x
Cuddio'r dudalen

‘Misogyny’ – Ymladd yn Erbyn Casineb

Efallai dy fod di wedi clywed y gair ‘misogyny’ yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar. Newyddion fel y ‘dylanwadwyr’ Andrew Tate a chyhuddiadau o amgylchedd rhywiaethol, gwenwynig yn Undeb Rygbi Cymru. Ond wyt ti’n deall ei ystyr? Mae’r blog yma yn egluro beth yw ‘misogyny’ a pam dylid ymladd yn ei erbyn, beth bynnag dy ryw.

This article is also availaible in English – click here

Beth yw ‘misogyny’?

‘Misogyny’ yw gwreig-gasineb yn Gymraeg. Mae’n deimlad o gasineb neu ragfarn tuag at ferched, gyda chred bod dynion yn well na merched. Efallai byddi di’n clywed geiriau fel rhagfarn rhyw (sexism) neu wahaniaethu rhyw neu rywiol yn cael ei ddefnyddio hefyd.

Mae ‘misogyny’ a harasio rhywiol yn gysylltiedig. Gall ymddygiad gynnwys galw enwau, cyffwrdd heb ganiatâd ac ymosodiad rhywiol.

Mae rhai yn credu bod ‘misogyny’ yn endemig (yn barhaol) o’n cwmpas – mewn ysgolion, gartref, chwaraeon, ar-lein ayb.

Dyma gasgliad bach o ymddygiad gwreig-gasol tuag at ferched yn yr ysgol neu goleg:

  • Galw merch yn hwran neu’n slwt
  • Gwneud sylwadau rhywiol
  • Gwthio, palfalu, rwbio yn erbyn neu cydio
  • Mynnu lluniau noeth a bod yn gas os nad yw’r ferch yn gyrru
  • ‘Banter’ – “mae bechgyn yn gryfach nag merched” neu “yn y gegin yw lle merch”
  • Cred nad yw barn rhywun yn bwysig am mai merch yw hi
  • Gwneud sylwadau ar gorff rhywun
  • Gwneud jôcs am gamdriniaeth a thrais rhywiol – “mae angen iddi gael ei threisio i’w rhoi yn ei lle'”
  • Tynnu lluniau i fyny sgert
  • Beio’r dioddefwr – “roedd hi’n gofyn amdani wedi gwisgo fel yna” neu “mae’n rhaid bod hi wedi gwneud rhywbeth i wneud iddo wneud hynna”
  • Rhannu lluniau neu fideos rhywiol o ferched rhwng ffrindiau neu ar-lein
  • ‘Slut Shaming’ – codi cywilydd ar ferched sydd yn gyrru lluniau noeth neu sydd yn cael perthynas rhywiol
  • Sylwadau fel “ti’n edrych yn ddelach pan ti’n gwenu”
  • Chwibanu ar ferched (wolf whistle)

Pa mor gyffredin yw hyn?

Mae Adroddiad Aflonyddu Rhywiol gan UN Women United Kingdom yn dweud bod 86% o ferched 18-24 yn dweud eu bod wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol mewn gofodau cyhoeddus. Yn ogystal, mae ymchwil gan Plan International UK yn dweud bod 58% o ferched 14-21 oed wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol mewn gosodiadau addysg.

Mae adroddiad gan UK Feminista a’r NEU yn datgan bod gwreig-gasineb yn gyffredin iawn yn ysgolion y DU, gyda 64% o athrawon yn dweud eu bod yn clywed iaith rywiaethol yn yr ysgol yn wythnosol o leiaf.

Mae gwefan Everyone’s Invited yn llawn tystiolaeth gan bobl sydd yn rhannu eu profiad o gamdriniaeth ac aflonyddu rhywiol mewn gosodiadau addysg yn y DU. Maent wedi gorfod stopio cyhoeddi profiadau newydd ar y wefan gan nad yw’n bosib ymdopi gyda’r nifer o dystiolaeth sydd yn cael ei gyflwyno, gyda dros 50 mil o brofiadau wedi eu rhannu eisoes.

Pam bod ymddygiad gwreig-gasol yn yr ysgol yn broblem?

Mae adroddiad Estyn – ‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon‘ – yn dweud bod aflonyddu rhywiol yn cael ei normaleiddio mewn ysgolion a bron bod disgwyl hynny. Oherwydd hyn, a’r gred bod athrawon ddim yn cymryd y peth o ddifrif, nid yw disgyblion yn adrodd ymddygiad gwreig-gasol.

Beth os nad oes canlyniadau i’r math yma o ymddygiad mewn ysgolion? Mae’n normaleiddio’r ymddygiad yma. Gall hyn wedyn feddwl bod y plentyn yn tyfu i fod yn oedolyn sydd â’r un farn. Mae hyn yn gallu bod yn niweidiol i ferched, yn arwain at iselder a hunan-barch gwael a’u hatal rhag gwneud pethau.

Mewn rhai achosion eithafol, os yw bachgen yn credu ei fod yn well nag merched, gall arwain at rêp a chamdriniaeth rywiol.

Beth ddylwn i’w wneud am y peth?

Un o dy hawliau dynol yw rhyddid o wahaniaethu (Erthygl 14 o’r Ddeddf Hawliau Dynol). Mae derbyn hyn yn ei normaleiddio ac yn gwneud i bobl gredu ei fod yn iawn. Paid derbyn hyn. Sefyll yn ei erbyn a dweud wrth rywun os wyt ti’n ei weld neu os yw’n digwydd i ti.

Dylai pawb sefyll yn erbyn ‘misogyny’, nid yn unig y bobl sydd yn dioddef. Bechgyn neu ferched, dylai pawb ddweud na wrth y math yma o ymddygiad. Os wyt ti’n clywed dy ffrindiau yn defnyddio iaith neu ymddygiad gwreig-gasol, yna dweud nad yw hyn yn iawn. Dweud nad yw’n ddoniol, a ni ddylid siarad am ferched fel yna.

Adrodd ef. Dweud wrth rywun os yw’n digwydd i ti. Dweud wrth athro, rhiant, oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt.

Mae camdriniaeth a thrais rhywiol yn drosedd (a rhai achosion o aflonyddu rhywiol hefyd). Os yw hyn wedi digwydd i ti, mae posib adrodd hyn i’r heddlu ar 101. Gallet ti hefyd gysylltu â sefydliad fel Rape Crisis neu Gymorth i Ddioddefwyr.

Os yw rhywun wedi postio llun neu fideo noeth ohonot ti ar-lein, yna defnyddia’r teclyn Report Remove ar wefan Childline. Mae hwn yn declyn i helpu pobl ifanc i dynnu llun neu fideo i lawr o’r rhyngrwyd.

Siarad â Meic?

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.

Os yw’n anodd i ti siarad â rhywun, yna cer draw i’n blog am gyngor, neu siarada gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar ar wefan Meic, fydd yn gallu helpu ti i siarad â rhywun.