tueddu postio’r pethau da, felly nid yw cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchiad realistig o fywyd rhywun. Mae’n gallu arwain at deimladau o annigonolrwydd a hunan-barch isel. Nid yw pobl yn dueddol o ddangos y pethau diflas, distaw, sy’n achosi straen o ddydd i ddydd.
Ceisia beidio cymharu dy hun â eraill a theimlo pwysau i fod yn berffaith. Mae’n bwysig cofio fod pawb ar daith unigryw eu hunain.
Yn lle hynny, dathla gyflawniadau dy hun, ta waeth pa mor fach yw’r rhain. Cyfynga dy ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol a threulio amser yn gwneud pethau sy’n rhoi llawenydd i ti.
Ochr dywyll cyfryngau cymdeithasol
Gall y byd digidol fod yn le negyddol iawn yn aml. Seibrfwlio, harasio ar-lein, a phobl yn siarad casineb. Mae hyn yn gallu cael effaith drwg ar iechyd meddwl.
Bydda’n ymwybodol o dy ymddygiad ar-lein. Hyd yn oed os yw rhywbeth yn ymddangos fel jôc neu’n ddiniwed, cofia feddwl ddwywaith cyn postio unrhyw beth. Ystyried os gall rhywbeth fod yn niweidiol neu godi cywilydd arnat ti neu rywun arall. Cofia, unwaith i ti bostio rhywbeth ar-lein, mae bron yn amhosib i ti ddileu hyn o dy ôl troed digidol, hyd yn oed os wyt ti’n dileu hynny.
Adrodd unrhyw seiberfwlio, harasio, docsio, trolio, stelcio, neu gamdriniaeth rwyt ti’n ei weld ar-lein.
Cer i weld mwy o’n cynnwys am gadw’n ddiogel ar-lein, gan gynnwys beth i’w wneud os wyt ti’n gweld rhywbeth sydd yn dy boeni di ar-lein.
Grym positif cyfryngau cymdeithasol
Er bod ochrau negyddol i gyfryngau cymdeithasol, gall hefyd fod yn arf pwerus iawn i wneud newid positif. Defnyddia hwn i gysylltu gyda phobl o’r un meddylfryd, dysgu sgiliau newydd, ac eirioli dros achosion sydd yn bwysig i ti. Mae’n ffordd wych i gysylltu gyda phobl a chadw’n wybodus, ond mae’n bwysig i fod yn ddoeth wrth ei ddefnyddio.
I gael budd o gyfryngau cymdeithasol, gallet ti:
- Cyfyngu dy amser sgrin. Treulia amser yn gwneud y pethau sydd yn rhoi pleser a boddhad i ti yn dy fywyd go iawn.
- Herio disgwyliadau afrealistig. Atgoffa dy hun bod pobl yn aml yn cyflwyno’r ochr orau ar-lein, ac i rannu hyn gyda dy ffrindiau hefyd.
- Creu perthnasau cryf. Canolbwyntia ar gysylltiadau dwfn ac ystyrlon gyda phobl rwyt ti’n adnabod, fel teulu a ffrindiau.
- Cael trefn ar dy gyfrif. Dilyna gyfrifon sydd yn ysbrydoli ac yn ysgogi a pheidio dilyn y rhai sydd yn gwneud i ti deimlo’n genfigennus, trist, blin neu ofidus.
- Chwilio am gefnogaeth. Os wyt ti’n stryglo gyda chyfryngau cymdeithasol, chwilia am gymorth yn syth.
Ble i gael cymorth?
Cer i weld y tudalennau Cadw’n Ddiogel Ar-lein yma ar Hwb
Os wyt ti’n gweld rhywbeth niweidiol ar-lein, fel bygythiadau, dynwared, bwlio, harasio, hunan-niweidio, siarad casineb (a llawer mwy) yna gallet ti adrodd hyn i Riportio Cynnwys Niweidiol yma.
I gael cyngor ar osod gosodiadau dy broffil yn breifat a chadw dy hun yn ddiogel ar-lein cer i edrych ar y rhestrau gwirio yma gan SWGfL.
Os wyt ti angen sgwrs, cysyllta â ni yma yn Meic i siarad gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar trwy sgwrs ar-lein, tecst neu neges WhatsApp neu wrth godi’r ffôn a siarad. Gallem helpu ti i ddarganfod y llwybr cywir.