x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Torri’r Distawrwydd: Camdriniaeth a Thrais Rhywiol

Mae’n gallu bod yn anodd iawn i siarad am gamdriniaeth a thrais rhywiol, ond nid wyt ti ar ben dy hun. Os wyt ti angen cymorth, yna mae yna lawer o bobl a gwasanaethau sydd yn gallu helpu a chynnig cyngor.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae dolenni i holl flogiau’r ymgyrch yma, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.

Beth yw camdriniaeth a thrais rhywiol?

Camdriniaeth a thrais rhywiol yw unrhyw fath o weithred neu weithgaredd rhywiol digroeso. Mae’n rhaid i bobl roi caniatâd i ryw – mae’n rhaid i’r person arall fod â’r rhyddid â’r gallu i ddweud ia (mwy am ganiatâd yn ein blog)

Mae trais rhywiol yn gallu cynnwys:

  • Rêp – pan fydd person ddim yn rhoi caniatâd i gael rhyw
  • Trais rhywiol – pan fydd rhywun yn cael ei gyffwrdd mewn ffordd rywiol neu yn cael ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithred rywiol heb roi caniatâd
  • ‘Upskitrting’ – tynnu llun o dan ddillad rhywun heb iddynt wybod
  • Harasio rhywiol – ymddygiad rhywiol digroeso tuag at rywun sydd yn achosi iddynt deimlo’n ypset, ofn, ddig neu gywilydd
  • Porn dial – rhannu delweddau neu fideos rhywiol gydag eraill neu yn gyhoeddus
  • Stelcio – obsesu dros rywun, gall gynnwys dilyn, ymyrryd gydag eiddo neu ddwyn hunaniaeth (identity theft)
  • Masnachu rhyw (masnachu pobl/caethwasiaeth fodern) – symud rhywun i mewn, neu o gwmpas, y wlad i’w hecsbloetio’n rhywiol wrth fygwth, addewidion ffug neu dwyll
  • Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) – newid neu dynnu genitalia benywod yn fwriadol at bwrpas diwylliannol, crefyddol neu gymdeithasol

Mwy am bob un o’r rhain ar wefan UK Says No More.

Wyneb merch dienw yn y cysgod

Pwy sydd yn rhan o hyn?

Gall ddigwydd i rywun, beth bynnag yw eu hoed, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw, a chefndir.

Mae’n gallu cael ei wneud gan rywun diarth, ond mae’r mwyafrif o achosion o drais rhywiol yn cael ei wneud gan rywun maent yn adnabod. Gall hefyd ddigwydd pan rwyt ti mewn perthynas. Nid yw bod mewn perthynas yn golygu bod gan rywun hawl i wneud unrhyw beth ar unrhyw amser i ti.

Darganfod Man Diogel

Os wyt ti’n dioddef o gamdriniaeth neu drais rhywiol neu ddomestig, mae yna fannau diogel i fynd am help. Mae ‘Safe Spaces’ yn gynllun sydd yn darparu mannau diogel mewn dros 7,000 o fanciau, fferyllfeydd ac archfarchnadoedd yn y DU.

Gall unrhyw berson sydd yn profi camdriniaeth neu drais fynd i fan diogel a chael gwybodaeth am gymorth. Gallant hefyd helpu ti i ffonio llinell gymorth, gwasanaeth cefnogol, ffrindiau neu deulu. Darganfod dy Fan Diogel agosaf yma.

Mae Mannau Diogel Ar-lein yn borth ar-lein ble gall pobl dderbyn cefnogaeth. Ni fydd yn dangos ar dy hanes pori. Clicia yma i ddarganfod mwy am Fannau Diogel Ar-lein.

Gofyn am ANI os wyt ti mewn perygl

Mae llawer o’r mannau diogel yn y DU hefyd yn cynnig y gwasanaeth ‘Gofyn am ANI‘. Mae ANI yn golygu Angen Gweithredu ar Unwaith (Action Needed Immediately) ac mae’n hysbysu’r person dy fod di angen help ar unwaith. Bydd aelod o staff yn symud ti i le preifat ac yna’n helpu ti i ffonio’r heddlu, llinell gymorth camdriniaeth ddomestig, teulu neu ffrindiau.

Dwylo yn gafael mewn dwylo rhywun arall yn cefnogi

Cymorth am gamdriniaeth hanesyddol

Nid oes rhaid i gamdriniaeth neu drais fod yn ddiweddar er mwyn i ti dderbyn help. Mae profiadau’r gorffennol yn gallu cael effaith enfawr arnat ti heddiw. Fedri di dal gael help a chefnogaeth. Edrycha ar y dolenni gwybodaeth isod i ddarganfod y gwasanaeth gorau i helpu.

Helpu rhywun arall

Os wyt ti’n adnabod rhywun sydd yn profi, neu wedi profi, camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, yna annog iddynt siarad â rhywun a chwilio am help. Rhanna’r erthygl yma a’r dolenni isod gydag unrhyw sydd angen cefnogaeth. Efallai nad ydynt yn ymwybodol bod angen cymorth arnynt.

Mae posib lawr lwytho’r app Bright Sky hefyd. Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth os wyt ti’n poeni am rywun. Gall helpu ti i ddeall arwyddion camdriniaeth ac yn awgrymu’r ffordd orau i ymateb a sut i gael cefnogaeth.

Gwybodaeth bellach

  • Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau – ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.
  • Byw Heb Ofn – Llinell gymorth yn darparu help a chyngor am drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
  • Cymorth i Ferched – elusen yng Nghymru yn gweithio i  roi diwedd ar drais yn erbyn merched a genethod
  • Men’s Advice Line – llinell gymorth i ddynion/bechgyn sydd yn dioddef o gamdriniaeth ddomestig
  • Galop – elusen LHDT+ yn erbyn camdriniaeth yn gweithio gydag ac ar ran dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth a thrais sydd yn LHDT+
  • Survivors UK– cynnig cwnsela i gefnogi goroeswyr camdriniaeth rywiol, ymosodiad rhywiol neu rêp gwrywaidd ac anneuaidd (non-binary)
  • Rape Crisis  – gwybodaeth a chymorth arbenigol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan rêp, ymosodiad rhywiol, harasio rhywiol a phob ffurf arall o gamdriniaeth a thrais rhywiol
  • NSPCC Camdriniaeth Rywiol – gwybodaeth am gamdriniaeth rywiol plant, sut i’w adnabod a chefnogi plentyn sydd yn ddioddefwr
  • Mannau Diogel – darparu mannau diogel i bobl sydd yn profi camdriniaeth yn y cartref. Byddant yn helpu ti i ymestyn allan i ffrindiau a theulu a chysylltu â gwasanaethau cefnogol arbenigol. Darganfod Man Diogel yn agos i ti yma
  • Llinell Gymorth Porn Dial – yn cefnogi dioddefwyr porn dial dros 18 oed
  • Llinell Gymorth Stelcio Cenedlaethol – gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ddioddefwyr stelcio. Yn cynnwys y teclyn ‘Am I being stalked?’ i weld os yw’r hyn rwyt ti’n profi yn stelcio
  • Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern – helpu dioddefwyr i gael mynediad i wasanaeth cefnogol, adrodd unrhyw bryderon, a chyngor am gamdriniaeth, ecsploetiaeth neu gaethwasiaeth fodern
  • NSPCC FGM – cyngor a manylion cyswllt am y llinell gymorth FGM
  • NSPCC camdriniaeth sydd ddim yn ddiweddar – gwybodaeth a chefnogaeth i’r rhai a gafodd eu cam-drin yn iau ac sydd yn ei chael yn anodd ymdopi gyda’r hyn ddigwyddodd

Siarad â Meic

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.