Hawl i Beidio Cael Dy Fwlio
Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol ar gyfer Wythnos Gwrth-fwlio 2018 pan gafwyd ymgyrch bwlio ar Meic gydag erthyglau a fideos. Edrycha ar y dolenni i’n herthyglau eraill ar waelod yr erthygl yma wrth iddynt ymddangos yn ystod yr wythnos.
To read this article in English click here.
Mae’n siŵr dy fod di’n deall bod gen ti hawliau fel person ifanc, ond pa mor gyfarwydd wyt ti â nhw? I nodi Wythnos Gwrth Fwlio 2018 rydym am edrych ar sut gall dy hawliau amddiffyn ti rhag bwlio.
Os wyt ti’n ansicr o dy hawliau gad i mi egluro’n sydyn amdanynt. Mae yna beth o’r enw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac yn hwn mae yna 42 o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed o amgylch y byd. Mae’r hawliau yno i’th amddiffyn. Maent yn darparu’r pethau rwyt ti eu hangen i oroesi a datblygu ac i leisio dy farn ar y pethau sy’n cael effaith arnat ti. Mae Cymru wedi gwneud y CCUHP yn rhan o’i gyfraith. Golygai hyn fod rhaid i bawb wneud pethau i amddiffyn dy hawliau.
Dy Hawliau
Yn hytrach nag un hawl yn amddiffyn ti o fwlio, mae yna lawer o hawliau gwahanol. Pan fydd y rhain yn cael eu rhoi at ei gilydd maent yn gweithio i amddiffyn ti rhag bwlio, yn sicrhau bod rhaid i bobl weithredu arno. Fel nad oes rhaid i ti ddarllen trwy 54 erthygl y CCUHP, rydym wedi rhestru’r rhai perthnasol i fwlio isod:
- Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael ei amddiffyn o unrhyw ffurf o wahaniaethu gan gynnwys hil, lliw croen, rhyw, iaith, crefydd neu anabledd (Erthygl 2)
- Dylai pob person sydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc wneud yr hyn sydd orau i bob plentyn drwy’r adeg (Erthygl 3)
- Dylai’r llywodraeth sicrhau bod yr holl hawliau yma ar gael i bob plentyn (Erthygl 4)
- Hawl i:
- – fywyd ac i dyfu i fod yn iach (Erthygl 6)
– gael gwybodaeth (Erthygl 13)
– ddilyn crefydd dy hun (Erthygl 14)
– gyfarfod â ffrindiau ac ymuno â grwpiau a chlybiau (Erthygl 15)
– breifatrwydd (Erthygl 16)
– ddysgu a mynd i’r ysgol (Erthygl 28)
– fod y gorau gallet ti fod (Erthygl 29)
– ddefnyddio iaith dy hun (Erthygl 30)
– ymlacio a chwarae (Erthygl 31)
Beth mae hyn yn ei olygu?
Golygai hyn bod yna lawer o hawliau i’th amddiffyn rhag cael dy fwlio. Dylai dy ysgol fod yn glynu at safonau gofal y llywodraeth i amddiffyn dy ddiogelwch. Dylen nhw fod yn dy gefnogi a’th amddiffyn fel nad wyt ti’n cael dy wahaniaethu a bod yr holl hawliau uchod yn cael eu hamddiffyn.
Mae yna sawl cyfraith yn y DU sydd yn gallu dy amddiffyn rhag bwlio. Mae unrhyw drais, ymosodiad, lladrad, harasio neu frawychiad parhaus yn anghyfreithlon. Gellir adrodd y rhain at yr heddlu. Yng Nghymru, mae posib cyhuddo rhywun o drosedd o 10 oed ac mae trosedd yn drosedd, pa un ai yw’n digwydd yn yr ysgol, neu y tu allan i’r ysgol.
Bwlio yn yr ysgol
Mae pob ysgol, yn ôl y gyfraith, yn gorfod cael polisi gwrth-fwlio. Gallet ti ofyn i gael gweld hwn (efallai ei fod ar wefan yr ysgol yn barod). Mae’n rhaid i’r ysgol ddilyn cyfreithiau gwrth-wahaniaethu hefyd, ac felly mae’n rhaid i’r holl staff weithredu pan ddaw at wahaniaethu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd cyfreithiol-rwym i ysgolion am yr hyn sydd yn rhaid gwneud ynglŷn â bwlio. Mae’n rhaid i bob athro lynu at y cyfarwyddiadau yma i amddiffyn dy lesiant:
Mae gan bob dysgwr ym mhob ysgol yr hawl i ddysgu heb ofn cael eu bwlio, beth bynnag yw’r math hwnnw o fwlio. Mae’n rhaid i bawb sy’n ymwneud ag addysg dysgwr gydweithio i sicrhau mai dyna beth sy’n digwydd. Mae’n rhaid i ysgolion fynd ati’n weithredol i ymdrin â phob math o fwlio, a dylen nhw gymryd camau i atal ymddygiad bwlïaidd yn ogystal ag ymateb i ddigwyddiadau pan fyddan nhw’n codi – Parchu Eraill: Trosolwg Gwrth-fwlio 2011
Mae’n rhaid i bob ysgol gael polisïau i atal ac ymdrin â bwlio, ac i gyrraedd eu cyfrifoldebau cyfreithiol – sydd yn cynnwys amddiffyn dy hawliau. Mae athrawon yn gorfod cymryd pethau o ddifrif, mae’n rhaid iddynt wrando arnat ti ac mae’n rhaid iddynt weithredu i’th amddiffyn.
Galwa Meic
Os poeni am fwlio ac eisiau siarad gyda rhywun am y peth, yna rho alwad i ni yma yn Meic (neu tecst neu IM). Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn hapus i helpu a’th arwain i’r llefydd gall helpu.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.