x
Cuddio'r dudalen

Positifrwydd Corff dros yr Haf

Ydy meddwl am yr haf yn codi hunllef arnat ti, yn meddwl am ddangos mwy o groen a tithau ddim yn teimlo’n grêt am dy hun? Mae llawer o bobl o bob rhyw yn dioddef o ddelwedd corff negyddol. Mae’n beth normal. Rydym yma i geisio rhoi hwb i dy hunanhyder a hyrwyddo ychydig o bositifrwydd y corff am yr haf.

This article is also availaible in English – click here

Beth yw delwedd corff?

Delwedd corff yw’r ffordd rwyt ti’n meddwl am dy gorff. Mae cael delwedd corff negyddol yn golygu nad wyt ti’n hapus â dy edrychiad mewn rhyw ffordd. Efallai bod hyn oherwydd pwysau, edrychiad, siâp, anabledd, creithiau, marciau geni, rhyw a llawer mwy. Mae ffrindiau, teulu, diwylliant, y cyfryngau a phrofiadau’r gorffennol i gyd yn gallu dylanwadu arno.

Wrth i bobl dreulio oriau ar-lein ar wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol, mae’n hawdd iawn cael dy sugno i mewn i’r delweddau afrealistig ac anghyraeddadwy sydd yn cael eu rhannu ar nifer o gyfrifon. Mae’n hawdd dechrau cymharu dy hun i’r bobl ‘berffaith’ yma.

Efallai bod rhai pobl sydd yn dioddef o ddelwedd corff negyddol yn ceisio cuddio’r pethau nad ydynt yn hoff iawn ohonynt gyda cholur neu ddillad. Gall rhai pobl fod yn dioddef o dysmorphia’r corff, cyflwr iechyd meddwl ble mae rhywun yn obsesu am eu hedrychiad, pethau nad yw pobl eraill yn debygol o weld.

Cartŵn bachgen yn edrych yn y drych yn gwenu, codi bawd, gwisgo sbectol haul a emoji calon wrth ei ochr

Fflipio dy feddwl!

Beth os ydyn ni’n penderfynu dweud na wrth yr hyn mae’r cyfryngau yn dewis sydd yn ‘berffaith’

Dyw’r ffaith bod rhywun yn edrych yn denau ac yn hapus ar gyfryngau cymdeithasol ddim yn golygu eu bod nhw’n dilyn diet iach neu ddim yn teimlo’n drist y tu ôl i’r wen yna i’r camera. Nid yw hapusrwydd Instagram yn cyfateb i hapusrwydd bywyd go iawn. Nid yw bod yn ‘denau’, ‘tlws’ neu fod â ‘abs anfarwol’ yn cyfateb i ‘hapus’ a ‘iach’. Dim ond y pethau da fydd pobl yn rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Pa mor aml mae rhywun yn rhannu ongl anffafriol neu pan fydd sneips yn hongian o’r trwyn?

Nid oes rhaid i ti edrych ryw ffordd benodol i deimlo’n haeddiannol neu i gael dy garu. Nid yw’n bosib ail-greu’r delweddau yna ar gyfryngau cymdeithasol gan nad ydynt yn wir, ac nid ydynt yn cynrychioli’r byd go iawn.

Merch hapus yn pwyntio at ei hun gyda chalonnau bach o'i chwmpas. Swigod gyda bawd i fyny a seren wrth ei hochr i gynrychioli cyfryngau cymdeithasol

Ceisia fod yn hapusach gyda dy edrychiad

  • Paid cymharu dy hun â phobl yn y cyfryngau – mae’r golwg ‘perffaith’ yna yn cael llawer o help gan golur, llawdriniaeth neu ‘touch ups’ digidol
  • Anghofia am y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd yn gwneud i ti deimlo’n ddrwg – paid dilyn rhywun sydd yn gwneud i ti deimlo’n wael am dy hun
  • Dilyna gyfrifon sydd yn rhannu delweddau corff realistig ac yn hyrwyddo ffordd o fyw iach – mae yna ddigon o gwmpas os ei di i chwilio
  • Anghofia’r bobl sydd yn gwneud i ti deimlo’n wael am dy hun, a threulia amser gyda’r bobl sydd yn dy gefnogi yn hytrach na dy dynnu di i lawr. Os nad yw hyn yn bosib, yna dweud wrthynt sut maent yn gwneud i ti deimlo
  • Bydda’n garedig i dy hun – stopia rhoi dy hun i lawr
  • Canolbwyntia ar y pethau rwyt ti’n hoffi am dy hun yn hytrach nag obsesu am y pethau rwyt ti’n casáu. Creu rhestr o’r pethau da ac edrycha arno pan fyddi di’n teimlo’n ddrwg am dy hun
  • Siarada gyda rhywun – darllena ein blog, Sut i Gychwyn Sgwrs i Rannu Problem, neu cysyllta â llinell gymorth Meic os wyt ti angen siarad, gyrru neges testun neu sgwrsio ar-lein
  • Rwyt ti’n fwy nag dy edrychiad – bydd pobl yn dy hoffi di am lawer mwy na’r ffordd rwyt ti’n edrych. Mae pethau fel bod yn garedig, yn gynorthwyol, hwyl, ffrind da ayb. yn llawer pwysicach
  • Edrycha ar bobl eraill a sylwi ar y gwahaniaethau. Ni fydd y mwyafrif yn meddwl ddwywaith am dy edrychiad. Am fyd od fydda hwn os petai bawb yn edrych yr un peth!
Cartŵn dau blaster yn croesi gyda llun calon ar yr un top

Problemau iechyd

Os wyt ti’n poeni am y ffordd rwyt ti’n edrych am resymau iechyd, yna chwilia am gymorth. Y lle gorau i gychwyn yw cysylltu gyda’r doctor. Gallan nhw sicrhau dy fod di’n cael yr holl faeth a fitaminau sydd ei angen i ddilyn diet cytbwys, mae dy gorff di yn dal i ddatblygu. Cer draw i dudalen Byw’n Iach GIG Cymru. Mae llawer o wybodaeth am iechyd meddwl, ymarfer corff, cwsg, bwyta’n iach, rhoi gorau i ysmygu, alcohol ac iechyd rhywiol.

Mae ymarfer corff yn ffordd wych i roi hwb i hunanhyder a dod yn iach. Nid oes rhaid i ti gael aelodaeth ddrud i’r gampfa. Cer i weld canllawiau a sesiynau ymarfer corff ar dudalennau Byw’n Iach y GIG. Os nad wyt ti wedi gwneud llawer o gadw’n heini cynt, mae’r syniad o gychwyn yn gallu codi ofn ar rywun weithiau. Cychwynna’n fach ac adeiladu ar dy ffitrwydd, fel mynd am dro bob dydd. Cer â ffrind neu aelod o’r teulu gyda thi os wyt ti’n nerfus am gadw’n heini ar ben dy hun. Mae cadw’n ffit wrth gymdeithasu yn gallu gwneud iddo deimlo fel llai o waith diflas.

Os ydy dy ddelwedd corff negyddol wedi gwneud i ti anafu dy hun rywsut, yna chwilia am gymorth. Mae gan Mind gyngor gwych ar eu gwefan am ymdopi gyda hunan-niweidio os wyt ti’n berson ifanc.

Os wyt ti’n dioddef gydag anhwylder bwyta, yna gall Beat gynnig gwybodaeth a chymorth ar eu gwefan a llinell gymorth – 0808 801 0433.

Os wyt ti eisiau siarad am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yn gyfrinachol ac am ddim, yna mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Galwa, gyrra neges testun neu sgwrsia gyda ni ar-lein. Gallem dy helpu di i ddarganfod yr help sydd ei angen arnat ti.

Erthyglau perthnasol