Diwrnod Cofio’r Holocost: Cofio’r Gorffennol i Greu Dyfodol Gwell

Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, rydym yn cofio’r miliynau o bobl lladdwyd yn yr Holocost a hil-laddiadau eraill, gan gynnwys y trychineb yn Srebrenica.
Beth yw hil-laddiad
Hil-laddiad (genocide) yw pan fydd rhywun yn ceisio dinistrio grŵp cyfan o bobl oherwydd pwy ydynt. Gall hyn fod oherwydd eu hil, crefydd, cenedligrwydd, neu o ble maent yn dod. Y bwriad yw dileu grŵp cyfan o bobl.
Roedd yr Holocost a Srebrenica yn hil-laddiadau. Maent yn dangos yr hyn gall ddigwydd pan fydd casineb yn mynd yn rhy bell, a pam ei bod yn bwysig amddiffyn y bobl sydd mewn perygl.
Beth ddigwyddodd yn yr Holocost?
Digwyddodd yr Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan roedd y Natsïaid, a oedd mewn grym yn yr Almaen, yn bwriadu lladd pob person Iddewig yn Ewrop. Roedden nhw’n meddwl eu bod nhw’n well na phawb arall, yn enwedig Iddewon. Gelwir y math yma o gasineb yn wrth-semitiaeth (teimlo casineb neu’n rhagfarn tuag at bobl Iddewig).
Gosodwyd deddfau annheg i dynnu hawliau bobl Iddewig oddi wrthynt. Cafodd nifer fawr iawn o Iddewon eu gyrru i wersyll-garchar (concentration camps), fel Auschwitz-Birkenau, ble cafodd miliynau eu lladd.
Rhyddhaodd milwyr y bobl yn Auschwitz ar Ionawr 27, 1945, ac fe welodd y byd i gyd weithrediadau erchyll y Natsïaid. Dyma pam cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn ac mae eleni’n nodi 80 mlynedd ers rhyddhau’r Iddewon o’r gwersyll-garcharau.
Beth ddigwyddodd yn Srebrenica?
Yn 1995, yn ystod rhyfel ym Mosnia, lladdwyd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd gan filwyr lluoedd Serbiad Bosnia mewn lle o’r enw Srebrenica.
Roedd y lladdfa (massacre) yn Srebrenica yn dangos bod pobl yn parhau i ddefnyddio trais ac yn lladd mewn ffyrdd erchyll hyd yn oed mewn cyfnod mwy diweddar. Mae eleni yn nodi 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia.
Pam cofio?
Mae cofio’r digwyddiadau yma yn ein helpu i ddeall pa mor beryglus yw casineb a pam ei fod yn bwysig trin eraill gyda pharch.
Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, rydym yn cofio’r bobl fu farw yn y digwyddiadau erchyll yma, ond rydym hefyd yn cofio pa mor gryf oedd y goroeswyr. Er eu bod nhw wedi byw drwy bethau hunllefus, llwyddodd nifer fawr ohonynt i gael y cryfder i ail gychwyn eu bywydau a helpu creu dyfodol gwell.
Mae eu hanesion yn dangos i ni fod yna obaith, hyd yn oed yn y cyfnodau anoddaf. Mae’r straeon yma yn ein hysbrydoli i ddysgu o weithrediadau’r gorffennol a cheisio atal pethau tebyg rhag digwydd eto.
Beth fedri di wneud i helpu?
Wrth ddeall pam bod hil-laddiad yn digwydd (rhagfarn, gwahaniaethu, a chasineb) gallem geisio brwydro’r pethau yma yn ein cymunedau ac ar-lein. Gall gwneud y pethau bychain, fel dangos caredigrwydd a thynnu sylw wrth weld pethau annheg, wneud gwahaniaeth mawr. Wrth weithio gyda’n gilydd gallem helpu i greu byd sydd yn fwy goddefgar a chynhwysol i bawb.
Darganfod cymorth
Gall dysgu am drychinebau hanesyddol a’r brwydro parhaus yn erbyn rhagfarn a chasineb fod yn heriol iawn i rywun yn emosiynol. Os wyt ti wedi dy effeithio gan unrhyw beth yn y blog yma, neu os hoffet siarad gyda rhywun am syniadau sut i herio anghyfiawnder a hyrwyddo cydraddoldeb yn ddiogel, yna mae Meic yma i helpu.
Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc Cymru. Gellir cysylltu â Meic am ddim, dros y ffôn, neges WhatsApp, neges destun, neu sgwrs ar-lein, i siarad am unrhyw beth sydd ar dy feddwl. Efallai dy fod di’n teimlo fel bod pethau’n ormod, neu eisiau rhywun i wrando, neu’n awyddus i chwilio am ffyrdd i wneud gwahaniaeth positif yn dy gymuned, mae Meic ar gael i gynnig cefnogaeth ac arweiniad.
