x
Cuddio'r dudalen

Poeni am Amherffeithrwydd: Dysmorffia’r Corff a Ti

Mae’n gwbl normal i rywun boeni am y ffordd maent yn edrych, ond i rai, gall y teimladau yma gymryd drosodd a gwneud iddynt deimlo’n ofnadwy am eu hunain. Hunanymwybyddiaeth isel neu rywbeth mwy difrifol fel dysmorffia’r corff yw hyn?

Dysmorffia’r Corff

Anhwylder Dysmorffia’r Corff yw pan fyddi di’n obsesu dros rywbeth rwyt ti’n ystyried fel nam yn dy edrychiad. Efallai nad yw’n amlwg i eraill. Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn ‘vain’ – mae’n gyflwr iechyd meddwl sydd yn gallu achosi rhywun i deimlo’n bryderus ac yn hunanymwybodol. Mae hyn yn gallu cael effaith ar bopeth, o’r ffordd rwyt ti’n cymdeithasu i dy drefn ddyddiol, sydd yn ei wneud yn anodd mwynhau bywyd.

Teenage girl with glasses looking into the mirror at reflection

Arwyddion o ddysmorffia’r corff:

  • Treulio oriau yn obsesu dros y ffordd rwyt ti’n edrych yn y drych neu arwynebau adlewyrchol
  • Cymharu dy hun ag eraill drwy’r adeg a rhoi dy hun i lawr mewn cymhariaeth
  • Ymddygiad ailadroddus fel ymbincio, edrych yn y drych, neu bigo’r croen trwy’r adeg
  • Teimlo’r angen i guddio dy ‘ddiffygion’ gyda cholur, dillad, neu newid y ffordd ti’n dal dy hun
  • Osgoi sefyllfaoedd neu weithgareddau cymdeithasol am dy fod yn poeni am y ffordd rwyt ti’n edrych

Os yw rhai o’r sefyllfaoedd uchod yn gyfarwydd i ti, nid yw’n golygu bod gen ti ddysmorffia’r corff. Ond os yw’r pethau yma yn effeithio’n negyddol ar dy fywyd dros gyfnod hir, mae’n syniad siarad â’r meddyg i weld pa help sydd ar gael.

Woman using eyelash curler in front of mirror

Taclo hunanymwybyddiaeth

Nid yw bod yn hunanymwybodol yn golygu bod gen ti ddysmorffia’r corff. Nid yw’n anarferol i rywun fod yn anhapus â’u hedrychiad weithiau. Dyma ychydig o gyngor gall helpu:

Gweld y realiti
Cama i ffwrdd o’r drych (neu’r camera ar dy ffôn) am eiliad. Gofyn i ffrind agos neu aelod teulu os ydynt yn gweld yr un diffyg ag yr wyt ti’n poeni amdano. Mae’n debyg nad ydynt yn ei weld yn yr un ffordd.

Detocs cyfryngau cymdeithasol
Paid â chredu popeth ar gyfryngau cymdeithasol. Nid bywyd go iawn yw’r lluniau prydferth yna sydd â ffilter ac wedi’u golygu! Stopia ddilyn cyfrifon sydd yn gwneud i ti deimlo’n ddrwg am dy hun. Llenwa dy ffrwd gyda phobl sydd yn hyrwyddo positifrwydd y corff ac sy’n dathlu gwahaniaethau.

Canolbwyntia ar y pethau ti’n caru
Yn hytrach nag obsesu dros ‘ddiffygion’, ysgrifenna’r hyn ti’n hoffi am dy hun, fel caredigrwydd, hiwmor, a thalentau fel chwaraeon neu gelf a chrefft. Mae mwy i ti na’r ffordd rwyt ti’n edrych (neu’n meddwl ti’n edrych).

Siarad â rhywun
Paid cadw pethau i mewn. Mae siarad gyda ffrind, teulu, therapydd neu gwnselydd yn gallu helpu ti i weld pethau’n wahanol a datblygu ffyrdd iachach i ymdopi.

Teary person with mascara smudged around the eyes staring at themselves in the mirror

Darganfod cymorth

Os wyt ti’n stryglo gyda dysmorffia’r corff, nid wyt ti ar ben dy hun. Mae adnoddau ar gael yng Nghymru i helpu:

Llinell Gymorth Meic
Yma i wrando heb farnu. Llinell gymorth gyfrinachol am ddim, felly gallet ti sgwrsio am unrhyw beth sy’n dy boeni. Ffonia ar 080880 23456 neu sgwrsia â ni ar-lein. Gallet ti hefyd edrych ar ein tudalennau Cael Help Iechyd Meddwl a Lles.

GIG 111 Cymru
Darparu gwybodaeth a chyfeirio at opsiynau cefnogi yn dy ardal. Ffonia 111 neu cer i’w gwefan am adnoddau iechyd meddwl.

OCD Action
Cynnig cymorth ac adnoddau i bobl ag OCD ac anhwylderau cysylltiedig, gan gynnwys dysmorffia’r corff. Gwybodaeth ar eu gwefan neu ffonia’r llinell gymorth ar 0300 636 5478.

Mind Cymru
Yn cynnig gwybodaeth a chymorth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl amrywiol, gan gynnwys dysmorffia’r corff. Edrycha ar y wefan am adnoddau.