x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Banter Rhywiaethol – beth sy’n ormod?

Grŵp o bobl cartŵn gyda un bachgen yn y canol mewn lliw, yn edrych yn benderfynol

Efallai ti’n teimlo bod rhaid i ti wneud sylwadau fel hyn i ffitio fewn gyda dy ffrindiau. Efallai dy fod yn teimlo’n anghyfforddus, ond mae pawb yn dweud mai ‘jôc’ neu ‘dynnu coes’ ydy o, felly mae’n rhaid ei fod yn iawn?

Mae codi llais yn anodd, yn enwedig gyda ffrindiau neu bobl ti’n ‘nabod, ond galli di gael effaith sylweddol ar sut mae pobl yn ystyried cydraddoldeb.

Pwysigrwydd codi llais

Fe allwn ni gyd gymryd cyfrifoldeb am herio sylwadau rhywiaethol (sexist) hyd yn oed os yw’n ‘jôc’ neu ‘dynnu coes’. Mae syniadau, iaith ac ymddygiad sy’n rhagfarnu yn erbyn pobl ar sail rhyw yn gallu cael ei normaleiddio o fewn grŵp ffrindiau, gweithle neu gymuned ar-lein heb i unrhyw un sylweddoli. Pan rydym yn anwybyddu’r sylwadau yma, mae’n rhoi’r argraff eu bod yn dderbyniol.

Dau fachgen yn edrych ar rhywbeth ar ffôn, maent yn edrych yn eitha difrifol.

Be ydi rhagfarn rhyw?

Os wyt ti’n ansicr be ydi rhagfarnu ar sail rhyw, dyma’r diffiniad gan Gyngor Ewrop:

“Unrhyw weithred, ystum, portread gweledol, geiriau ar lafar neu ysgrifenedig, ymarfer, neu ymddygiad sy’n seiliedig ar y syniad bod person neu grŵp o bobl yn israddol oherwydd eu rhyw, sy’n digwydd yn y byd cyhoeddus neu breifat, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb. ”

(Cyngor Ewrop, 2020)

Gall rhagfarn ar sail rhyw fodoli mewn sawl ffurf wahanol. Gall fod yn ragfarn amlwg, rhagfarn sy’n llai amlwg ac anghydraddoldebau systemig. Mae hyn yn effeithio ar sut caiff pobl eu trin ar sail eu rhyw ym mhob agwedd o fywyd yn cynnwys addysg, yn y gweithle ac ym mywyd bob dydd.

Rhagfarn rhyw ym mywyd bob dydd

Mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o ‘Everyday Sexism’. Bathwyd y term gan Laura Bates pan gychwynnodd ei phrosiect ‘Everyday Sexism’ yn 2012. Erbyn heddiw mae degau o filoedd o bobl wedi cyflwyno eu profiadau o ragfarn yn eu bywydau bob dydd. Maent ar gael i’w darllen yma.

Merch yn ei harddegau yn edrych ar ei ffôn ac yn edrych yn eithaf trist.

Pwy mae’n effeithio ac ym mha ffordd?

Mae sylwadau rhywiaethol yn gallu bod yn sawl peth gwahanol. Gall fod yn sylwadau ar gyrff pobl, gwneud sylwadau rhywiol am ferched, gwneud hwyl ar ben dynion am fod yn rhy ‘ferchetaidd’ neu ddefnyddio termau dirmygus am bobl sy’n rhywedd-amrywiol. Mae rhagfarn rhyw yn gallu effeithio pawb, ond mae merched yn tueddu i gael eu heffeithio’n llawer mwy. Mae rhai grwpiau penodol yn cael eu targedu fwy, fel merched o liw, merched ifanc neu ferched mewn gwleidyddiaeth/swyddi cyhoeddus.

Grŵp o ffrindiau yn eistedd ar risiau tu allan yn gwenu ac yn siarad.

Creu Newid

Efallai dy fod yn teimlo’n anghyfforddus am sylwadau fel hyn ond dwyt ti ddim yn siŵr sut i herio pobl eraill, yn enwedig os mai ffrindiau sy’n gwneud y sylwadau. Mae codi llais yn erbyn rhagfarn yn cyfrannu at wneud byd mwy cyfartal a theg i bawb.

Meddylia am y bobl rwyt ti’n eu dilyn ar-lein. Fyddet ti’n teimlo’n gyfforddus yn clywed rhai sylwadau mewn bywyd go iawn? Hyd yn oed os yw’n ffigwr poblogaidd ti’n ei edmygu, dydi hyn ddim yn golygu bod be maen nhw’n ei ddweud yn wir neu’n iawn. Gall yr hyn rydym yn ei glywed a’i weld ar-lein ddylanwadau ar y ffordd rydym yn ymddwyn yn ein bywydau go iawn. Mae’n iawn cymryd seibiant o rai pobl ar-lein. Gallet ti hefyd ddilyn ystod fwy amrywiol o bobl. Mae dysgu o wahanol safbwyntiau yn ffordd wych o helpu ti greu newid.

Galli di herio sylwadau rhagfarnllyd mewn sawl ffordd

Dyma ffyrdd syml o herio sylwadau rhagfarnllyd i gael effaith positif:

  • Paid chwerthin. Dangos nad yw’n jôc i ti – gall wneud i bobl ailfeddwl be maen nhw wedi’i ddweud.
  • Gofyn cwestiynau. Helpa iddynt feddwl am eu sylwadau – “Be’ wyt ti’n feddwl wrth ddweud hynna?” neu “Sut mae hynny’n ddoniol?
  • Dangosa dy anghysur. Gosod ffiniau clir wrth ddweud rhywbeth fel “Dwi ddim yn meddwl bod hynny’n dderbyniol”

Adnoddau ac ymgyrchoedd defnyddiol

Dyma rai adnoddau defnyddiol:

  • Ymgyrch HeForShe #ChangeThePunchline. Herio hiwmor rhagfarnllyd gyda saith comedïwr yn hyrwyddo cynwysoldeb drwy ddefnyddio hiwmor.
  • Dyddlyfr HeForShe – helpu ti adlewyrchu ar dy syniadau am gydraddoldeb a gwrywdod.
  • “Dychmyga Brif Weithredwr. Ai dyn ydy o?” – roedd y negeseuon yma yn rhan o ymgyrch ‘Imagine’ CPB London oedd yn anelu i wneud pobl feddwl am eu tueddiadau yn y gweithle.
  • Prosiect ‘Everyday Sexism’ – catalog o brofiadau pobl o ragfarn yn eu bywydau bob dydd.

Os hoffet ti fwy o gyngor neu wybodaeth cysyllta gyda Meic. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth yn gyfrinachol ac am ddim o 8yb tan hanner nos bob dydd.