x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Dathlu Bod Yn Sengl Ar Ddydd Santes Dwynwen a San Ffolant

Wyt ti’n teimlo pwysau i fod mewn perthynas ar ddydd Santes Dwynwen a San Ffolant? Teimlo’n ddrwg os ddim? Yna darllena’r blog yma i ddarganfod pam nad oes rhaid bod mewn perthynas i deimlo’n dda am dy hun. Dathla bod yn sengl yn lle hynny!

This article is also availaible in English – click here 

Pwysau bod mewn perthynas ar Santes Dwynwen a San Ffolant

Yn ifanc, mae’n gallu teimlo fel bod pwysau enfawr arnat ti i fod mewn perthynas ac i ddod o hyd i’r ‘un’ ar Santes Dwynwen neu San Ffolant. Gall y syniad yma annog rhywun i ruthro i mewn i berthynas neu aros gyda rhywun sydd ddim yn iawn iddyn nhw fel nad ydyn nhw ar ben eu hunain. Ond, mae gwahaniaeth mawr rhwng bod yn unig a bod ar ben dy hun.

Mae bod yn unig, cyflwr emosiynol, yn wahanol i fod ar ben dy hun, cyflwr corfforol. Nid wyt ti’n teimlo cysylltiad gyda phobl eraill pan rwyt ti’n teimlo’n unig. Gall hyn ddigwydd pan fyddi di ar ben dy hun neu gyda phobl eraill.

Bachgen ifanc du mewn crys-t melyn gyda dau fawd yn gwenu ar gyfer blog santes dwynwen

Rwyt ti’n ddigon

Yn aml, wrth drafod cariad a pherthnasau, mae yna gred bod cael partner yn ‘cyflawni ti’. Yn hanner arall ohonot. Mae’r syniad yma yn awgrymu nad wyt ti’n gyflawn, neu dy fod di’n hanner rhywbeth, os wyt ti’n sengl, ac mae darganfod ‘yr un’ yn dy gyflawni.

Nid yw meddwl fel hyn yn iach iawn. Mae’n awgrymu bod pobl sengl yn disgwyl am y perthynas nesaf i fod yn gyflawn, ac mai nos pawb dylai fod mewn perthynas. Ond, fe ddylet ti fedru teimlo’n gyfan ar ben dy hun. Ni ddylid gorfod cael partner i deimlo hynny. Wrth deimlo’n gyflawn ar ben dy hun, mae dy berthynas di’n iachach gan nad wyt ti angen y person yna i wneud i ti deimlo’n dda am dy hun. Rwyt ti efo’r person am dy fod di eisiau, nid am dy fod di angen.

Blwch siocled siâp calon ar gyfer blog Santes Dwynwen

Mwynha gwneud pethau ar ben dy hun

Yn ifanc, mae’n llai tebygol bod gen ti bwysau a chyfrifoldebau ychwanegol bywyd oedolyn, fel rhent, biliau mawr neu blant. Ceisia fwynhau’r amser yma ble rwyt ti’n gyfrifol am dy amserlen a’r hyn rwyt ti’n gwneud. Cer am ddêt efo dy hun, gwylia’r ffilm yna rwyt ti eisiau gweld, cer am y dydd i rywle newydd. Nid oes rhaid disgwyl am berson arall i wneud y pethau rwyt ti eisiau gwneud.

Pan rwyt ti’n sengl, dylet ti ddysgu sut i fod yn hapus ar ben dy hun. Sylweddola nad oes rhaid dibynnu ar rywun arall i fod yn hapus, nid oes rhaid bod mewn perthynas i deimlo’n dda am dy hun.

Mae’n bwysig treulio cyfnod o ansawdd gyda dy hun hyd yn oed os wyt ti mewn perthynas, a phaid colli dy hun oherwydd person arall.

Beth am garu dy hun ar San Ffolant a Santes Dwynwen eleni? Pryna rosod neu focs siocled i dy hun. Treulia’r dydd neu’r nos yn gwneud rhywbeth rwyt ti’n wir hoffi gwneud, unai ar ben dy hun neu gyda ffrindiau. Rwyt ti’n ddigon!

Siarad â Meic?

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.