x
Cuddio'r dudalen

Seiberfwlio: Stop Siarad Cefnogi

Eleni mae’r Anti-Bullying Alliance (y bobl sy’n gyfrifol am Wythnos Gwrth-fwlio) yn cynnal y diwrnod gwrth-seiberfwlio ‘Stop Speak Support‘ ar 15fed Tachwedd (heddiw os wyt ti’n darllen hwn ar y diwrnod mae’n cael ei gyhoeddi!)

To read this article in English click here.

Giph scared USB for stop speak support article

Pam cynnal y diwrnod yma?

Mae ‘Stop Speak Support’ yn cael ei gefnogi gan y Royal Foundation a’r Royal Cyberbullying Taskforce, gyda’r bwriad o amlygu’r broblem o seiberfwlio. Yfory, byddem yn rhannu cyngor Meic yn ein herthygl 10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio. Tyrd yn ôl bryd hynny i ddarganfod mwy.

Mae yna gynyddiad mawr wedi bod yn y nifer o blant a phobl ifanc sy’n chwilio am help gyda seiberfwlio. 88% dros gyfnod o 5 mlynedd (cyfeirnod). Gyda chynyddiad o’r fath mae’n gwneud synnwyr i ni edrych ar ffyrdd i daclo seiberfwlio a cheisio gwneud i bobl feddwl mwy cyn postio pethau ar-lein.

Beth ydy Stop Speak Support?

Cafodd ‘Stop Speak Support’ ei lansio yn 2017 fel cod ymddygiad i blant a phobl ifanc. Roedd yna animeiddiadau ac adnoddau ar gael gyda’r bwriad o newid ymddygiad ar-lein. Eleni, mae’r ymgyrch wedi cael ei chynnwys fel rhan o Wythnos Gwrth-Fwlio, yn cael diwrnod arbennig ei hun.

Dehongli’r cod

Stop – stopia i feddwl cyn i ti gymryd rhan yn unrhyw beth ar-lein. Cyn i ti bwyso’r botwm hoffi neu rannu yna, ystyried y peth o ddifrif. Ydy hyn yn negyddol? Oes yna ochr arall i’r stori yma? Pa mor deg ydyw? Dilyna rheolau’r wefan cyfryngau cymdeithasol rwyt ti’n ei ddefnyddio.

Siarad – Dweud wrth rywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni di ar-lein. Siarada gydag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Defnyddia’r camau adrodd sydd ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol. Siarada gyda ni yma ym Meic, y llinell gymorth Eiriolaeth a Gwybodaeth Genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gallem helpu ti i gael at yr help sydd ei angen arnat.

Cefnogi – Cefnoga’r rhai sydd yn cael eu bwlio gyda neges gefnogol a phositif. Anoga nhw i siarad gyda rhywun gallan nhw ymddiried ynddynt, fel rhiant, aelod o’r teulu neu athro. Tynna eu sylw oddi ar y seiberfwlio gan wneud pethau eraill, treulia amser gyda nhw oddi ar y we.

Beth fedri di ei wneud?

Maent yn gofyn i blant a phobl ifanc i rannu a dilyn y cod ar Ddiwrnod ‘Stop Speak Support’. Os wyt ti eisiau rhannu ychydig o bethau hwyl ar dy gyfryngau cymdeithasol cer draw i wefan ‘Stop Speak Support’. Mae yna giphs hwyl i’w rhannu neu gallet ti rannu’r fideo animeiddiad doniol yn edrych ar ‘What to do in the event of a banter escalation scenario‘. Neu gallet ti rannu’r erthygl hon rwyt ti’n ei ddarllen nawr, ymwela â’n tudalen Facebook neu Twitter a chlicia ar y post sy’n cyfeirio at yr erthygl yma i’w hoffi, rhannu neu adael sylwad arno.

Helpa dy rieni i’th gefnogi

Er bod rhieni/gwarchodwyr yn hoffi i ti feddwl eu bod yn gwybod popeth, nid dyma’r gwir (Shh! Paid dweud ein bod wedi datgelu hynny)! Os wyt ti’n meddwl y gallan nhw ddysgu ychydig mwy am seiberfwlio a phethau i wneud â’r rhyngrwyd yna beth am eu cyfeirio’n graff at wefan Internet Matters. Mae yna Hwb Cyngor Seiberfwlio yn rhoi gwybodaeth am sut i gefnogi eu plant yn y ffordd gorau bosib.

Felly dyna ti, Stop Siarad Cefnogi a rhanna!

Mae Meic yma i siarad o hyd am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Galwa, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor.

Ymgyrch Wythnos Gwrth-Fwlio Meic:

6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

Hawl i Beidio Cael Dy Fwlio

Dewis Parch Yn Wythnos Gwrth-fwlio

10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio