x
Cuddio'r dudalen

Canllaw i Anhwylderau Bwyta a Ble i Gael Cymorth

Mae anhwylderau bwyta yn gyflyrau iechyd meddwl cymhleth a all effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oed, rhyw neu gefndir. Ceir gwybodaeth bellach yma, sut i ddeall y symptomau a ble i gael cymorth.

Mae’r cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol cyfoes yn aml yn cynnwys sylwadau am gyrff pobl, weithiau’n bositif, yn aml yn negyddol. Gall y math yma o sylw gael effaith ar rai pobl a’r ffordd maent yn meddwl am eu corff, a gall hyn weithiau arwain at anhwylderau bwyta.

Beth yw anhwylderau bwyta?

Wyt ti erioed wedi sefyll o flaen y drych a theimlo fel ei fod yn barnu ti? Gall hyn fod yn frwydr ddyddiol i rywun ag anhwylder bwyta. Mae’r drych yn gallu bod yn feirniad llym iawn, yn tynnu sylw at bopeth ti’n casáu am dy hun ac yn gwneud i ti deimlo fel nad wyt ti’n ddigon da.

I rai, gall pob pryd fod yn her. Gall fod yn gêm feddyliol gyda rheolau ac euogrwydd. Mae’n anodd mwynhau dy fwyd os wyt ti wastad yn ofni magu pwysau.

Nid dewis yw anhwylder bwyta. Nid bod yn ‘vain’ wyt ti, nid yw’n ymwneud a bwyd chwaith mewn gwirionedd. Mae’n gorfforol, yn emosiynol, ac yn seicolegol. Fel arfer, mae anhwylder bwyta yn ymwneud â bod â rheolaeth a cheisio bod yr hyn rwyt ti’n ystyried yn “berffaith”.

broccoli vegetable tipping seesaw depicting eating disorders

Anhwylderau bwyta cyffredin

Tri math cyffredin o anhwylderau bwyta yw:

Anorecsia nerfosa: Ofn magu pwysau, sy’n arwain at gyfyngu’r bwyd rwyt ti’n bwyta a mynd yn denau iawn.

Bwlimia Nerfosa: Gorfwyta mewn pyliau ac yna gwneud pethau fel chwydu neu ymarfer corff yn ormodol.

Anhwylder gorfwyta mewn pyliau: Bwyta llawer o fwyd yn gyflym a theimlo fel nad oes gen ti reolaeth.

Fork wrapped in measuring tape on green background. Eating disorder concept

Arwyddion a Symptomau

Sut wyt ti’n gwybod oes wyt ti, neu rywun agos i ti, yn dioddef o anhwylder bwyta?

Cadwa olwg am y pethau canlynol: 

  • Newid amlwg mewn pwysau
  • Meddwl am fwyd, pwysau, neu sut rwyt ti’n edrych drwy’r adeg
  • Newidiadau mewn arferion bwyta fel prydau bach iawn neu osgoi prydau
  • Yn aml yn mynd i’r toiled ar ôl bwyta
  • Gorwneud ymarfer corff
  • Tynnu yn bell oddi wrth ffrindiau a gweithgareddau
  • Teimlo’n benysgafn ac yn flinedig
  • Sylwi ar newidiadau corfforol fel ewinedd brau
Apple core staring into mirror seeing full apple - body dysmorphia/eating disorder concept

Cael help

Os wyt ti neu rywun ti’n adnabod yn cael trafferth ag anhwylder bwyta, mae’n bwysig chwilio am gymorth a chofio nad wyt ti ar ben dy hun. Mae gwella yn siwrne, ac mae’n iawn gofyn am help.

Cer i wefan Beat am wybodaeth a chefnogaeth.

Cysyllta â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol fel dy ddoctor neu oedolyn fedri di ymddiried ynddynt i drafod dy bryderon. Efallai y byddant yn cyfeirio ti at arbenigwr sydd â mwy o wybodaeth ac yn gallu cynnig cymorth gwell i ti. Unwaith y byddi di’n derbyn cymorth, fedri di  archwilio opsiynau triniaeth, sydd fel arfer yn cynnwys cyfuniad o gymorth meddygol, maethol a therapiwtig.

Cer i’n tudalen Hunanddelwedd a Hunan-barch am wybodaeth bellach, dolenni a blogiau eraill.

Os hoffet ti siarad yn gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, siarada â Meic. Mae Meic yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc Cymru, yn agored o 8yb tan hanner nos. Gallet ti gysylltu â chynghorwyr cyfeillgar am ddim ar y ffôn (080 880 23456) neu sgwrs ar-lein.