x
Cuddio'r dudalen

10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio

Mae seiberfwlio yn rhywbeth sydd yn cael effaith ar lawer o bobl o bob oedran. Gall fod yn llawer anoddach i ddianc ohono o gymharu â bwlio traddodiadol wrth iddo darfu ar dy fywyd adref ar y sgrin fach. Nid oes posib camu i mewn i’r tŷ a chau’r drws arno. Am ffeithiau, awgrymiadau a chymorth seiberfwlio edrycha isod. Gall fod yn fuddiol i ti neu rywun ti’n adnabod.

To read this article in English click here.

1. Gall ddigwydd yn unrhyw le

Mae seiberfwlio yn fath o fwlio sydd yn digwydd ar-lein neu drwy ffôn symudol. Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol neu wasanaethau negeseuo fel Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat, WhatsApp ayb. yn lleoliadau perffaith i seiberfwlïod. Gall ddigwydd hefyd ar gemau ar-lein, negeseuo sydyn neu e-bost.

2. Gall ddigwydd i unrhyw un

Yn ôl adroddiad NSPCC Childline yn 2016 bu cynyddiad o 88% yn y nifer o blant a phobl ifanc yn chwilio am help gyda seiberfwlio dros gyfnod o 5 mlynedd (What children are telling us about bullying – adroddiad bwlio Childline 2016).

Gall ddigwydd am unrhyw reswm, o ffans yn ymosod ar bobl sydd ddim yn hoffi’r un canwr neu fand â nhw, i bobl yn gadael sylwadau ar lun bicini mewn ffordd negyddol.

3. Mae’n dod mewn sawl ffurf

Mae rhai o’r problemau cyffredin sydd yn wynebu dioddefwyr ar-lein yn cynnwys pobl yn clebran neu’n dweud straeon, dwyn manylion personol neu ‘Catfishing’, bygythiadau neu flacmel a fideos a delweddau yn cael eu postio heb ganiatâd.

Mae’r bobl ifanc holwyd ar gyfer yr adroddiad Childline wedi disgrifio: “negeseuon maleisus a niweidiol yn cael ei bostio amdanynt ar eu proffiliau, blogiau, lluniau neu negeseuon ar-lein… o fwlio a sylw sarhaus… i ddweud wrth rywun yn ddi-oed i fynd i ladd eu hunain”.

Mae’n digwydd ar ffonau symudol hefyd, nid yw’n achos syml o allgofnodi er bod llawer o bobl yn meddwl mai dyma’r ateb. Gallwch barhau i dderbyn negeseuon testun, neu alwadau dienw, negeseuon llais ymosodol a manylion personol yn cael ei ddwyn. Mae hyn i gyd yn gyffredin ac, yn fwy nag hynny, yn anghyfreithlon. Gall cyswllt di-baid gyfri fel aflonyddu o dan y Ddeddf Aflonyddu 1997.

4. Nid i ddieithrion yn unig

Mae seiberfwlio yn fath o drais, rheolaeth a phŵer mae un person yn ei roi ar rywun arall. Yn aml, mae hyn yn gallu troi’n drais domestig. Mae Arolwg Diogelwch Ar-lein 2015 Women’s Aid o ddioddefwyr camdriniaeth yn y cartref yn dangos bod 85% o’r rhai gofynnwyd wedi derbyn camdriniaeth ar-lein gan bartner neu gynbartner. Roedd hanner yn dweud bod y gamdriniaeth yma wedi cynnwys bygythiadau uniongyrchol tuag atynt neu tuag at rywun agos atynt.

Mae newidiadau mewn diwylliant yn arwain at nifer mwy o berthnasau ar-lein a phell. Dyw’r ffaith bod hyn yn digwydd drwy sgrin ddim yn golygu nad yw’n gamdriniaeth – os wyt ti’n teimlo’n anghyffyrddus neu’n cynhyrfu am rywbeth mae dy bartner yn ei ddweud, siarada â rhywun.

5. Gallet ti fod yn ddioddefwr ac yn gyflawnwr

Efallai bod sylw amdanat ar-lein wedi codi cynnwrf, neu dy fod di’n cael dy harasio ar y Rhyngrwyd, ond wyt ti wedi stopio i feddwl os wyt ti’n euog hefyd?

Efallai nad wyt ti’n ystyried dy hun yn seiberfwli ond mae gadael sylwad maleisus yma neu acw yn gallu gwneud mwy o ddifrod nag yr wyt ti’n ei feddwl. Mewn perygl o swnio fel dy fam, mae’r frawddeg. “Trin eraill fel yr hoffet gael dy drin” yn wir yma, pa un ai wyt ti ar-lein neu oddi ar lein!

6. Sut i amddiffyn dy hun

Cadwa holl wybodaeth breifat i dy hun bob tro. Paid â phostio lluniau sydd yn gallu datgelu ble rwyt ti’n byw, dy gyfeiriad neu fanylion banc. Efallai bod hyn yn amlwg ond byddet ti’n synnu ar faint o bobl sydd yn postio lluniau o docynnau cyngerdd neu gadarnhad archeb gyda rhif banc/cyfeiriad arno.

Dewisa gyfrinair diogel iawn a’i ysgrifennu yn rhywle diogel iawn. Dewisa gymysgedd o rifau a llythrennau a phaid anghofio defnyddio priflythyren yn rhywle. Cofia – paid datgelu dy gyfrinair i neb.

Gosod dy holl gyfrifon i breifat. Ti sydd yn rheoli pwy sydd yn gweld beth a pwy sy’n cael gadael sylwadau. Mae gan nifer o apiau wasanaethau lleoliad neu geotagging. Os yw’r rhain ymlaen yna bydd pobl yn ymwybodol o dy leoliad pan fyddi di’n postio. Efallai mai’r syniad gorau fydda diffodd pob un.

7. Beth i wneud os wyt ti’n cael dy hacio

Os wyt ti’n meddwl bod dy gyfrif wedi’i hacio, newidia’r cyfrinair yn syth. Os nad wyt ti’n gallu mewngofnodi, mae gan y mwyafrif o weithredwyr cyfryngau cymdeithasol declyn ailosod cyfrinair (chwilia am y wefan cefnogaeth berthnasol neu’r botwm ‘help’). Byddi di’n derbyn cyfrinair newydd drwy e-bost neu ffôn symudol. Sicrha dy fod di’n cadw dy fanylion cyswllt yn gyfoes fel y gallant yrru cyfrinair newydd i ti.

8. Sut i’w stopio

Rheol rhif un: ANWYBYDDA’R TROLIAID!

Cymera sgrinlun a chadw cofnod o unrhyw gamdriniaeth rwyt ti’n ei dderbyn – paid dileu’r dystiolaeth.

Paid ymateb i unrhyw sylwadau ymosodol. Gall hyn fod yn anodd ond dyma’r peth gorau yn y pendraw. Mae troliaid (pobl sydd yn dweud pethau negyddol ar-lein am hwyl) wrth eu boddau gyda’r sylw – paid rhoi dim ac mae’n debyg y byddant yn diflannu.

9. Sut i’w adrodd

Mae’r mwyafrif o wefannau rhwydweithio cymdeithasol yn gwahardd ymddygiad ymosodol, gan gynnwys bwlio, harasio, dynwared a dwyn manylion personol. Os wyt ti angen gwneud cwyn, edrycha i weld os yw’r telerau ac amodau wedi’u torri. Cymera sgrinlun o’r sylwadau neu’r llun fel tystiolaeth a chysylltu â gweithredwyr y wefan. Gall adrodd bwlio ar Facebook a Twitter yn hawdd wrth glicio ar y tri smotyn neu’r saeth ar y top ochr dde a rhoi adborth/adrodd y neges. Edrycha ar y cyngor canlynol gan bob un o’r apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd:

Os wyt ti’n derbyn negeseuon testun ac/neu alwadau gofidus neu anaddas, adrodda’r bwlio i’r darparwr rhwydwaith symudol. Mae posib newid dy rif yn hawdd os wyt ti’n cael dy fwlio’n barhaol ar dy ffôn neu mae posib blocio rhifau anghyfarwydd – mae posib i ti flocio rhifau dy hun ar dy ffôn hefyd.

10. Mae cymorth ar gael

Dweud wrth rywun ti’n gallu ymddiried ynddyn nhw, fel y gallan nhw helpu ti i ddeall yr hyn sy’n digwydd. Gyda’ch gilydd bydd posib penderfynu ar y ffordd orau i ymateb i hyn – paid dioddef ar ben dy hun!

Os wyt ti’n derbyn bygythiadau difrifol neu barhaus yna dylet ti alw’r heddlu yn syth ar 999. Os nad allant gynnig yr help cywir i ti, gallant dy roi mewn cysylltiad â’r bobl gywir.

Galwa Meic. Rydym yma pan fyddi di angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu mewn sgwrs ar-lein.

Ymgyrch Wythnos Gwrth-Fwlio Meic:

6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio

Hawl i Beidio Cael Dy Fwlio

Dewis Parch Yn Wythnos Gwrth-fwlio

Seiberfwlio: Stop Siarad Cefnogi