x
Cuddio'r dudalen

Swildod Delwedd y Corff Mewn Perthynas

Mae bod yn agos at rywun yn rhywiol ac yn gorfforol yn rhan naturiol o fod yn aeddfed. Ond weithiau, mae bod yn agos at rywun yn gallu gwneud i lawer o bobl deimlo’n ansicr am eu corff. Mae hyn yn waeth os wyt ti’n cymharu dy hun i’r hyn rwyt ti’n meddwl sy’n ddeniadol i bobl eraill.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Bai’r cyfryngau

Mae’r syniad o gorff perffaith yn aml yn cael ei siapio gan yr hyn rydym yn ei weld ar y teledu, ffilmiau, hysbysebion, cyfryngau cymdeithasol, a porn hefyd. Yn aml mae’r bobl ‘prydferth’ yma yn cael eu dewis oherwydd y ffordd maent yn edrych. Ond, nid yw hyn yn bortread realistig o harddwch.

Mae technoleg fel hidlydd (filter) a Photoshop yn gallu rhoi edrychiad penodol i bobl. Mae’n normal bellach i weld delweddau a fideos wedi eu haltro. Os wyt ti’n cymharu dy hun i hyn mae’n gallu gwneud i ti i deimlo’n ddrwg.

Gall hefyd wneud i bobl feddwl bod rhaid iddynt ymddwyn mewn ffordd benodol i fod yn ddeniadol. Fel bod yn ddi-flew dan y gesail, coesau a blew cedor (pubic hair). Mae rhai merched yn gwneud hyn i’w hunain, ac eraill yn gwneud am eu bod yn teimlo y dylen nhw.

Mae safonau harddwch yn newid ac yn wahanol i ddiwylliannau amrywiol dros y byd. Ceisia beidio cymharu dy hun i’r person ‘perffaith’ rwyt ti’n gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.

Drych llaw pin i'r bog delwedd corff

Ydy dy genitalia yn normal?

Beth yw normal? Nid yw pobl yn tueddu siarad am edrychiad genitalia eu hunain. Mae’r mwyafrif yn cael syniad o sut mae’r fagina neu bidyn i fod i edrych o luniau a porn.

Nid oes normal! Mae gen ti faginas gyda gwefusau bach, rhai efo gwefusau mawr, ac yn amrywio mewn lliw o olau i dywyll. Mae maint y pidyn yn amrywio lot. Nid yw’r rhai enfawr sydd i’w gweld mewn porn yn cynrychioli pidyn arferol! Gallant fod yn dew neu’n denau ac efallai bod plyg ynddi.

Mae gan rai pobl flew cedor (pubic hair). Mae rhai yn dewis ei drimio. Eraill yn penderfynu cael gwared yn gyfan gwbl. Dewis personol yw hwn.

Y gwir ydy, nid oes normal, felly paid teimlo dy fod di’n od am nad wyt ti’n edrych yr un peth â’r genitalia perffaith sydd ar y rhyngrwyd neu mewn porn.

Cer i weld cyngor Dr Ranj Singh yn ‘Is my vagina normal’ neu ‘What does a normal penis look like’ ar wefan The Mix.

Poeni am amherffeithrwydd y corff

Mae perffeithiaeth yn chwedl. Nid yw’n bodoli mewn gwirionedd. Nid oes neb yn ‘berffaith’, hyd yn oed y rhai sy’n edrych yn ‘berffaith’ yn y cyfryngau.

Mae pawb yn unigryw, ac nid oes neb yr un peth yn union (nid efeilliaid hyd yn oed). Mae’n dda bod yr un pethau ddim at ddant pawb. Efallai nad yw’r hyn sydd yn ddeniadol i un person yn ddeniadol i rywun arall. Mae person ‘perffaith’ pawb yn edrych yn wahanol.

Wrth edrych ar ein hunain a beirniadu’r holl bethau byddem yn newid am ein cyrff, rydym yn cymharu ein hunain i’r syniadau yma o berffeithrwydd sydd ddim yn wir. Efallai dy fod di eisiau bwlch rhwng y cluniau, breichiau teneuach, pen ôl mwy, llai o frychni haul, dim creithiau, llai o sbotiau, ond dyma’r pethau sydd yn gwneud ni’n ni.

Ceisia dderbyn amrywiaeth dy gorff a heria unrhyw ddisgwyliadau afrealistig o ‘harddwch.

Nid edrychiad yw popeth

Mae rhai pobl yn poeni os nad ydynt yn edrych ryw ffordd benodol yna nid ydynt yn ddeniadol i bobl eraill. Er esiampl, dynion sy’n credu nad oes ganddynt bidyn mawr ac yn teimlo na fydd neb eisiau bod yn agos atynt, neu na allant bleseru rhywun yn rhywiol.

Y gwirionedd yw, nid edrychiad yw popeth. Mae personoliaeth dda, hiwmor a hyder yn ddeniadol iawn. Mae gwybod beth i wneud gyda dy declyn a sut i’w defnyddio’n iawn yn apelio mwy na edrychiad.

Dyn yn edrych ar ei hun a'i gorff yn y drych mewn ffordd bositif

Stopia siarad yn negyddol am dy hun

Gall hunan-siarad negyddol, fel dweud neu feddwl nad wyt ti’n ddigon tenau, bod dy bidyn yn rhy fach, neu dy fronnau yn simsan, fod yn niweidiol iawn i dy hunan-barch. Gall hyn fod yn rhwystr mawr i ti deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus yn dy gorff pan rwyt ti ar ben dy hun, neu pan rwyt ti’n agos at rywun arall.

Ceisia fod yn ymwybodol ac yn onest gyda dy feddyliau am olwg dy hun a golwg pobl eraill hefyd. Pan rwyt ti’n cychwyn cael syniadau negyddol, heria hynny gyda datganiadau positif.

Deud wrth dy hun bod dy gorff yn unigryw, yn gryf, yn brydferth ac yn helpu ti i fyw dy fywyd. Atgoffa dy hun bod chdi a dy gorff yn haeddu cariad a derbyniad. Mae’n debyg na fydd hyn yn digwydd dros nos. Efallai bydd angen ymarfer lot dros gyfnod hir, ond mae bod yn garedig i dy hun yn gallu helpu ti i newid dy ffordd o feddwl ac arwain at ddelwedd fwy positif o’r corff.

Delwedd y corff yn amharu ar berthynas

Os yw’r ffordd rwyt ti’n teimlo am dy gorff yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus pan rwyt ti’n cael yn agosach yn rhywiol at rywun, yna mae bod yn agored ac yn onest gyda dy hun a dy bartner(iaid) am dy deimladau yn gallu helpu. Mae’n debyg bod unrhyw berson rwyt ti’n agos atynt yn meddwl dy fod di’n ddeniadol.

Ceisia beidio canolbwyntio ar dy edrychiad a chanolbwyntio ar y profiad o fod yn agos at rywun. Canolbwyntia ar dy emosiynau a’r teimladau. Bydda’n bresennol yn y foment wrth feddwl am dy holl synhwyrau – cyffwrdd, blasu, arogli, gweld a chlywed.

Gwybodaeth bellach

Os wyt ti eisiau dysgu mwy am ryw ac aros yn ddiogel wrth gael rhyw, chwilia am ffynonellau gallet ti ymddiried ynddynt.

Meic contact details banner

Siarad â Meic

Os wyt ti’n meddwl bod dy ddelwedd di’n cael effaith ar dy iechyd meddwl, chwilia am gefnogaeth gan oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Neu, os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda neb, yna gallet ti gysylltu gyda Meic. Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.