Camdriniaeth Hanesyddol: Rhywbeth drwg sydd wedi digwydd yn y gorffennol

Os digwyddodd rhywbeth drwg i ti pan oeddet ti’n iau, yr enw am hyn yw camdriniaeth hanesyddol. Mae’n bwysig gwybod nad wyt ti ar ben dy hun ac mae’n bwysig siarad, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.
Beth yw camdriniaeth hanesyddol?
Nid yw camdriniaeth hanesyddol yn bwnc hawdd i’w drafod, ond mae’n un pwysig iawn.
Mae camdriniaeth hanesyddol yn cynnwys sawl profiad gwahanol, o gamdriniaeth gorfforol neu rywiol, i aflonyddu neu esgeulustod wnes di brofi pan oeddet ti’n iau.
Ydy hi’n rhy hwyr i roi gwybod i rywun am beth ddigwyddodd i mi?
Efallai dy fod yn meddwl, “ond roedd o mor bell yn ôl” neu “dwi ddim yn siŵr os oedd o mor ddrwg â hynny”. Does dim bwys os ddigwyddodd yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl, beth sy’n bwysig yw ei fod o wedi digwydd, ac efallai ei fod dal yn dy effeithio. Does dim terfyn amser ar roi gwybod am gamdriniaeth.
Efallai dy fod wedi drysu neu’n teimlo’n ofnus neu’n flin. Efallai dy fod yn teimlo cymysgedd llwyr o emosiynau, neu ddim yn hollol siŵr sut ti’n teimlo. Mae hyn i gyd yn hollol normal. Does dim ffordd ‘gywir’ i deimlo ar ôl profi camdriniaeth.
Mae meddwl am wneud adroddiad yn gallu bod yn llethol iawn. Gall ddod ag atgofion poenus yn ôl ac mae delio gyda dy deimladau ar ben dy hun yn gallu bod yn anodd. Efallai ti’n poeni na fydd neb yn dy gredu, neu am yr effaith fydd o’n cael ar dy fywyd. Mae’r rhain yn bryderon dilys, ond mae’n bwysig cofio nid oes rhaid i ti wneud hyn ar dy ben dy hun.
Codi llais
Un o’r pethau mwyaf pwerus galli di wneud yw siarad gyda rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw. Gallent fod yn aelod o’r teulu, ffrind, athro, tiwtor neu weithiwr ieuenctid. Mae rhannu dy brofiadau yn gallu rhoi rhyddhad mawr i ti.
Rhoi gwybod i’r awdurdodau
Pan ti’n barod, galli di roi gwybod i’r awdurdodau am beth ddigwyddodd. Galli di gysylltu gyda heddlu lleol drwy ffonio 101, neu wneud apwyntiad yn yr orsaf heddlu lleol.
Mae rhoi gwybod i bobl yn gallu teimlo’n ddychrynllyd, ac mae hynny’n ddealladwy. Cofia bod yr heddlu a gwasanaethau eraill yno i wrando arnat ti heb feirniadaeth. Eu blaenoriaeth yw sicrhau dy fod yn ddiogel a helpu ti ddeall dy opsiynau.
Gwasanaethau cefnogaeth
Mae nifer o wasanaethau cefnogaeth gwych ar gael sy’n cynnig cefnogaeth ar faterion sy’n ymwneud â chamdriniaeth. Gallet ti edrych ar eu gwefannau a gweld pa gefnogaeth sydd ar gael cyn gwneud dim.
Mae Victim Support yn elusen sy’n cefnogi dioddefwyr troseddau yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau sy’n rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, yn cynnwys cefnogaeth emosiynol, cyngor ymarferol ac eiriolaeth. Gallent dy helpu deall dy hawliau, ymdopi gyda’r system gyfiawnder a delio gydag effaith y drosedd arnat ti. Mae eu gwasanaethau ar gael i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd. Ni waeth a gafodd ei adrodd i’r heddlu neu pa mor bell yn ôl y digwyddodd. Galli di gysylltu gyda nhw drwy ffonio (0808 1689 111) neu drwy eu gwefan.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth cyfrinachol sydd ar agor 24/7 ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi trais yn erbyn merched, cam-drin domestig neu drais rhywiol yng Nghymru. Cymorth i Ferched Cymru sy’n rhedeg y llinell gymorth. Gallent ddarparu cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth a chyngor ymarferol. Gallent dy gysylltu gyda gwasanaethau cefnogaeth yn dy ardal. P’un a ydych chi’n profi cam-drin eich hun, neu’n pryderu am rywun arall, gall llinell gymorth Byw Heb Ofn gynnig cymorth ac arweiniad.
Mae’r NSPCC yn elusen plant sy’n gweithio i atal achosion o gam-drin yng Nghymru. Maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys llinell gymorth cyfrinachol sef Childline, gwybodaeth a chyngor i blant ac oedolion, a chefnogaeth i oroeswyr cam-drin plant. Maent yn ymgyrchu am newid i’r gyfraith ac yn gweithio i atal cam-drin plant rhag digwydd yn y lle cyntaf hefyd. Os wyt ti’n poeni am blentyn, neu os wyt ti’n oroeswr o gamdriniaeth yn ystod plentyndod, gall yr NSPCC gynnig help a chefnogaeth. Mae ganddynt adnoddau penodol ar gyfer oedolion sydd wedi profi camdriniaeth yn ystod plentyndod.
Edrych ar ôl dy hun
Mae rhannu profiad o gamdriniaeth hanesyddol yn beth dewr iawn. P’un os wyt ti’n dewis rhoi gwybod i’r awdurdodau neu beidio, mae’r penderfyniad yn dy ddwylo di. Blaenoriaetha dy les a sicrha dy fod ddim yn cael dy orfodi i wneud unrhyw beth ti ddim yn barod i’w wneud. Cymer bethau un dydd ar y tro, a chofia bod cefnogaeth ar gael, waeth be ti’n ddewis gwneud.
Siarad â Meic
Os nad wyt ti’n siŵr pwy i siarad efo, ystyria gysylltu gyda Meic. Rydym yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun a sgwrs ar-lein. Rydym yma i wrando a gallwn helpu ti ddeall dy opsiynau.
