x
Cuddio'r dudalen

Dewis Parch Ar Wythnos Gwrth-fwlio

Thema Wythnos Gwrth-fwlio eleni (2018) ydy Dewis Parch dros fwlio ac yma ym Meic rydym yn awyddus i ddysgu mwy am hyn. Byddem yn edrych ar gydraddoldeb, amrywiaeth a pharch a pham bod hyn mor bwysig.

To read this article in English click here.

Yn dilyn ymgynghoriad mawr gyda phlant, athrawon ac aelodau, dywedodd yr Anti-bullying Alliance (y bobl sydd yn trefnu Wythnos Gwrth-fwlio): “Ymddangosai mai’r flaenoriaeth uchaf oedd dangos bod bwlio yn ymddygiad mae rhywun yn ei ddewis, a bod plant a phobl ifanc yn gallu gosod esiampl bositif wrth ddewis i barchu ei gilydd yn yr ysgol, yn eu cartrefi, yn y gymuned, ac ar-lein.”

Diwylliant amrywiol

Mae ein diwylliant a’n cyfreithiau yma yng Nghymru yn rhoi’r rhyddid i ni i fynegi ein hunain ac i fod yr hyn rydym eisiau ei fod. Yng Nghymru fodern anogir i ni gymryd rhan ym mhopeth. Nid ellir dal pobl yn ôl fel yr oeddent yn y gorffennol, yn eithrio oherwydd pethau fel anabledd, hil, rhyw ayb. Mae pobl o ledled y byd wedi penderfynu gwneud eu cartref yma yng Nghymru, gyda phawb yn cyfrannu i dapestri cyfoethog ein diwylliant. Gyda hyn, ynghyd â’n rhyddid, mae yna gymysgedd mawr o bobl ddiddorol ac amrywiol iawn.

Mae cael diwylliant amrywiol yn golygu bod gennym lawer iawn o amrywiaeth yn ein bywydau. Mae yna wahanol fwydydd, amrywiaeth o gerddoriaeth a dawns, pobl anabl yn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon ayb.

Dangos parch

Os oes gennym y rhyddid i fod y person rydym eisiau bod, yn byw mewn diwylliant amrywiol, yna mae’n rhaid cael parch. Mae’n rhaid i ni barchu’r gwahaniaethau yma. Dychmyga sut beth yw bywyd heb yr holl amrywiaeth yn dy gymuned. Meddylia am fwyd, chwaraeon, ffasiwn, cerddoriaeth, dawns, llyfrau a llawer, llawer mwy. Fydda ti’n hoffi byw mewn byd ble mae gen ti’r rhyddid i fod yn ti dy hun, i wrando ar y gerddoriaeth ti’n hoffi, bwyta’r bwyd ti’n mwynhau, gwisgo yn y ffordd ti eisiau? Neu bydda’n well gen ti gael rhywun yn dweud wrthyt ti sut mae’n rhaid i ti wneud pethau?

Meddylia am y wybodaeth uchod a dychmyga ef yn dy fywyd di, yn yr ysgol efallai. Beth am y person yna sydd yn gwisgo ychydig yn wahanol? Yr un sydd ychydig yn ddistaw? Yn siarad iaith wahanol? Gyda bwyd gwahanol yn eu pecyn cinio? Gyda hobi ti’n meddwl sy’n od? Oes ganddyn nhw’r un hawl i fod y person maen nhw eisiau bod?

Cofia bod gan bawb yr un hawliau a rhyddid. Dyw’r ffaith bod rhywbeth yn wahanol i ti ddim yn golygu ei fod yn anghywir. Mae’n bwysig cofio bod pawb yn wahanol, ac mai dyma sydd yn ein gwneud yn unigryw ac yn arbennig. Dyma pam dylid DEWIS PARCH yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio, a phob wythnos arall hefyd.

Dathlu gwahaniaethau

Y wers sydd angen ei dysgu yma ydy i fod yn falch ac yn hyderus yn dy wahaniaethau ac i barchu a dathlu gwahaniaethau mewn eraill.

Cymera’r amser i sylweddoli ar y gwahaniaeth a’r amrywiaeth mewn pobl, y ffordd mae rhywun yn ymddwyn, yn gwisgo, yn meddwl, yn siarad ayb. Yna dathla a mwynha’r gwahaniaethau yma a meddylia sut mae hyn yn eu gwneud nhw’n unigryw ac yn arbennig ac yn ychwanegu i’n diwylliant amrywiol a diddorol.

Os nad wyt ti’n deall rhywbeth, paid dieithrio hyn fel bod yn anghywir neu’n od. Darganfod mwy amdano drwy ofyn. Paid bod ofn y pethau ti ddim yn ei ddeall, dysga amdanynt a dangos diddordeb.

Dewis parch nid bwlio.

Galwa Meic

Os poeni am fwlio ac eisiau siarad gyda rhywun am y peth, yna rho alwad i ni yma yn Meic (neu tecst neu IM). Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar yn hapus i helpu a’th arwain i’r llefydd gall helpu.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.

Ymgyrch Wythnos Gwrth-Fwlio Meic: